Datganiad Ardal Morol – newyddion, blogiau a digwyddiadau
Llun gan Charles Lindenbaum
Mae'r Datganiadau Ardal hyn yn crynhoi trafodaethau’r ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym parhau i ymgysylltu ynghylch Datganiadau Ardal ac yn addasu ein cynlluniau ar gyfer digwyddiadau a gweithdai’r dyfodol oherwydd y pandemig Coronafeirws. Defnyddiwch y blychau adborth ar bob tudalen Datganiad Ardal i ddarganfod mwy.
Mae’r rhan fwyaf o’r meysydd parcio a’r llwybrau yn ein coetiroedd a’n gwarchodfeydd natur yn agored.
Er mwyn cael y diweddaraf ynglŷn â beth sy’n agored, gweler ein tudalen ymweld â’n safleoedd yn ystod y pandemig Coronafeirws.
Mae'r thema hon yn edrych ar gynllunio yn yr amgylchedd morol. Dylai cynllunio morol ein helpu i benderfynu'r hyn sy'n digwydd a ble i sicrhau bod ein moroedd yn iach ac yn wydn ac yn cyflenwi'r hyn sydd ei angen arnom – ynni, bwyd, mwynhad – nawr ac yn y dyfodol.
Ar dir, rydym yn gyfarwydd â phlannu coetiroedd a gwrychoedd neu hyd yn oed palu ffosydd i helpu i greu cynefinoedd newydd ac adfer natur yn uniongyrchol. Mae gwneud hyn ar y môr llawer yn anoddach – felly rydym yn dewis edrych ar well rheolaeth neu ar leihau'r pwysau ar yr amgylchedd morol (pwysau fel llygredd, datblygiadau morol neu weithgarwch pysgota). Mae hyn yn galluogi cynefinoedd a rhywogaethau i adfer yn naturiol. Mae cynllunio morol yn offeryn pwysig oherwydd mae'n llywio penderfyniadau o ran ble dylai ac na ddylai gweithgareddau ddigwydd ar ein moroedd.
Yn hanesyddol, gwnaed penderfyniadau am weithgareddau yn ein moroedd ar sail achosion unigol. Erbyn diwedd 2019, newidiodd hyn i gyd a mabwysiadwyd Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru gan Lywodraeth Cymru.
Am y tro cyntaf, rhaid i benderfyniadau sy'n berthnasol i'n hamgylchedd morol ystyried y darlun mwy. Mae hyn yn cynnwys sut mae gweithgareddau yn y môr yn effeithio ar lesiant cymunedau arfordirol, bywyd gwyllt y môr, a'n heconomi.
Mae ein moroedd yn gynyddol brysur wrth gefnogi ystod o weithgareddau a defnyddiau gwahanol. Er enghraifft:
Mae cynllunio morol yn ymwneud â dod o hyd i rywle i'r gweithgareddau hyn ffynnu, ar yr un pryd â sicrhau bod ein moroedd yn iach ac yn wydn.
Mae gwybodaeth ynghylch yr amgylchedd morol yn weddol ysbeidiol ac yn cael ei chadw’n aml mewn mannau gwahanol ac mewn fformatau gwahanol. Mae deall sut mae defnyddiau gwahanol o'r môr yn rhyngweithio â buddiannau eraill yn hanfodol er mwyn ein galluogi i wneud penderfyniadau ynghylch y mannau mwyaf addas ar gyfer gweithgareddau gwahanol. Mae casglu gwybodaeth ynghylch yr amgylchedd morol yn gostus. Mae'n bwysig felly i allu nodi tystiolaeth a thargedu'r gwaith o’i chasglu lle mae ei hangen arnom fwyaf.
Wrth i'n dealltwriaeth dyfu, gallai'r broses cynllunio morol ddechrau bod yn fwy rhagnodol. Byddai hyn yn golygu nodi pa weithgareddau dylai ddigwydd a ble, faint o weithgarwch sy'n briodol, a hyd yn oed ble gallai rhai gweithgareddau gael eu hosgoi.
Mae Cymru wedi cydnabod argyfwng yn yr hinsawdd ac ym myd natur. Mae'n oll bwysig ein bod yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd o gwmpas Cymru i gynaeafu ynni glân, adnewyddadwy o'r môr yn ein hymdrechion i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Bydd penderfyniadau ynglŷn â datblygiadau ynni adnewyddadwy ar y môr sy’n gynaliadwy, fel ffermydd gwynt, yn cael eu halinio â'r broses cynllunio morol newydd. Mae angen brys i sicrhau y bydd unrhyw ddatblygiadau adnewyddadwy sy’n cael eu hadeiladu ar ein moroedd yn gweithio mewn cytgord â'r amgylchedd naturiol o'u hamgylch.
Llun gan John Briggs
Yn ystod trafodaethau gyda'n partneriaid, rydym wedi nodi pethau penodol rydym ni gyd yn dymuno gweithio tuag atynt ar y cyd:
Rydym wedi bod yn edrych ar ba wybodaeth sydd yno o ran tystiolaeth neu ganllawiau ar sut rydym yn rheoli ein moroedd. Byddem yn hoffi nodi pa wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen fel ein bod yn gallu dechrau pontio'r bylchau.
Mae casglu a deall y dystiolaeth yn dasg fawr. Efallai na fydd yn bosib deall popeth y mae angen inni gynllunio ar ei gyfer yn y ffordd strwythuredig sydd gennym ar y tir.
Rydym eisoes yn gweithio gyda phartneriaid i archwilio hyn, gan ganolbwyntio ar dri sector:
llun wedi'i ddarparu gan Tarmac Marine Dredging Limited
Mae'r cynllun morol presennol yn cynnwys polisïau amgylcheddol sy'n amddiffyn ac yn gwella'r amgylchedd morol. Rydym wedi nodi'r angen am fwy o eglurhad ynghylch termau a ddefnyddir fel 'gwydnwch', 'gwelliant' a 'digolledu'. Mae angen rhagor o wybodaeth am ble y dylem dargedu ymdrechion i gynyddu gwydnwch yn nyfroedd Cymru. Mae arnom angen rhagor o wybodaeth hefyd am sut y gellir ymgorffori gwelliannau o fewn datblygiadau. Dylid ystyried y rhain i sicrhau bod adferiad natur yn cyflenwi'r budd mwyaf i bobl Cymru.
llun gan y Tîm Monitro Morol yn Cyfoeth Naturiol Cymru
Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd. Mae moroedd Cymraeg yn cynnig ystod o ffynonellau ynni adnewyddadwy o donnau, y llanw a'r gwynt. Fodd bynnag, mae gan y gweithgareddau hyn y potensial i effeithio ar ecosystemau morol a'r bywyd gwyllt maent yn ei gynnal. Mae angen i ni weithio gyda datblygwyr a phartneriaid eraill i ddeall a mynd i'r afael â'r heriau hyn os ydym am gyflawni'r potensial sydd gan ynni morol yng Nghymru.
Llun gan Kate Smith
Gan fod cynllunio morol yn gysyniad newydd, bydd yn cymryd amser i ddefnyddwyr y cynllun ddod yn gyfarwydd ag ef a'i ddefnyddio'n effeithiol. Gyda'n gilydd, hoffem archwilio sut y gall y broses cynllunio morol helpu i wneud gwell penderfyniadau, yn enwedig yn yr ardaloedd lle mae ffiniau yn gorgyffwrdd, a lle mae gan awdurdodau cyfagos gyfrifoldeb deuol i wneud penderfyniadau. Er enghraifft, yn aber afon Dyfrdwy ac aber afon Hafren, mae cynlluniau morol ar wahân yn bodoli yng Nghymru a Lloegr, ac mae gwneud penderfyniadau’n fwy cymhleth felly.
Rydym yn teimlo os cyflwynir canllawiau a thystiolaeth ar y raddfa gywir (e.e. aber i gyd), yna gallai awdurdodau wneud penderfyniadau mwy 'cydgysylltiedig'.
Rydym wedi gweithio gyda Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol Llywodraeth Cymru i archwilio a datblygu'r thema hon. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys ystod eang o bartneriaid gyda chefndiroedd ac arbenigeddau gwahanol yn y maes morol ac yn cynnwys y canlynol:
Mae'r grŵp hwn wedi bod wrthi’n gweithio gyda'i gilydd am beth amser i ystyried datblygiad cynllunio morol. Golygodd hyn ein bod yn gallu gweithio gyda'n gilydd yn gyflym i nodi'r cyfleoedd allweddol mewn cynllunio morol a'r camau y gallwn eu cymryd, fel unigolion neu ar y cyd, i fynd i'r afael â nhw.
Rydym yn ymwybodol nad ydym eto wedi ymgysylltu ar lefel fwy lleol ynglŷn â'r cyfleoedd sydd ynghlwm wrth gynllunio morol. Mae'n bosib y bydd gan rai pobl ychydig bach o wybodaeth uniongyrchol am yr amgylchedd morol ond diddordeb o hyd yn y manteision mae’n eu cynnig iddynt yn bersonol. Wrth symud ymlaen, blaenoriaeth fydd ymgysylltu ag ystod ehangach o bobl er mwyn deall eu safbwyntiau.
Wrth ddatblygu’r thema hon, gwnaethom nodi'r camau a nodwyd isod ar y cyd gyda'n partneriaid o'r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol. Mae Llywodraeth Cymru a'r grŵp cyfeirio wedi cadarnhau eu bod yn dymuno parhau i weithio gyda ni i arwain ar y camau hyn neu gyfrannu atynt.
Mae datblygu cynllun morol ar gyfer dyfroedd Cymru eisoes wedi dod ynghyd ystod eang o randdeiliaid. Mae'r drafodaeth a'r camau gweithredu a nodir yn y thema hon yn adlewyrchu diweddglo gwaith ymgysylltu ar y cyd dros sawl blwyddyn i lywio datblygiad cynllun morol sy'n addas i'r diben.
Mae'r camau gweithredu a nodir yn y Datganiad Ardal Forol hwn yn adlewyrchu'n safbwynt, sef os ydym yn adeiladu sylfaen dystiolaeth, byddwn yn gwella'n dealltwriaeth o ryngweithiadau gweithgareddau gwahanol yn ein moroedd. Dylai hyn helpu i gyfeirio gweithgareddau morol i'r lleoliadau gorau. Wrth i'n dealltwriaeth wella, gallai Llywodraeth Cymru addasu a newid polisïau’r cynllun i sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniadau gorau ynglŷn â defnyddio'n moroedd.
Trwy ganolbwyntio ar gefnogi'r sector ynni adnewyddadwy morol, rydym yn cymryd camau ataliol i leihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Rydym yn archwilio sut y gall y broses cynllunio morol gefnogi'r gwaith o adeiladu gwydnwch ein hecosystemau morol. Mae dealltwriaeth gyffredin o'r hyn y mae hyn yn ei olygu’n ymarferol yn gam hanfodol ac mae angen hefyd i ni ddeall pa offerynnau a mecanweithiau y gallem eu defnyddio i wneud hyn.
Rydym yn gwerthfawrogi bod y camau a nodwyd yma yn fyrdymor a byddant yn canolbwyntio’n bennaf dros y 12–24 mis nesaf. Fodd bynnag, byddant yn cyfrannu at weledigaeth hirdymor a rennir ar gyfer ein moroedd.
Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid presennol i gyflenwi'r gwaith hwn. Rydym hefyd yn bwriadu ymgysylltu â chymunedau lleol i'n helpu i ddeall sut mae pobl yn gwerthfawrogi'r moroedd o amgylch Cymru a hefyd sut maent am gymryd rhan yn y gwaith o reoli'r adnodd pwysig hwn. Gallai hyn arwain at safbwyntiau a thystiolaeth newydd i wella penderfyniadau o dan y Cynllun Morol.
Llun gan Bill Sanderson
Mae'r thema hon ond yn ddechrau i'r daith wrth i ni weithio gyda phobl yng Nghymru i wella rheolaeth ein harfordiroedd a'n moroedd. Os hoffech fod yn rhan o'r broses hon, cysylltwch â ni. Gallwch hefyd anfon neges e-bost uniongyrchol atom yn: marine.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk