Llun gan Peter Lewis

Ers cyhoeddi’r Datganiadau Ardal ym mis Mawrth 2020 maen nhw’n naturiol wedi esblygu i adlewyrchu blaenoriaethau ar ôl y pandemig ar gyfer ein hamgylchedd ar draws Canolbarth Cymru.

 

Cafwyd ffocws ar alluogi a grymuso cymunedau i ddatblygu eu gwytnwch eu hunain, gyda chymorth, i helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur ar raddfa leol.

Pam y thema hon?

Mae Canolbarth Cymru, siroedd Powys a Cheredigion yn bennaf, ymhlith y rhannau cyfoethocaf o Gymru o ran tirlun, natur ac ‘ardaloedd gwyllt’. Mae amaethyddiaeth yn cyflogi nifer fawr o bobl ac yn dylanwadu ar yr ardal y tu hwnt i giât y fferm. Mae’n darparu bwyd i Gymru a’r byd; mae’n darparu swyddi cysylltiedig mewn nifer o fusnesau gwledig, y sector cyhoeddus a thwristiaeth; mae’n creu cymunedau ffyniannus ac ymdeimlad o le sy’n rhychwantu gwahanol genedlaethau. Mae ffermwyr yn rhan annatod o Ganolbarth Cymru, ei diwylliant a’i thirwedd.


Machlud haul yn erbyn y bryniau gyda defaid yn y blaendirLlun gan Peter Lewis

Mae llawer o dirlun Canolbarth Cymru yn ffurfio’r rhostir ucheldir agored nodweddiadol gyda phlanhigfeydd coed gwasgaredig. Yn nodweddiadol mae llawer o’r dirwedd hon yn cael ei ystyried yn dir ‘amaethyddol llai ffafriol’, ac yn hanesyddol nid yw ei phwysigrwydd wedi’i gwerthfawrogi’n ddigonol am ddarparu ‘gwasanaethau ecosystem’ hanfodol – bioamrywiaeth, storio dŵr, storio carbon a hamdden i enwi dim ond rhai. Yn draddodiadol defnyddir yr ucheldiroedd ar gyfer pori defaid a gwartheg ac mae gan yr ardaloedd is yng Ngheredigion nifer uwch o fuchesi godro. Mae ffermio âr wedi’i wasgaru ar draws yr ardaloedd is.

Wrth i fusnesau ffermio gwledig geisio arallgyfeirio, mae unedau dofednod wedi dod yn fwyfwy poblogaidd ar nifer o ddaliadau fferm, gyda chymhellion mawr gan y sector bwyd. Er bod hyn yn amlwg wedi bod yn fuddiol i’r sector amaethyddol, cafwyd effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd naturiol, o ganlyniad uniongyrchol i’r cynnydd arwyddocaol mewn amonia a nitradau o’r swm o dail sy’n cael ei gynhyrchu. Er bod allyriadau llygredd aer amonia wedi sefydlogi’n gyffredinol ar draws y DU, maent wedi cynyddu’n sylweddol yng Nghanolbarth Cymru o ganlyniad yn bennaf i’r ehangiad yn niferoedd y dofednod. Cymru yw cynhyrchydd mwyaf wyau maes yn Ewrop erbyn hyn.  Mae’r tuedd hwn yn parhau wrth oherwydd yr angen parhaus i fusnesau gwledig arallgyfeirio.

Mae amonia yn wenwynig i blanhigion a chynefinoedd brodorol, a gall ei groniad a’i ledaeniad yn yr amgylchedd naturiol arwain at ddifrod sylweddol i gynefinoedd a cholli rhywogaethau. Mae llygredd amonia o’r nifer gynyddol o unedau amaethyddol dwys yn fygythiad arwyddocaol iawn yn awr i oroesiad yr amrywiaeth cyfoethog o gennau prin, sy’n sensitif i lygredd, sydd wedi’u gwasgaru ar hyd a lled Canolbarth Cymru.  Mae angen mesurau brys i fynd i’r afael â’r bygythiad parhaus hwn i’n hamgylchedd naturiol.

 

Gweirglodd gyda choedwigaeth yn y cefndir.Llun gan Rhys Jenkins

Dŵr yw un o’n hadnoddau naturiol mwyaf hanfodol. Mae angen i ni gydbwyso anghenion dŵr yr amgylchedd, cymdeithas a’r economi, yn awr ac yn y dyfodol. Rydym yn wynebu nifer o heriau a fydd yn cael effaith ar ein hadnoddau dŵr a’r ffordd maent yn cael eu rheoli. Mae’r rhain yn cynnwys twf y boblogaeth, galw cenedlaethol am ddŵr ar lefel y DU a newid yn yr hinsawdd.

Mae tarddle’r Afon Hafren, afon hiraf y DU, yng nghanol Canolbarth Cymru.  Mae Afon Hafren yn darparu adnoddau dŵr i ardaloedd mawr o Gymru a Lloegr. Mae Llyn Clywedog a Llyn Efyrnwy yn cael eu defnyddio i reoleiddio llif Afon Hafren er mwyn sicrhau argaeledd adnoddau dŵr.  Mae Afon Gwy yn ne Powys yn cael ei rheoli mewn dull tebyg. Mae dŵr yn cael ei ryddhau o Gronfeydd Dŵr Cwm Elan i ddarparu cyflenwad dŵr cyhoeddus i’r rhan fwyaf o Orllewin Canolbarth Lloegr.  Mae pwysau cynyddol ar adnoddau dŵr Canolbarth Cymru i ddarparu ar gyfer poblogaeth sy’n cynyddu’n barhaus.

 

Pysgodyn yn neidio allan o’r dŵrLlun gan Peter Lewis

Yn ogystal â rheoli ein hadnoddau dŵr, mae llifogydd arfordirol ac afonol yn parhau i fod yn fygythiad i’n cymunedau, busnesau a’r amgylchedd, ac mae enghreifftiau o hyn i’w gweld yn gynyddol ar ffurf digwyddiadau llifogydd ar draws Canolbarth Cymru. Mae’r cymunedau a’r tir amaethyddol ar hyd arfordir Ceredigion mewn perygl penodol yn sgil cynnydd yn lefel y môr. Mae amddiffynfeydd môr yn cynnig rhywfaint o amddiffyniad i asedau arfordirol. Ond mae diogelwch yr ardaloedd agored i lifogydd hyn yn yr hirdymor yn cyflwyno heriau difrifol i gymunedau a llunwyr polisi.

Mae Rheoli  Perygl Llifogydd Naturiol (NFRM) yn un ffordd o fynd i’r afael â’r perygl o lifogydd. Gall Rheoli Perygl Llifogydd Naturiol ddarparu dulliau sy’n sensitif yn amgylcheddol i leihau’r perygl o lifogydd mewn ardaloedd lle nad yw amddiffynfeydd llifogydd caled bellach yn ymarferol nac yn gost-effeithiol. Gall y rhain gynnwys plannu coed, rhwystrau yn y dŵr (er enghraifft argaeau hydraidd), rheoli pridd a thir, rheoli twyni a thraethau a chreu gwlypdiroedd newydd. Prif nod mabwysiadau mesurau Rheoli Perygl Llifogydd Naturiol yw helpu i arafu llif dŵr drwy ddulliau dalgylch gan leihau ac oedi llifoedd brig. Mae’n aml yn fwyaf effeithiol mewn prosiectau dalgylch ar raddfa fawr.

Wrth i’r digwyddiadau llifogydd ddod yn fwy mynych yn y dyfodol o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, mae angen i gymunedau Canolbarth Cymru ddod yn fwy addasol a gwydn, i’w galluogi i ymateb yn gyflymach i ddigwyddiadau drwy waith cynllunio a rheoli gwell.

Yn sgil y lefelau uchel o amaethyddiaeth ddwys yn yr ardal, mae’r posibilrwydd o ddigwyddiadau amgylcheddol wedi’u hachosi gan lygredd sy’n gysylltiedig â slyri yn broblem sylweddol yng Nghanolbarth Cymru. Er bod y mwyafrif helaeth o fusnesau ffermio yn gweithredu’n gyfrifol gyda pharch at yr amgylchedd naturiol, gall damweiniau ddigwydd, yn aml o ganlyniad i hen seilwaith fferm, pan fydd slyri neu lygryddion eraill yn gollwng ac yn ymuno â’r systemau afonydd, gan ddifrodi cynefinoedd, lladd bywyd dyfrol a llygru ein cyflenwadau dŵr.

Y prif feysydd ffocws dan sylw yn y thema hon yw:

  • Cefnogi busnesau ffermio drwy ffyrdd o weithio sy’n lleihau’r effeithiau ar yr amgylchedd

  • Cymryd mesurau i leihau llygredd drwy reoli ffynonellau llygredd posibl yn well (er enghraifft storfeydd slyri a thail/dom)

  • Gweithio gyda busnesau, cymunedau a llunwyr polisi i adolygu’r polisïau a’r cynlluniau amaethyddol presennol ac ymchwilio i opsiynau newydd ar gyfer Talu am Wasanaethau Ecosystem

  • Rheoli ein hadnoddau dŵr er mwyn gwella ansawdd a swm y dŵr sydd ar gael, heb achosi niwed i’r amgylchedd naturiol

  • Helpu i greu cymunedau addasol a gwydn mewn ymateb i ddigwyddiadau tywydd andwyol a newid yn yr hinsawdd

  • Cefnogi syniadau newydd yn ymwneud â datblygu Datrysiadau’n Seiliedig ar Natur - e.e. defnyddio arferion Rheoli Perygl Llifogydd Naturiol

Lluniwyd y rhestr uchod i ddarparu canllawiau ac i helpu io sod blaenoriaethau ar gyfer prosiectau a gweithio ar y cyd. Trwy edrych ar y meysydd ffocws hyn gyda’n gilydd, byddwn ni hefyd yn helpu i fynd i’r afael â’r Argyfyngau Bioamrywiaeth a Hinsawdd ar raddfa leol. Nid yw’r rhestr o feysydd ffocws yn gynhwysfawr o gwbl, ac nid ydynt yn diystyru unrhyw broblemau, syniadau neu ddatrysiadau newydd sy’n dod i’r amlwg. Rydym ni eisiau annog cymunedau i ddatblygu syniadau arloesol ar gyfer eu mentrau llesiant eu hunain yn y gymuned.

Beth fyddai llwyddiant yn ei olygu?

Mae ffermwyr yn deall eu tir ac yn rhoi gwerth mawr arno. Maent yn ymwybodol o’r cenedlaethau a fu a’r ffordd y gwnaethant addasu a meithrin eu ffermydd.  Maent yn edrych at genedlaethau’r dyfodol yn awr i arallgyfeirio a rheoli eu tir mewn ffyrdd cynaliadwy.

Nod Datganiad Ardal Canolbarth Cymru yw galluogi i sgyrsiau newydd gael eu cynnal.  Bydd ffermwyr, rheolwyr tir a rhanddeiliaid eraill yn dod ynghyd i greu consensws a sicrhau dealltwriaeth gyfunol o’r hyn y mae angen ei wneud a sut y byddwn yn gwneud hynny.  Gyda’n gilydd, byddwn yn datblygu atebion a fydd yn fuddiol i fyd amaeth, cymunedau a’r amgylchedd.

Mae ystod eang o waith gwych eisoes yn cael ei wneud gan bobl Canolbarth Cymru. Rydym eisiau dathlu’r arfer da a welwn eisoes ar draws Canolbarth Cymru, yn ogystal â chwilio am ffyrdd arloesol o fynd i’r afael â’r heriau a wynebwn yn y dyfodol.

Drwy weithio gyda’n gilydd i gyflawni’r thema Tir, Dŵr ac Aer Cynaliadwy, y gobaith yw y gwelwn:

  • Arferion ffermio cynaliadwy wedi’u cefnogi sy’n lleihau llygredd ac yn sicrhau’r budd amgylcheddol mwyaf

  • Gofod priodol ar gyfer byd amaeth a natur

  • Gwelliant yn ansawdd dŵr ein hafonydd, gyda lleihad sylweddol mewn lefelau ffosffad

  • Gwaith cynllunio gwell i reoli maetholion, pridd a dŵr yn y sector amaethyddiaeth

  • Lleihau effeithiau llygredd aer (nitradau ac amonia) ar ein hamgylchedd naturiol

  • Dulliau rheoli gwell o’n hadnoddau dŵr, gan gydbwyso’r galw ar ein cyflenwad dŵr gydag anghenion yr amgylchedd

  • Cyflwyno dulliau rheoli perygl llifogydd yn naturiol fel opsiwn ymarferol a hyfyw sy’n cydweddu’r dulliau traddodiadol o reoli’r perygl o lifogydd

  • Newid y ffordd yr ydym i gyd yn gweithio, a fydd yn arwain at ddealltwriaeth well o’r angen i weithio gyda’n gilydd

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yma?


Wrth ddatblygu’r Datganiad Ardal, defnyddiodd CNC ystod o adnoddau yn seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR), a Blaenoriaethau Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru. Fe wnaethom hefyd gymryd gwybodaeth o Gynlluniau Lles Powys a Cheredigion a’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i gyd-fynd â’u blaenoriaethau a’u Nodau Llesiant, yn seiliedig ar anghenion lleol.

Mae CNC yn bartner allweddol ym Myrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Canolbarth Cymru. Mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda’r nod o alluogi cyrff cyhoeddus i gydweithio i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal a chreu gwell dyfodol i bobl Cymru. Yng Nghanolbarth Cymru, mae gennym ni Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion.

Mae’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cynnal Asesiad Llesiant i ddeall y problemau a’r blaenoriaethau penodol mewn cymunedau lleol. Cynhyrchwyd Cynllun Llesiant gydag Amcanion Llesiant penodol, er mwyn gwella llesiant cymunedau. Mae’r cynlluniau a’r amcanion llesiant presennol yn weithredol rhwng 2018-2023.

Mae CNC yn gweithio fel rhan o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a Phowys i gyflawni’r amcanion llesiant ar lefel gymunedol.

Mae rhagor o fanylion ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys ar gael yma.

Fe wnaethom ni gynnwys ein rhanddeiliaid drwy gydol y broses o ddatblygu’r Datganiad Ardal, ac rydym ni’n parhau i wneud hynny.

Ers ei gyhoeddi yn y lle cyntaf ym mis Mawrth 2020, rydym ni wedi parhau i ymgysylltu gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid er gwaetha’r anawsterau’n gysylltiedig â phandemig byd-eang. Roeddem yn falch o’r angerdd a’r brwdfrydedd a ddangoswyd gan ein partneriaid a’n rhanddeiliaid wrth ein cynorthwyo i barhau i arwain Datganiad Ardal Canolbarth Cymru yn ei flaen, a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn.

Cynhaliwyd nifer o weithdai ymgysylltu rhwng 2019-2021 i ofyn i randdeiliaid beth hoffen nhw ei weld fel rhan o Ddatganiad Ardal Canolbarth Cymru. 

Roedd hi’n amlwg o’r gwaith ymgysylltu a’r adborth bod y broses Datganiad Ardal yn newid mawr. Mae angen i bawb, gan gynnwys CNC, addasu i’r ffordd newydd hon o weithio. Mae’n her, ond mae angen i bob un ohonom groesawu’r her er mwyn rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy at y dyfodol.

Gweithgareddau Ymgysylltu

9 Digwyddiad Ymgysylltu, 224 o Gyfranogwyr mewn Grwpiau Cyfoedion, 241 o Ddilynwyr Facebook, 764 o bobl wedi ymgysylltu hyd yn hyn

Ffigyrau’n adlewyrchu digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd yn 2019-2021

Roedd hi’n amlwg o’r gwaith ymgysylltu a’r adborth bod y broses Datganiad Ardal yn newydd i bawb a fu’n rhan ohono a bod y ‘ffordd newydd o weithio’ yn dal i adlewyrchu newid sylweddol o’r ffordd yr oedd pob un ohonom yn gweithio yn y gorffennol. Mae angen parhau i ddysgu, myfyrio ac addasu’r ffordd yr ydym ni i gyd yn gweithio er mwyn llwyddo.

Nod adolygiad 2022 o Ddatganiad Ardal Canolbarth Cymru yw diweddaru’r testun craidd hwn i adlewyrchu datblygiad naturiol y Datganiad Ardal dros y ddwy flynedd gyntaf. Mae’r newidiadau ers ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn dangos sut mae’r broses o greu datganiad wedi esblygu’n naturiol, yn seiliedig ar dystiolaeth o waith CNC a mewnbwn rhanddeiliaid. Bydd ein hymgysylltiad yn parhau wrth i’r Datganiad Ardal aeddfedu, datblygu ac esblygu.

Mae’r broses Datganiad Ardal yn un barhaus, a bydd y cam nesaf yn parhau i ddatblygu a chyflwyno camau gweithredu ar gyfer Canolbarth Cymru.

Mae angen i ni barhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid a’u cynorthwyo i ddeall pam  maen nhw wedi cael eu gwahodd i fod yn rhan o’r Datganiad Ardal a’r hyn y bydd yn ei olygu iddyn nhw.

Mae’n bwysig pwysleisio bod y Datganiad Ardal hwn yn perthyn i bob un ohonom.  Rydym yn ystyried mai rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yw helpu i hwyluso a sefydlu grwpiau cyfoedion ar y cam hwn, er mwyn annog a galluogi gwahanol randdeiliaid i ddod at ei gilydd a nodi blaenoriaethau ar gyfer y themâu ardal, y gallant ddatblygu camau gweithredu i’w cyflawni. Mae CNC eisiau symud i ffwrdd oddi wrth ‘ymgynghori’ tuag at ‘gydweithio’ a gweithredu ar lawr gwlad, hyd yn oed os mae hynny’n dal i fod yn daith ansicr i nifer wrth i ni wneud cynnydd gyda Datganiad Ardal Canolbarth Cymru.

Mae llawer o’r rhai a gymerodd ran yn ein gwaith ymgysylltu hyd yma wedi sefydlu perthnasoedd gwaith gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a gyda’i gilydd.  Mae’r broses ymgysylltu barhaus yn galluogi cyfleoedd pellach i ddatblygu perthnasoedd sydd eisoes wedi sefydlu a chreu rhai newydd. Nid yw’n rhy hwyr i gymryd rhan os oes gennych brosiect neu syniad da ar gyfer prosiect! Rydym yn disgwyl y bydd cyfleoedd pellach yn dod i’r amlwg wrth i’r broses ymgysylltu barhau. Rydym yn awyddus i annog cymaint o bobl â phosibl i ymuno â ni.

Beth yw’r camau nesaf?


Bydd angen ymrwymiad hirdymor gan bob un ohonom i gyflawni newid gwirioneddol.  Gyda’n gilydd, mae angen i ni ddatblygu ffordd i gydweithio er mwyn mynd i’r afael â materion amgylcheddol fel cymdeithas.  Gellir gweld hyn eisoes o amgylch Canolbarth Cymru mewn prosiectau niferus sy’n bodoli eisoes.  Rydym eisiau dathlu ac adeiladu ar bopeth sydd eisoes yn cael ei wneud, a defnyddio’r Datganiad Ardal hwn fel cyfrwng i ddod â phobl a sefydliadau ynghyd i hyrwyddo cydweithrediad ac annog gwaith cydgysylltiedig ar wahanol brosiectau.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi dechrau nodi rhwydweithiau lle gall prosiectau sy’n dilyn llwybrau tebyg uno a chydweithio.  Mae bwriad penodol yng Nghanolbarth Cymru i ddod â rhanddeiliaid ynghyd, nad ydynt o bosibl wedi gweithio ochr yn ochr â’i gilydd yn draddodiadol, ond a allai, gyda’i gilydd, gyflawni canlyniadau â buddiannau lluosog i bawb. Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Powys a Cheredigion wedi mabwysiadu’r dull hwn wrth gyflawni eu gwaith; yng Ngheredigion, maent wedi datblygu nifer o ‘is-grwpiau’ i fynd i’r afael â materion amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd ar lefel lle.

Dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, hoffem weld prosiectau a chyfleoedd yn datblygu er mwyn:

  • Datblygu cyfres o brosiectau cydweithredol rhwng ffermwyr a rhanddeiliaid er mwyn deall yn well y materion a chyflawni canlyniadau a fydd yn fuddiol i bawb

  • Datblygu agweddau graddfa dalgylch a thirlun er mwyn mynd i’r afael â llygredd yn y tarddle

  • Gweithredu dulliau rheoli tail/dom gwell ar ffermydd – gweithio gyda’r diwydiant, ffermwyr a llunwyr penderfyniadau

  • Gwella’r sylfaen dystiolaeth er mwyn asesu a rheoli iechyd ein priddoedd yn well ac annog mesurau ymarferol i leihau erydiad pridd

  • Gweithio ar draws sectorau er mwyn cynnal, gwella ac adfer ansawdd dŵr a chynefinoedd afonydd

  • Archwilio cyfleoedd ar gyfer cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd Naturiol yn ein tirluniau a’n dalgylchoedd ac annog cymunedau i ddatblygu gwytnwch trwy ddatrysiadau’n seiliedig ar natur

  • Gweithio’n fwy cydweithredol er mwyn sicrhau bod ein cymunedau a’n hasedau yn cael eu diogelu, yn awr ac ar gyfer y dyfodol

Bydd cyfleoedd ar gyfer cymorth ariannol i ddarparu prosiectau a syniadau trwy system gyllid grant Cyfoeth Naturiol Cymru. Cysylltwch â ni am fanylion pellach am y grantiau sydd ar gael, neu ewch i dudalen grantiau CNC.

Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?

Mae’r Datganiad Ardal yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae angen i ni barhau i ddatblygu ein sylfaen dystiolaeth ar gyfer Canolbarth Cymru, i’n galluogi i wneud gwell penderfyniadau ar gyfer y dyfodol.  Mae’n bosibl adolygu bylchau yn y dystiolaeth ac ychwanegu ati drwy gydweithio a defnyddio’r holl ddata sydd ar gael i ddatblygu amcan pob thema.Drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid, rydym wedi gallu gweithio gyda’n gilydd i nodi’r themâu ar gyfer Canolbarth Cymru.  Mae sgyrsiau a thrafodaethau wedi rhoi dealltwriaeth i ni o’r materion a’r pwysau y mae gwahanol rhanddeiliaid, sectorau a chymunedau yn eu hwynebu. 

Trwy gydol ein proses ymgysylltu, mae wedi dod yn glir bod angen i’r Datganiad Ardal barhau i ymgysylltu ac ysbrydoli amrediad eang o randdeiliaid a chymunedau (y tu hwnt i’r sector amgylcheddol) er mwyn cyflawni canlyniadau llwyddiannus ar lawr gwlad, yn ogystal â chodi proffil yr amgylchedd naturiol ymhlith cymunedau lleol a sefydlu ffyrdd newydd o sicrhau mynediad gwell i bawb.

Sut all pobl gymryd rhan?


Gallwch ymuno â ni ar Facebook! Mae grŵp Facebook Datganiad Ardal Canolbarth Cymru yn un ffordd i chi gael y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf am Ddatganiad Ardal Canolbarth Cymru.  Gall unrhyw un ymuno â’r drafodaeth ar-lein.  Mae’r grŵp wedi’i sefydlu i fod yn grŵp preifat ar hyn o bryd, ond rydym yn eich annog i sôn amdano ymhlith eich cydweithwyr a’ch cysylltiadau a allai fod yn awyddus i gymryd rhan.  Gofynnir tri chwestiwn syml i chi i ymuno â’r grŵp er mwyn ein bod yn sicrhau bod yr aelodau a’r cynnwys yn berthnasol i Ddatganiad Ardal Canolbarth Cymru.

Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiadau pellach ac yn datblygu grwpiau a sgyrsiau penodol am bob un o themâu Canolbarth Cymru.  Os ydych eisoes ar ein rhestr bostio, byddwn yn cysylltu â chi ynglŷn â’r rhain.  Os hoffech gael eich ychwanegu i’r rhestr, anfonwch e-bost i mid.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Mae angen i ni barhau i ddatblygu’r Datganiad Ardal gyda’n gilydd, i fynd i’r afael â’r argyfwng natur yng Nghanolbarth Cymru. Mae’r Datganiad Ardal yn berchen i bob un ohonom – pawb sydd eisiau cymryd rhan – a byddem yn annog cymaint o bobl â phosibl i ymuno â ni ar unrhyw adeg i helpu i ddatblygu’r Datganiad Ardal fel proses sy’n esblygu’n barhaus. Os hoffech fod yn rhan o’r broses hon, cysylltwch â ni.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf