Pam y thema hon?


Mae'r term ‘seilwaith gwyrdd' yn un a ddefnyddir weithiau i ddisgrifio ystod eang o nodweddion, gofodau, afonydd a llynnoedd naturiol a lled-naturiol, gan gynnwys parciau, caeau, rhandiroedd, gwrychoedd, ymylon ffyrdd a gerddi, heb sôn am ecosystemau cyfan fel gwlyptiroedd, dyfrffyrdd a mynyddoedd. Ni waeth beth yw'r berchnogaeth, y cyflwr neu'r maint, mae'r ymbarél 'seilwaith gwyrdd' yn ei gynnwys i gyd.

Ar y cyd, mae'r rhain yn darparu amrywiaeth o swyddogaethau a defnyddiau naturiol. Er enghraifft, drwy wella ein cysylltedd drwy lwybrau cerdded a beicio, gallwn hefyd greu lle i natur drwy gysylltu cynefinoedd, sefydlu cyfleusterau hamdden (â manteision addysgol ac i iechyd corfforol) a 'gwyrddu' ein hardaloedd trefol, gan eu gwneud yn fwy gwydn i effaith hinsawdd sy'n newid.

Mae’r buddion ecosystem a allai ddod o fannau gwyrdd trefol o bosib yn sylweddol.  Yn y gorffennol, nid oedd pwysigrwydd yr ardaloedd hyn o ran iechyd a llesiant cyffredinol yn cael ei werthfawrogi bob tro, gan olygu nad oedd eu potensial yn cael ei wireddu.

Drwy gydol ein cyswllt parhaus, mae seilwaith gwyrdd (ac atebion seiliedig ar natur) wedi bod yn thema sy'n cael ei chefnogi'n dda â gweledigaeth gref a chlir. Mae mwy o waith i gael ei wneud ond mae cyfleoedd eisoes wedi cael eu nodi, ynghyd â rhanddeiliaid sy'n awyddus i gefnogi'r math o seilwaith gwyrdd sy'n cyflawni gwasanaethau ecosystemau i gymunedau. Er enghraifft, gall manteision lluosog adeiladu seilwaith gwyrdd i leihau llygredd sŵn hefyd gynnwys opsiynau eraill fel amsugno dŵr stormydd, trapio llygredd aer, lleihau effeithiau tywydd poeth a chreu lleoedd i wneud ymarfer corff iach.

Pobol yn cerdded yn parc dinas yn Wrecsam

Mae'n hanfodol ein bod yn rhoi cymunedau wrth wraidd y Datganiad Ardal. Cydnabyddir yn aml fod gan ardaloedd difreintiedig lai o fannau gwyrdd a rhai sydd o ansawdd is nag ardaloedd mwy cefnog yn yr un ddinas. Felly, gall buddsoddi mewn seilwaith gwyrdd gael effaith fwy cadarnhaol ar ardaloedd difreintiedig. Mae rhannau o'r Rhyl, sydd ymysg y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, yn cynnwys cyn lleied â 1% o frigdwf coed. O ystyried hynny, gall gweithio gyda chymunedau i wella mynediad i fannau gwyrdd gael manteision amgylcheddol ac iechyd/llesiant lluosog.

Gall seilwaith gwyrdd hefyd helpu i gyflawni yn erbyn blaenoriaethau canlynol y Polisi Adnoddau Naturiol:

Addasu i'r newid yn yr hinsawdd

O ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd, gall Gogledd-ddwyrain Cymru ddisgwyl gweld mwy o law a llifogydd mewn ardaloedd arfordirol isel, yn ogystal â hafau poethach a mwy sych. Mae'r rhagamcanion hefyd yn rhagweld mwy o ddiwrnodau hynod gynnes ynghyd â gaeafau mwynach a gwlypach. Y bobl sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan hyn yw'r bobl yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Gall seilwaith gwyrdd wneud cyfraniad sylweddol at addasu i'r newid yn yr hinsawdd a'i liniaru.

Gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth

Mae seilwaith gwyrdd yn darparu ac yn gwella cynefinoedd bywyd gwyllt yn ein trefi a'n dinasoedd (a gall helpu i gysylltu poblogaethau bywyd gwyllt rhwng cynefinoedd). Yn adroddiad Sefyllfa byd natur 2019, cafodd ei ddatgelu bod bywyd gwyllt yng Nghymru'n parhau i ddirywio, gydag 17% o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu. Ers y 1970au, mae gloÿnnod byw a gwyfynod wedi dioddef dirywiad o 52% yng Nghymru. Mae rhywogaethau sydd dan fygythiad yng Ngogledd-ddwyrain Cymru'n cynnwys y gylfinir, yr eog, y rugiar ddu, y wiwer goch a'r fadfall ddŵr gribog.

Lleihau lefelau llygredd yn ein haer, gwella ansawdd aer, a lleihau llygredd sŵn

Yn y DU, mae ansawdd aer gwael yn cyfrannu at oddeutu 40,000 o farwolaethau'r flwyddyn ac yn costio dros £20 biliwn i ddinasoedd/rhanbarthau. Mewn gwyddor, gall seilwaith gwyrdd helpu i gael gwared ar lygryddion aer a'u dosbarthu. Yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, effeithir ar ansawdd yr aer gan y prif rwydweithiau trafnidiaeth sy'n cris-croesi ar draws ein tirwedd, ynghyd â'r llygredd sŵn cysylltiedig sy'n gallu cael effaith ar ein hiechyd a'n llesiant yn ogystal â'r amgylchedd. Mewn gwirionedd, gwnaeth ardaloedd tawel ostwng 10% (81 km2) yng Ngogledd-ddwyrain Cymru dros gyfnod o 11 o flynyddoedd rhwng 1998 a 2009.

Datblygu rhwydweithiau ecolegol gwydn

Gall rhwydweithiau o gynefinoedd lled-naturiol a seilwaith gwyrdd sydd wedi'u cynllunio a'u cyflawni’n strategol gysylltu cynefinoedd sydd eisoes yn bodoli, gan eu gwneud yn fwy, yn well ac yn fwy gwydn. Mae seilwaith gwyrdd newydd yn creu mannau ar gyfer bywyd gwyllt ac yn gwella cysylltedd rhwng safleoedd lle mae bywyd gwyllt yn bodoli, gan helpu rhywogaethau i ddod yn fwy gwydn i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.

Gwella ansawdd ein dŵr a sicrhau cyflenwad digonol ohono

Mae seilwaith gwyrdd yn gwella ansawdd dŵr drwy ostwng swm y dŵr stormydd sy'n cyrraedd dyfrffyrdd, ynghyd â thynnu halogyddion o'r dŵr sydd yn eu cyrraedd.

Ceir dau brif ddalgylch yma yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, sef afon Clwyd ac afon Dyfrdwy. Mae’r rhan fwyaf o ddalgylch afon Clwyd yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, er bod mwyafrif un isafon fawr, afon Elwy, yn ardal Gogledd-orllewin Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae rhannau uchaf afon Dyfrdwy hefyd yn ymestyn i ardal Gogledd-orllewin Cymru, gyda'r dalgylch isaf yn lledu dros ffin Lloegr i Wastadedd Sir Gaer ac aber afon Dyfrdwy.

Mae bron tair miliwn o bobl yn cael eu dŵr yfed o afon Dyfrdwy, gyda llawer ohonynt yn byw yn Lloegr. Mae pwysigrwydd strategol afon Dyfrdwy fel ffynhonnell dŵr yfed, a'r perygl iddi oherwydd llygredd, wedi arwain at yr afon yn dod yn un o'r afonydd sy’n cael eu gwarchod fwyaf yn Ewrop, gan ddod yn Barth Diogelu Dŵr dynodedig yn 1999.

Mae gan afon Clwyd ei rhagnentydd yng Nghoedwig Clocaenog, ac mae afon Elwy'n codi i'r gorllewin ar Fynydd Hiraethog. Mae amaethyddiaeth â’r dylanwad mwyaf yn nalgylch gwledig afon Clwyd. Mae rhan o'r dalgylch isaf yn Barth Perygl Nitradau ar gyfer dŵr wyneb a dŵr daear. Yn 2015, nid oedd 68% o’r holl gyrff dŵr croyw (fel y’u diffiniwyd gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) yn cyflawni statws da neu'n well yn gyffredinol yng Ngogledd-ddwyrain Cymru. Roedd y ffactorau cyfrannol yn cynnwys y canlynol:

  • Roedd addasu ffisegol yn gyfrifol am 22% o fethiannau oherwydd pwysau fel rhwystrau yn atal pysgod rhag mudo (e.e. coredau)

  • Roedd llygredd o garthion a dŵr gwastraff yn gyfrifol am 22% o fethiannau

  • Roedd llygredd o ardaloedd gwledig (gan gynnwys arferion rheoli tir yn ogystal ag effeithiau o ddefnyddiau eraill fel ceffylau/stablau a chyrsiau golff) yn gyfrifol am 24% o fethiannau

  • Roedd llygredd o drefi, dinasoedd a thrafnidiaeth yn gyfrifol am 8% o fethiannau

  • Roedd llygredd o fwynfeydd yn gyfrifol am 6% o fethiannau

Mae'r traeth yn y Rhyl wedi'i amgylchynu gan y dref ei hun ac wedi'i leoli ger aber afon Clwyd. Yma, gall y dynodiad dŵr ymdrochi fod yn amodol ar y llygredd a achosir wrth i law trwm olchi deunydd ysgarthol i'r môr o dda byw, carthion a draeniau trefol ar hyd afonydd a nentydd. Ers 2015, mae'r dŵr ymdrochi wedi'i ddynodi fel 'digonol'. Bron nad oes rhaid dweud bod y dyfroedd ymdrochi ar hyd yr arfordir yn hanfodol i'r economi twristiaeth leol.

Gwella rheolaeth coetiroedd presennol a defnydd mwy eang o goed

Mae coed a choetiroedd yn cyflwyno amrywiaeth eang o fanteision, gan gynnwys:

  • Ansawdd bywyd gwell i bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Ngogledd-ddwyrain Cymru

  • Hyrwyddo ymdeimlad o iechyd a llesiant

  • Cynyddu preifatrwydd mewn ffyrdd a gerddi preswyl drwy sgrinio

  • Cynyddu gwerthoedd eiddo, yn benodol ar strydoedd â choed arnynt

  • Cysylltu mannau gwyrdd i bobl a bywyd gwyllt

  • Hidlo llwch yn yr aer wrth rwystro sŵn hefyd

  • Darparu cysgod i liniaru'r 'effaith ynys wres drefol' (pan fydd ardal drefol yn cynhesu'n fwy sylweddol na'r ardaloedd amgylchynol oherwydd gweithgareddau dynol)

Yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, collwyd 1,758 o goed mawr dros saith mlynedd, gan leihau'r nifer o fanteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y mae brigdwf trefol a choed amwynder yn eu darparu. Mae clefyd coed ynn, ynghyd â chlefydau planhigion eraill, hefyd yn peri risg sylweddol i goetir ynn a choed ynn amwynder trefol yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.

Diogelu a chynyddu storfeydd carbon mewn priddoedd a biomas

Gall seilwaith gwyrdd gyfrannu at ddefnyddio a storio carbon, gan helpu i liniaru'r newid yn yr hinsawdd. Mae coed, ynghyd â seilwaith gwrdd arall, yn gweithredu fel dalfeydd carbon, gan amsugno gormodedd o ddŵr a lleihau'r 'effaith ynys wres drefol'. Mewn llyfr a gyhoeddwyd yn 2002, 'Your Parks: The Benefits of Parks and Greenspace’, mae David Tibbatts yn nodi bod coeden ffawydd 80 troedfedd yn amsugno allbwn carbon deuocsid dyddiol dau gartref teuluol.

Lleihau'r perygl o lifogydd tir ac arfordirol

Mae llawer o gymunedau yng Ngogledd-ddwyrain Cymru'n agored i lifogydd dŵr wyneb, sy'n gyffredin mewn ardaloedd adeiledig/trefol lle mae datblygiadau fel ffyrdd, adeiladau ac arwynebau caled eraill yn atal dŵr glaw rhag mynd i'r tir. Gallant hefyd ddigwydd mewn ardaloedd gwledig lle mae glaw trwm yn llifo oddi ar gaeau serth, tir cywasgedig ac arwynebau anathraidd eraill.

Gall seilwaith gwyrdd ein helpu i reoli'r risgiau a berir gan lifogydd ac erydu arfordirol, ynghyd â'n helpu ni i addasu i'r newid yn yr hinsawdd. Mae coed a ffurfiau eraill ar lystyfiant fel gerddi, parciau a gwlyptiroedd yn gweithredu fel clustogfeydd neu storfeydd ar gyfer dŵr glaw. Mae'n bwysig sicrhau bod yr atebion seiliedig ar natur cywir yn cael eu dylunio ar gyfer y lleoliadau cywir ac, yn y pen draw, fod y manteision lluosog maent yn eu darparu’n cael eu gwireddu.

Sut olwg fyddai ar lwyddiant?


Drwy gydol ein proses ymgysylltu, mae wedi dod yn glir fod angen i'r Datganiad Ardal wneud y canlynol:

  • Ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid (y tu hwnt i'r sector amgylcheddol) a chymunedau a’u hysbrydoli i gyflawni mentrau seilwaith gwyrdd

  • Datblygu astudiaethau achos sy'n dangos agweddau gwahanol ar seilwaith gwyrdd a'r manteision maent yn eu darparu i gymunedau a'r amgylchedd

  • Nodi sut y gall gosodiadau seilwaith gwyrdd gael eu rheoli a'u cynnal a'u cadw unwaith iddynt gael eu datblygu

  • Dylanwadu ar Gynlluniau Datblygu Lleol, asesiadau seilwaith gwyrdd a phenderfyniadau cynllunio dilynol yn llwyddiannus

  • Annog ymagwedd gydgysylltiedig ar draws y tri awdurdod lleol, gan fwyafu ar gyfleoedd ac osgoi dyblygu (er enghraifft, un awdurdod yn plannu coed mewn un arall i leihau effeithiau llifogydd)

  • Cydweithio rhwng byrddau cymeradwyo datblygiadau a systemau draenio cynaliadwy

  • Nodi cyfleoedd ar gyfer seilwaith gwyrdd mewn ffordd ragweithiol

  • Codi proffil ein hamgylchedd naturiol lleol a phresennol ger cymunedau, a sut mae modd cael mynediad iddo am ddim / yn rhad

  • Annog sgyrsiau cadarn am ymagweddau arloesol i ariannu a chyflawni seilwaith gwyrdd (e.e. trethiant lleol)

  • Nodi cyfleoedd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd ac amddifadedd drwy ddefnyddio seilwaith gwyrdd

  • Ymgysylltu â'r sector preifat a cheisio cyfleoedd am seilwaith gwyrdd drwy hyrwyddo manteision ymagwedd werdd

  • Dylanwadu ar y broses gynllunio mewn ffordd ystyrlon i gynnwys seilwaith gwyrdd, yn hytrach na'i fod yn ôl-ystyriaeth

  • Ymgysylltu â chymunedau i gael dealltwriaeth drwyadl o'r blaenoriaethau, wrth eu hannog hefyd i arwain ar y broses gwneud penderfyniadau

Yn ogystal, nodwyd y cyfleoedd canlynol hefyd drwy broses ymgysylltu’r Datganiad Ardal:

Diffinio seilwaith gwyrdd ar lefel gymunedol

Oherwydd ei natur amlswyddogaethol, mae 'seilwaith gwyrdd' wedi'i ddiffinio mewn ffyrdd lluosog, cymhleth yn aml. Mae'n bwysig sicrhau pan fyddwn yn siarad am y manteision y gall seilwaith gwyrdd eu cyflawni dros gymuned ein bod yn gwneud hyn mewn modd clir ac effeithiol. Enghraifft dda o hyn yw'r prosiect ‘Grangetown Gwyrddach’ yng Nghaerdydd, sy'n cynnwys ffyrdd gwell o reoli dŵr glaw yn y gymuned, gan gyflawni manteision lluosog i'r amgylchedd ac iechyd/llesiant.

Plant yn chwarae yn cromen helyg ar dir Ysgol Cynddelw. Glyn Ceiriog, Wrecsam

Cynnal, gwella a chreu parthau torlannol

Parthau torlannol yw glannau nentydd, afonydd, llynnoedd a gwlyptiroedd. Mae glannau cyrff dŵr iach yn hidlo llygryddion fel maetholion a gwaddod, ac mae llystyfiant yn helpu i leihau erydiad ar y glannau a chynnal sianel ffrwd sefydlog. Mae llystyfiant hefyd yn darparu cysgod, sydd, yn ei dro, yn lleihau tymheredd y dŵr. Gall cyflwyno natur yn ôl i'n nentydd a'n hafonydd trefol, wrth ddiogelu glannau nentydd ac afonydd gwledig rhag gorbori a sathru, helpu i wella ansawdd y dŵr.

Rheoli ymylon ffyrdd yn well er bywyd gwyllt

Deuir o hyd i dros 700 o rywogaethau a bron 45% o'n fflora i gyd ar ymylon ffyrdd. O ystyried ein bod wedi colli 97% o'n dolau blodau gwyllt ers y 1930au, mae angen rheoli'r cynefinoedd hanfodol hyn yn gywir. Bydd proses y Datganiad Ardal yn caniatáu ar gyfer datblygu perthnasoedd cryf ac o fudd i bawb â phartneriaid lleol i hyrwyddo manteision seilwaith gwyrdd i gymunedau, er mwyn annog ymylon ffyrdd a mannau gwyrdd a thiroedd cyhoeddus eraill i gael eu rheoli'n well.

Cynyddu’r brigdwf trefol

Bydd y Datganiad Ardal yn cefnogi cymunedau i ddarparu amddiffyniad effeithiol rhag aer llygredig, creu 'coridor gwyrdd' glân ar gyfer teithio llesol a gwneud lle i fywyd gwyllt, ac ar yr un pryd bydd yn rhoi hwb i ddelwedd a ffyniant tref drwy gyfoethogi'r amgylchedd. Mae modd gwneud hyn drwy gynyddu'r brigdwf trefol mewn cymunedau difreintiedig, annog cymunedau i anelu at Safon Coedwigaeth y DU (gan greu trefi 'coetir' felly) ac ymateb i'r argyfwng clefyd coed ynn / plannu coed amwynder newydd yn lle’r rhai a gollwyd.

Gwella cyfleoedd ar gyfer tyfu cymunedol

Bydd y Datganiad Ardal yn annog model gardd gymunedol sy'n rhoi'r cyfle i feddygon teulu ragnodi gweithgareddau corfforol cymdeithasol a lefel isel mewn gerddi mewn canolfannau cymunedol lleol, gan helpu i gyflawni'r manteision lluosog y gall 'gwyrddu' eu cynnig. Gweler ‘Grow Cardiff – Y Prosiect Tyfu'n Dda – Iechyd Cymunedol’ fel enghraifft o'r hyn y mae modd ei gyflawni (potential link to go here?).

Cynlluniau draenio cynaliadwy

Mae draenio cynaliadwy'n cyflawni manteision lluosog, gan gynnwys dal llygredd gwasgaredig, arafu'r llif a chreu cynefin gwlyptir gwerthfawr. Y nod yw gweithredu'r math cywir o ymyrraeth yn y lle cywir.

Pob ysgol yng Ngogledd-ddwyrain Cymru i fod yn gysylltiedig â man gwyrdd a mynnu ‘perchenogaeth’ ar yr ardal honno

Bydd y Datganiad Ardal yn adeiladu ar fentrau sy'n bodoli eisoes i annog cysylltiadau rhwng ysgolion, elusennau'r amgylchedd naturiol a mannau gwyrdd lleol, gyda'r nod o annog pobl ifanc i ddymuno ymgysylltu'n fwy â'r amgylchedd. Gan ddefnyddio arian i eco-sgolion a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, mae Ysgol Uwchradd y Rhyl yn cymryd rhan mewn prosiect i blannu gwelyau tyfu blodau a llysiau, ac ar yr un pryd yn rheoli tir drwy gynyddu storfeydd dŵr, lleihau dŵr ffo a gwella ansawdd dŵr. Mae'r prosiect hefyd yn lleihau'r posibilrwydd o lifogydd lleol drwy storio/symud oddeutu 261 m3 o ddŵr wyneb.

Annog Cynlluniau Datblygu Lleol i gael presenoldeb seilwaith gwyrdd cryfach, wrth sicrhau bod coed ac atebion seiliedig ar natur yn cael eu cynnwys mewn datblygiadau newydd

Yn rhy aml, ystyrir bod yr amgylchedd yn gyfyngiad problematig yn unig wrth gyflawni cynlluniau datblygu hyfyw. Mae angen i'r Datganiad Ardal gefnogi awdurdodau lleol, gan lunio Asesiadau Seilwaith Gwyrdd i wella ac uno nodweddion gwyrdd mewn ardaloedd trefol ac yng nghefn gwlad. Mae'n rhaid gwneud cysylltiadau rhwng parciau, yr arfordir a mannau gwyrdd drwy lwybrau teithiol llesol bioamrywiol i bobl, bywyd gwyllt a'r amgylchedd. Lle y bo'n bosib, dylai'r llwybrau teithio hyn gymryd lle teithiau byr mewn ceir. Hyd yn hyn, dim ond nifer bach o awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru sydd wedi cyflwyno Ardoll Seilwaith Cymunedol (wedi'i lansio fel ffordd o helpu awdurdodau lleol i gyflawni mathau penodol o seilwaith). O ganlyniad, nid yw ei dylanwad ar seilwaith gwyrdd ac atebion seiliedig ar natur wedi’i wireddu eto.

Offeryn ymgysylltu Map Stori

Byddai creu offeryn 'Map Stori' er mwyn ymgysylltu â’r cyhoedd yn galluogi pobl i ddilyn cynnydd, gan ddangos tystiolaeth a llwyddiant yn erbyn y thema. Gallai hyn, yn ei dro, alluogi mwy o newid, dylanwadu ar farn a chynyddu ymwybyddiaeth. Byddai'r mapiau hyn yn cael eu dylunio ar gyfer unrhyw gynulleidfa â mynediad i'r rhyngrwyd.

Cysylltu cymunedau â mannau gwyrdd a'r cefn gwlad ehangach

Mae'r dystiolaeth yn glir – mae gwell mynediad i fannau gwyrdd yn arwain ar amrywiaeth well o ganlyniadau iechyd a llesiant. Fodd bynnag, os, am ba reswm bynnag, nad yw pobl yn cael profi mannau gwyrdd, yna mae eu gwerth fel swyddogaeth gymdeithasol yn dirywio. Mae oddeutu 80% o boblogaeth Sir y Fflint yn byw ar 20% o dir y sir, lle gall cael mynediad i fannau gwyrdd fod yn heriol. Mae angen i fannau gwyrdd fod yn agos ac yn hygyrch i gymunedau, rhywbeth a fyddai’n lleihau'r angen i deithio ymhellach er mwyn cyrraedd cefn gwlad ehangach ar ben y manteision iechyd/llesiant cysylltiedig. Mae llawer o bobl yng Ngogledd-ddwyrain Cymru eisoes yn defnyddio'r A55 i fynd i Eryri yn hytrach na chwilio am gefn gwlad yn agosach at eu cartrefi.

Teulu yn eistedd ar fainc yng Nghwm Clywedog© Hawlfraint y Goron (2019) Cymru

Datblygu astudiaethau achos

Mae straeon yn bwysig. Maent yn ennyn ein diddordeb, felly rydym yn dysgu ganddynt. Mae angen i ni ddatblygu a rhannu astudiaethau achos am brosiectau seilwaith gwyrdd sy'n amlinellu'r problemau a'r ymyriadau ac sy'n dangos y llwyddiannau. Drwy wneud hynny, gallwn dynnu sylw at fwy o gyfleoedd o ran seilwaith gwyrdd. Dylai'r astudiaethau achos hyn hefyd fynd i'r afael â'r gamdybiaeth gyffredin fod manteision amgylcheddol yn cael eu cyflawni ar draul datblygiad economaidd.

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?


I gyd, daeth 148 o bobl yn cynrychioli 68 o sefydliadau ar draws 28 o sectorau gwahanol (â chylchoedd gorchwyl eang) i bum digwyddiad ymgysylltu wedi'u trefnu gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod 2019. Gwnaeth pob un ond un ddigwydd mewn lleoliadau cymunedol lleol, ac eithrio lleoliad mwy, trefol, Neuadd Tref Dinbych ym mis Gorffennaf. Gwnaethom hefyd ymgysylltu ag uwch-reolwyr ac arweinwyr portffolio'r tri awdurdod lleol yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.

Roedd Dafydd Thomas, ymgynghorydd llesiant allanol, yn bresennol ym mhob digwyddiad, a oedd yn cynnwys gweithdrefn arloesol o'r enw 'cylch cyfarfod' wedi'i dylunio i annog cyfranogwyr i rannu eu teimladau gwirioneddol, blaenoriaethu'r hyn oedd wir yn bwysig iddynt, a gweithio gyda'i gilydd i gael canlyniadau.

Roedd seilwaith gwyrdd wastad yn creu llawer o drafodaeth yn ein digwyddiadau ymgysylltu, yn aml rhwng sectorau eang ac amrywiol, gan gynnwys cwmnïau dŵr, ymddiriedolaethau afonydd, awdurdodau lleol, a sefydliadau sy'n cynrychioli cadwraeth, hamdden a mynediad, iechyd, addysg, a'r sector amaethyddol. Roedd gan lawer o'r sefydliadau a gymerodd ran brofiad sylweddol eisoes mewn seilwaith gwyrdd ac roeddent yn gallu gwneud awgrymiadau gwerthfawr am sut gallai'r weledigaeth hon gael ei chyflawni.

Er gwaethaf bod llawer o sectorau'n cael eu cynrychioli, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymwybodol fod angen ehangu apêl Datganiadau Ardal y tu hwnt i'r 'bobl arferol'. Mae angen i gymunedau a'r sector nad yw'n ymwneud â'r amgylchedd gymryd rhan (hyd yn hyn, roedd cyfranogwyr o'r sector nad yw'n ymwneud â'r amgylchedd ond yn cyfri am 15% o'r sawl a gymerodd ran). Gan weithio gyda Chyngor Sir y Fflint, anfonwyd gwahoddiadau at oddeutu 2,500 o fusnesau bach a chanolig, eto mae'r ymateb hyd yn hyn wedi bod yn siomedig. Fodd bynnag, rydym wedi gweithio gyda'r sefydliad Cymru Ifanc, a gynhaliodd gyfres o weithdai ar draws Gogledd-ddwyrain Cymru a fydd yn cyfrannu at y Datganiad Ardal ac, yn y broses, yn ymgysylltu â phobl ifanc ac yn eu grymuso.

Rydym bob tro wedi cydnabod pa mor bwysig yw ymgysylltu â chymunedau, ac rydym yn y broses o ystyried y ffordd orau o wneud hynny er mwyn mwyafu ar y cyfleoedd sydd wedi cael eu trafod hyd yn hyn. Gadewch i ni eich sicrhau y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog ac yn cefnogi cymunedau i ddod ynghyd i ffurfio grwpiau sy'n rhannu nodau neu ddibenion cyffredin, gan eu helpu i lunio a chyflawni'r Datganiad Ardal fel ei fod o fudd i'w cymunedau lleol.

Pobol yn gwrando ar ddigwyddiad ymgysylltu Gogledd-ddwyrain Cymru

Beth yw'r camau nesaf?


Drwy gydol 2020, byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid wrth i ni ddechrau cyflwyno'r cyfleoedd a nodwyd drwy'r Datganiad Ardal. Rydym yn disgwyl i fwy o gyfleoedd godi wrth i'r broses ymgysylltu fynd yn ei blaen.

Mae ein camau gweithredu'n cynnwys y canlynol:

  • Ceisio ehangu apêl proses y Datganiad Ardal, gan annog sefydliadau i ddeall bod hyn yn rhywbeth y gallant ei llunio, dylanwadu arni ac ymgysylltu â hi

  • Adolygu'r Datganiad Ardal yn gyson, gan ddatgelu syniadau a thystiolaeth newydd sy'n dod i'r amlwg, ynghyd â thrafodaethau sy'n cael eu cynnal

  • Parhau i fapio'n hymgysylltiad â rhanddeiliaid yn ofalus, gan estyn allan i sectorau a sefydliadau nad ydyn ni wedi siarad â hwy hyd yn hyn

  • Gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Ddinbych a COFNOD, sef Gwasanaeth Gwybodaeth Amgylcheddol Gogledd Cymru, i wneud defnydd o'u mapiau o seilwaith gwyrdd

  • Cefnogi cymunedau i ddod ynghyd i ffurfio grwpiau sy'n cyfrannu at y Datganiad Ardal, a chael mwy o ymdeimlad yn y broses o ran ai'r cyfleoedd sy'n cael eu nodi yw'r rhai cywir

  • Annog amrywiaeth eang o randdeiliaid i ddod ynghyd a ffurfio grŵp ffocws 'thema' i ddatblygu'r cyfleoedd a nodwyd ymhellach

  • Annog ffyrdd newydd o weithio, i berthnasau newydd gael eu meithrin, a pharhau i feithrin ymddiriedaeth gyda'n phartneriaid presennol

  • Cynnwys adborth o sesiynau ymgysylltu Cymru Ifanc yn y Datganiad Ardal

  • Cyfeirio partneriaid a chymunedau tuag at gyfleoedd am ariannu sy'n cefnogi cyflawniad y Datganiad Ardal, gan gynnwys rhaglen ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun

  • Codi pwyntiau a thrafodaethau penodol am bolisi sy'n ymwneud â Datganiadau Ardal yn ein rôl fel prif ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru

  • Gwella'n defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol, wrth ystyried ffyrdd arloesol eraill o gynnwys pobl ym mhroses y Datganiad Ardal

Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?


Mae'r egwyddorion sy'n sail i Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yn hanfodol i broses y Datganiad Ardal. Wrth wraidd ei ddatblygiad y mae ein hymgysylltiad cydweithredol ag amrywiaeth eang o bartneriaid a rhanddeiliaid, rhai presennol a rhai newydd. Rydym wedi ceisio dechrau sgyrsiau sy'n bwysig, gan ofyn i bobl siarad â phobl nad ydynt yn eu hadnabod, neu na fyddent fel arall yn siarad â hwy. Wrth wneud hynny, daeth yn glir fod llawer yn rhannu gweledigaeth debyg o'r dyfodol, un a oedd yn y pen draw yn gosod y sylfeini ar gyfer ein pum thema. Er bod rhai o'r sgyrsiau hynny'n heriol, roeddent bob tro'n werth chweil ac yn gynhyrchiol.

Mae'r broses hon wedi'n helpu i ddiffinio'r broblem ar y cyd ac ennill dealltwriaeth o'r cyfleoedd a'r camau gweithredu posib, cyn penderfynu ar yr hyn sydd angen cael ei wneud i gyflawni'n 'gweledigaeth' a rennir. Mae hyn yn cynrychioli newid sylweddol o ran sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio. Yn y gorffennol, rydym wedi parhau gyda'n hopsiynau dewisol heb ymgysylltu na chwilio am unrhyw fath o gonsensws. Yr her nawr yw gweithio gyda'n partneriaid, ein rhanddeiliaid a'n cymunedau wrth lunio, ac yn y pen draw, gyflawni'r cyfleoedd hyn.

Bydd y Datganiad Ardal yn galluogi pob un ohonom i wneud penderfyniadau clir sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan dynnu nid yn unig ar yr wybodaeth sydd gennym, ond dystiolaeth mae ein partneriaid yn ei darparu. Bydd llawer o'r data ar gael i bawb drwy borth data newydd Cyfoeth Naturiol Cymru (potential link to go here?). Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datblygu model mapio gofodol i gefnogi cynllunio datblygu, yn benodol mewn perthynas â seilwaith gwyrdd trefol, creu coetir a bioamrywiaeth. Dylai hyn, ynghyd â pheth o'r dystiolaeth y mae ein rhanddeiliaid wedi'i chasglu, sicrhau y bydd gan Ddatganiadau Ardal ran ganolog yn y broses o ddatblygu Cynlluniau Datblygu Lleol. Fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi bod bylchau yn ein tystiolaeth o hyd, ond rydym yn gweithio i'w llenwi.

Yn fwy na hynny, rydym yn gwybod bod angen i ni ddiogelu ein hecosystemau a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu drwy feithrin gwydnwch. Mae perthynas gref rhwng seilwaith gwyrdd, ein pedair thema Datganiad Ardal arall, a'r cyfle i gyflawni manteision lluosog sy'n rhyngysylltu. Mae'r holl themâu hyn wedi'u dylunio i wneud ein gwasanaethau ecosystemau’n fwy gwydn, i liniaru yn erbyn newid yn yr hinsawdd, ac i helpu'n cymunedau i addasu i hinsawdd sy'n newid. Unwaith eto, nid yw rhai o'r manylion am sut orau i ddatblygu'r cyfleoedd hyn wedi cael eu trafod. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod modd mwyhau llawer ohonynt naill ai trwy ddilyn y llwybr seiliedig ar Ogledd-ddwyrain Cymru a ddiffinnir yma, neu drwy ymgymryd ag ymagwedd fwy rhanbarthol ar y cyd â Gogledd-orllewin Cymru.

Sut all pobl gymryd rhan?


Yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, rydym yn rhagweld y bydd pobl yn gallu cymryd rhan yn y ddadl ynghylch seilwaith gwyrdd drwy fwy o ymgysylltu. Caiff manylion eu cyhoeddi wrth i broses y Datganiad Ardal ddatblygu. Cadwch lygad allan felly. Os ydych am gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch northeast.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhowch adborth

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Beth ydych chi'n ei feddwl am ein hasesiad o'r risgiau, blaenoriaethau, a'r cyfleoedd yn yr Ardal hwn?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?
Eich manylion

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf