Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Annog economi gynaliadwy

Mae'r thema hon yn ymwneud â gweithio gyda'n gilydd fel bod modd datblygu cyfleoedd cynaliadwy ar gyfer yr economi a'r amgylchedd. Mae hyn yn cynnwys nodi dulliau cynaliadwy o fanteisio ar gyfleoedd economaidd sy'n gwella'r adnoddau naturiol sy’n unigryw i ogledd-orllewin Cymru

Morglawdd Caergybi gyda fferi i Ddulyn yn y Cefndir

Mae'r Datganiadau Ardal yn crynhoi trafodaethau o'r ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym yn addasu ein cynlluniau ynglŷn â digwyddiadau a gweithdai’r dyfodol oherwydd pandemig y coronafeirws.

 

Sylwch fod yr holl feysydd parcio, mannau chwarae a blociau toiledau yng ngwarchodfeydd a choedwigoedd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gau o 23 Mawrth 2020.

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein prif dudalen ynghylch y coronafeirws.

Annog economi gynaliadwy


Yn y thema hon, mae Cyfoeth Naturiol Cymru am weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i bobl sy'n byw yng ngogledd-orllewin Cymru.  Yr her yw datblygu economi leol sy'n darparu swyddi diogel, sy'n talu'n dda ac sy'n gwella yr amgylchedd naturiol. Bydd unrhyw weithgaredd economaidd sy'n difrodi'r amgylchedd yr ydym yn dibynnu arno, yn bygwth yr union beth sy'n gwneud gogledd-orllewin Cymru'n unigryw.  Rydym am i ymwelwyr a phobl leol wneud y mwyaf o'n tirwedd anhygoel, ond mae'n rhaid i hyn ddigwydd mewn ffordd sy'n diwallu anghenion ffermwyr, cymunedau lleol a'n cynefinoedd rhagorol.

Mae hyn yn cysylltu'n agos â'r thema ar Reoli Tir yn Gynaliadwy lle mae blaenoriaethau'n cynnwys creu marchnadoedd ar gyfer bwyd lleol a phrynu nwyddau a gwasanaethau'r sector cyhoeddus. Gall cynlluniau eraill sydd wedi'u datblygu gan y gymuned hefyd gyfrannu at economi gynaliadwy, er enghraifft:  ynni, cludiant a thwristiaeth ar lefel leol.

Mae'r thema hon yn tynnu sylw at yr angen i weithio mewn partneriaeth gydag eraill i wella cydberthnasau a deall rôl yr amgylchedd ac amaethyddiaeth yn ogystal â diwydiannau eraill wrth danategu economi gogledd-orllewin Cymru. Mae hyn yn cynnwys rôl caffael a chyfleoedd i hwyluso cyrchu lleol o bethau fel bwyd ar gyfer ysgolion ac ysbytai yn y rhanbarth.

 

Pam y thema hon?


Er mwyn hwyluso datblygiad y Datganiad Ardal, cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru dri gweithdy yng ngogledd-orllewin Cymru yn ystod mis Gorffennaf 2019 yn ogystal â sesiwn ar gyfer staff. Ar sail y trafodaethau hyn, mae'n glir fod cefnogaeth ar gyfer thema Annog Economi Gynaliadwy ymhlith y rhanddeiliaid. Ceir rhagor o wybodaeth a manylion ynglŷn â hyn yn  Cyflwyniad i'r Datganiad Ardal ac o fewn y thema Ffyrdd o Weithio.

Er mwyn llywio'r thema hon rydym wedi ystyried:

  • Gwybodaeth leol o gyfres o weithdai strwythuredig a gafodd eu hwyluso’n annibynnol ar draws gogledd-orllewin Cymru

  • Y blaenoriaethau a nodwyd yn y Polisi Adnoddau Naturiol; Cyflawni datrysiadau sy'n seiliedig ar natur, cynyddu ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd adnoddau, defnyddio dull sy'n seiliedig ar le

  • Gwybodaeth o’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol am ecosystemau a'u cydnerthedd, a'r risgiau a'r manteision maent yn eu darparu

  • Yr asesiadau a chynlluniau llesiant, a'r blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg trwy Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn a Chonwy a Sir Ddinbych

Amlygodd rhanddeiliaid allanol yr angen i wneud y canlynol:

  • Nodi cyfleoedd i liniaru effeithiau posib twristiaeth a deall sut mae niferoedd yr ymwelwyr yn effeithio ar amgylchedd naturiol yr ardal. Mae hyn yn cynnwys ystyried rhinweddau mentrau megis treth twristiaeth werdd ar gyfer ail-fuddsoddi yn yr ardal a rheoli pwysau ymwelwyr yn rhai o'n safleoedd mwyaf mawreddog a phrysuraf yng ngogledd-orllewin Cymru

  • Chwilio am gyfleoedd i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod safleoedd twristiaeth poblogaidd yn rhannu manteision economaidd gyda'u cymunedau amgylchynol e.e. Niwbwrch, a rheoli effeithiau gordwristiaeth mewn ffordd weithredol

  • Archwilio'r amrywiaeth o gyfleoedd i ehangu twristiaeth ar draws gogledd-orllewin Cymru yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys cymorth i fusnesau ehangu eu capasiti i ailgysylltu twristiaid â’n hamgylchedd naturiol fel eu bod hwythau hefyd yn deall ac yn poeni

  • Deall y rôl sydd gan amaethyddiaeth i’w chwarae wrth danategu’r economi wledig yng ngogledd-orllewin Cymru yn benodol i fynd i'r afael â cholli sgiliau allweddol gwledig sy'n gysylltiedig â rheoli tir yn y ffordd draddodiadol. Gweithio gydag eraill i ddeall effeithiau newidiadau mewn ffermio a pha mor sylfaenol y mae ffermio i'r gymuned wledig a'i heconomi

  • Annog llwybrau i gyflogaeth i bobl ifanc yn yr ardal, gan hefyd gydnabod yr angen am gyfleoedd i bobl leol o bob oedran

  • Cynyddu effeithlonrwydd, hyrwyddo caffael lleol a chefnogi ynni adnewyddadwy

  • Annog cynhyrchu nwyddau a gwasanaethau lleol a chynaliadwy

  • Yn ogystal â mentrau sy'n annog economi drefol gynaliadwy, mae angen i ni gael mwy o ffocws ar yr economi wledig, gan annog swyddi gwledig sy'n cynnwys pobl yn eu hamgylchedd gwledig lleol, megis: ffermio, coedwigaeth a garddwriaeth. Creu cyfleoedd cyflogaeth lleol i annog pobl ifanc i aros mewn ardaloedd gwledig. Cefnogi’r gwaith o farchnata cynnyrch o safon yn seiliedig ar arferion sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd. Rhannu arfer gorau o'r prosiectau bwyd lleol gorau a marchnata clwstwr

  • Archwilio cyfleoedd i gysylltu datblygiadau uwch-dechnoleg gyda busnesau presennol a fydd yn gwneud y busnesau hynny a'r amgylchedd yn fwy gwydn

  • Sicrhau bod y ffocws ar gyfer cymhorthdal ffermio'n cefnogi busnesau ffermio, cymunedau lleol ac amcanion amgylcheddol

  • Hyrwyddo’r gwaith o ddatblygu economi sy'n cysylltu â dyheadau, polisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru ynghylch yr economi gylchol e.e. sicrhau bod yr wybodaeth am ffynonellau cynnyrch ar gael, a bod gwybodaeth a chefnogaeth am ddewisiadau gwahanol i blastigion ar gael i fusnesau a diwydiant lleol. Ymgorffori polisi cenedlaethol o "ddefnyddio cyrff angori (sector cyhoeddus) i ariannu a chefnogi economi sylfaenol yr ardal" (a fydd yn cynnwys cynhyrchu bwyd a thwristiaeth)

  • Annog busnesau a chymunedau i gofrestru i fentrau megis addewidion gwyrdd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Dinbych
  • Annog a gwobrwyo newid mewn meddylfryd ac ymddygiad drwy ymgyrchoedd addysg, gweithgareddau codi ymwybyddiaeth a chynllun achredu neu wobrwyo i fusnesau sy'n cefnogi'r economi gylchol

  • Hwyluso arloesedd yn yr economi wledig. Ystyried sut bydd buddsoddiad bellach yn darparu sail ar gyfer economi gynaliadwy yn y dyfodol. Datblygu mentrau sy'n adeiladu ar y gorau o fentrau a ariennir drwy'r Cynllun Datblygu Gwledig i Gymru fel rhan o Gronfa Amaethyddol Llywodraeth Cymru ac Ewrop dros Ddatblygu Gwledig. Rhaglen LEADER 2014-2020 (Cynllun Datblygu Gwledig/LEADER)

  • Dylech ystyried caffael y sector cyhoeddus ar draws y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus - pwy allai fod yn prynu mwy o nwyddau a gwasanaethau lleol?

  • Mae angen newidiadau i elfen "angen swyddogaethol" polisi cynllunio ac ystyrir bod hyn yn hanfodol i ddatblygu economi wledig gynaliadwy. Mae polisi cynllunio presennol yn ffafrio symud pobl i gyrion trefol - mae hyn yn rhwystro economïau gwledig cynaliadwy
  • Y seilwaith newidiol sydd ei angen i gefnogi newidiadau mewn tueddiadau ynghylch twristiaeth ceir megis yr angen am bwyntiau gwefru ceir trydanol a dulliau teithio cynaliadwy amgen i mewn i’r ardal ac o’i hamgylch

Pwyntiau allweddol o asesu data a thystiolaeth o broffil yr ardal:

  • Yn 2017, adroddwyd bod gan Gonwy 4,120 o fentrau gweithredol a oedd wedi gostwng i 4,075 erbyn 2008. Adroddwyd bod gan Wynedd 4,530 o fentrau gweithredol a wnaeth ostwng ychydig i 4,460 yn 2018 ac yn 2017, adroddwyd bod gan Ynys Môn 2,095 o fentrau gweithredol a wnaeth gynyddu i 2,115 yn 2018

  • Yn 2017, cofnodwyd bod 1226 o fentrau ffermio/garddwriaethol ar Ynys Môn, 1271 yng Ngwynedd a 1074 yng Nghonwy

  • Yn 2009, roedd 3,100 o fentrau twristiaeth ar Ynys Môn, erbyn 2018 roedd hyn wedi cynyddu i 4,000. Yn 2009, roedd 7,700 o fentrau twristiaeth yng Ngwynedd ac erbyn 2018, roedd hyn wedi cynyddu i 9,000. Yn 2009, roedd 7,100 o fentrau twristiaeth yng Nghonwy, erbyn 2018 roedd hyn wedi cynyddu i 8,500

Yn gyffredinol, rhwng 2009 a 2018 mae mentrau twristiaeth wedi cynyddu 20% yng ngogledd-orllewin Cymru.

Mae angen gwneud mwy o ymchwil a gwaith yn yr holl sectorau, gan gynnwys ymgynghorwyr a phrifysgolion, i archwilio'r potensial o ddatblygu economi wledig gynaliadwy a bywiog ar gyfer gogledd-orllewin Cymru yn unol ag adborth rhanddeiliaid.

Tourism hub of Conwy Town with its historic Castle.© Hawlfraint y Goron (2019) Cymru 

Cyfleoedd sy'n ymwneud â'r thema hon

Economi:

  • Dealltwriaeth well o rôl amaethyddiaeth a mentrau gwledig eraill fel sail i'r economi wledig

  • Y cyfle i weithio gyda fforymau a rhwydweithiau presennol i gefnogi agenda'r economi wledig

  • Cynyddu cyfleoedd am gyflogaeth drwy ddarpariaeth addysgol o ran sgiliau gwledig

  • Cynyddu cyfleoedd am fentrau ynni gwyrdd

  • Ystyried sut gall y system gynllunio gefnogi economi wledig gynaliadwy

  • Ystyried sut fydd buddsoddi nawr yn darparu sail ar gyfer economi gynaliadwy yn y dyfodol

  • Datblygu mentrau sy'n adeiladu ar y gorau o'r Cynllun Datblygu Gwledig/LEADER a gweithio gydag eraill i archwilio cyfleoedd ariannu sydd ar gael i fentrau gwledig

  • Annog swyddi gwledig sy'n cysylltu pobl â'u hamgylchedd gwledig lleol megis ffermio, coedwigaeth a garddwriaeth

  • Cefnogi’r gwaith o farchnata cynnyrch o safon sy'n seiliedig ar fod yn gyfeillgar i'r amgylchedd e.e. rhannu'r gorau o brosiectau bwyd lleol a marchnata clwstwr

  • Datblygu marchnadoedd pren lleol cynaliadwy e.e. datblygu meithrinfeydd coed lleol a phennu ansawdd cywir coetiroedd i fodloni galw marchnadoedd tai lleol

Twristiaeth gynaliadwy :

  • Gweithio gydag eraill i leihau pwysau ymwelwyr ar y safleoedd eiconig mwy sensitif

  • Gweithio gyda'n gilydd i ddatblygu twristiaeth gynaliadwy gan ddefnyddio'n hadnoddau naturiol mewn ffordd wydn a chyfrannu at economi leol iach

  • Gweithio gyda'n gilydd i reoli ac adolygu canolfannau twristiaeth o ran eu cynaliadwyedd yn y dyfodol ac ystyried pa gamau lliniaru sydd eu hangen os asesir nad ydynt yn gynaliadwy mwyach

  • Archwilio cyfleoedd i weithio gyda darparwyr twristiaeth presennol i amlygu a chodi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r amgylchedd lleol 

Trafnidiaeth gynaliadwy:

  • Gweithio gydag eraill er mwyn sicrhau nad yw'n heconomi'n parhau i achosi dirywiad amgylcheddol

  • Gweithio gydag eraill i ddatblygu atebion arloesol i leihau lefelau uchel o gludo deunyddiau, pobl a nwyddau ar y ffordd
  • Gweithio gydag eraill er mwyn datblygu system gludiant integredig a reolir a fydd yn sail i economi gynaliadwy. Casglu tystiolaeth ac edrych ar enghreifftiau eraill o arfer gorau e.e. Cynllun yr Wyddfa gyda sefydliadau eraill â diddordeb i wella'n dealltwriaeth ar y cyd o'r ffordd y mae pobl yn ymweld â'u hamgylchedd lleol neu weithgaredd twristiaeth, gan archwilio sut i reoli mynediad i'r amgylchedd yn fwy effeithlon a chynaliadwy i'r dyfodol drwy adolygu'r system trafnidiaeth gyhoeddus, parcio a mynediad ar draws gogledd-orllewin Cymru. Mae angen rhoi ystyriaeth bellach hefyd i gysylltiadau trafnidiaeth ar gyfer cymudo, yn enwedig gan fod mwy o bobl ifanc nad ydynt yn gallu fforddio prynu car

Darparu nwyddau a gwasanaethau cynaliadwy:

  • Gweithio gyda rhanddeiliaid sy'n rhan o'r cynllun gweithredu economaidd "Ffyniant i Bawb" i ddod o hyd i atebion arloesol ar gyfer economi wledig gogledd-orllewin Cymru.
  • Annog economi gylchol leol, cysylltu pobl â phren, bwyd a chynnyrch lleol drwy frandio cynnyrch lleol o safon.
  • Gweithio gydag eraill er mwyn annog datblygiad cadwyni cyflenwi lleol. Cynyddu effeithlonrwydd, hyrwyddo caffael lleol a chefnogi ynni adnewyddadwy.
  • Gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a chyrff y sector cyhoeddus i ystyried atebion i lefelau isel o gyflogaeth leol ym mhroses gomisiynu'r sector cyhoeddus.

Sut olwg fyddai ar lwyddiant?

 

  • Economi leol sy'n darparu swyddi diogel, sy'n talu'n dda ac sy'n gwella'r amgylchedd naturiol

  • Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Cymru a Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru'n gweithio'n agos gyda chymuned fusnes gogledd-orllewin Cymru i helpu economi gynaliadwy gogledd-orllewin Cymru i ffynnu

  • Mae addysg, yr amgylchedd a busnes yn mynd law yn llaw. Caiff cyfleoedd busnes eu datblygu'n gynaliadwy, gan gynnig cyfleoedd da i boblogaeth waith amrywiol

  • Mae sgiliau gwledig allweddol sy'n gysylltiedig â rheoli tir yn gynaliadwy'n ffynnu yng ngogledd-orllewin Cymru

  • Mae gwasanaethau cyhoeddus a phobl yn cael budd o economi wledig fywiog. Caiff adnoddau naturiol eu defnyddio mewn modd cynaliadwy mewn economi leol gylchol

  • Caiff cynnyrch lleol a chynaliadwy ei werthu'n lleol i amrywiaeth o brynwyr gwahanol ag anghenion a diddordebau gwahanol, o gynnyrch 'wedi'i brisio'n briodol' i gynnyrch premiwm

  • Adolygu a threialu seilwaith trafnidiaeth wyrddach leol hygyrch a mwy dibynadwy gan gefnogi'r gymuned leol a'r sawl sy'n ymweld â'r ardal e.e. Bws Llŷn

  • Caiff anghenion ynni busnesau gwledig lleol eu diwallu o ffynonellau adnewyddadwy yng ngogledd-orllewin Cymru

  • Caiff mentrau twristiaeth eu graddio a'u marchnata ar eu cyfraniad cynaliadwy i'r amgylchedd a'r economi leol

Manteision:

Mae manteision lluosog i bobl a bywyd gwyllt sy’n deillio o economi wledig gynaliadwy. Bydd sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy yn cefnogi busnesau gwledig nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Gall economi a gwasanaethau cyhoeddus bywiog gogledd-orllewin Cymru gael perthynas gilyddol lle maent yn cefnogi ac yn tanategu ei gilydd.  Bydd annog economi gylchol leol yn lleihau cadwyni cyflenwi ac yn sicrhau bod arian yn parhau mewn ardaloedd gwledig lleol. Bydd partneriaethau rhwng yr amgylchedd, y sector addysg/dysgu a busnesau'n helpu i sicrhau bod swyddi gwledig yn rhai sy'n gofyn am sgiliau, yn werth chweil ac yn cynnig cyflog da. Bydd hyn yn helpu i gadw pobl ifanc yn yr ardal ac yn sicrhau cyfleoedd cyflogaeth i bawb o bob oed.

Gorsaf bŵer Dinorwig “Electric Mountain” Mae'r orsaf bŵer weithredol hefyd yn cael ei hyrwyddo fel atyniad i dwristiaid.

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?

  • Anfonwyd gwahoddiadau at 450 o bobl a chynhaliwyd tri gweithdy, a daeth 100 o bobl iddynt a chyfrannu at y trafodaethau. Rydym wedi datblygu'r thema yn y digwyddiadau hynny ac wedi bod yn rhoi cynnig ar ffyrdd gwahanol o gyfathrebu â rhanddeiliaid i annog cyfranogiad a diddordeb parhaus yn y Datganiad Ardal lleol

  • Cynhaliwyd ail rownd o weithdai rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2019 i adeiladu ar y trafodaethau blaenorol. Rydym hefyd wedi siarad â phartneriaid ac wedi gwrando ar eu syniadau a'u hadborth, gan gynnwys: Cyfarfodydd awdurdodau parcio cenedlaethol, cyfarfodydd undebau ffermio a gweithdai'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i helpu i ddatblygu cynnwys y themâu

  • Anfonwyd dros 500 o wahoddiadau ar gyfer yr ail rownd o weithdai ym mis Tachwedd / Rhagfyr 2019 gyda thros 100 yn mynychu

Beth yw'r camau nesaf?


Ar 14 Mai 2020, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu cynnal cyfarfod rhanddeiliaid arall i ddod â phawb sydd wedi cyfrannu at y broses hon hyd yn hyn at ei gilydd i adolygu cyfleoedd a chytuno ar y camau nesaf ar y cyd ar gyfer proses Datganiad Ardal y gogledd-orllewin.

Byddwn yn sefydlu is-grwpiau thematig i ddatblygu gweledigaeth ardal gyfan ar gyfer y thema hon - gyda chylch gorchwyl a chynrychiolaeth eang.    Byddwch yn nodi partneriaid posib ac unigolion/grwpiau â diddordeb, bylchau mewn gwybodaeth a chysylltiadau â strategaethau a chynlluniau gweithredu lleol.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd yn ystod y digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid (allanol a mewnol, gyda phartneriaid megis yr Awdurdod Parciau Cenedlaethol) i arwain gweithgareddau'r is-grwpiau thematig hyn.

Bydd angen i bob is-grŵp thematig  adolygu'r wybodaeth a'r data sydd gennym hyd yn hyn, trefnu  gyda phwy y byddwn yn siarad nesaf, chwilio am theorïau newid, nodi rhwystrau a sut i’w goresgyn ac archwilio cyfleoedd am gamau gweithredu priodol. Bydd y Datganiad Ardal yn ddogfen ailadroddol a fydd yn newid ac yn datblygu dros amser.  Bydd yr is-grwpiau'n gyfrifol am benderfynu pryd y bydd angen newid cynlluniau a phwy sydd angen bod yn rhan o'r broses honno (llywodraethu'r Datganiad Ardal).

Mae'r awgrymiadau sy'n cael eu datblygu fel prosiectau ‘padiau lili’ yn cael eu cynllunio i feithrin ymddiriedaeth a chydlyniad rhanddeiliaid drwy weithio ar ymyriadau diffiniedig. Maent yn defnyddio'r profiad hwn i ‘neidio’ i'r cam nesaf, sydd efallai'n llai sicr, yn y broses Datganiad Ardal sydd wedi cael ei mapio gan yr is-grwpiau thematig, gan ‘ddysgu wrth wneud’ ar hyd y ffordd.  Yn y modd hwn, efallai byddai materion ynghylch ymgysylltu â rhanddeiliaid a chyd-gynllunio a chyflawni yn cael eu deall yn well, a'u bod yn mynd i'r afael â phryderon.

O hyn, byddwn yn gallu ymgysylltu â grŵp ehangach o randdeiliaid y tu hwnt i'r sector amgylcheddol ehangach ac ennyn eu diddordeb mewn modd sydd wedi'i dargedu a chyda ffocws mwy cadarn ar gynnwys ac ymgysylltu â grwpiau ac unigolion lleol.  Gallai hyn olygu amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys: y cyfryngau cymdeithasol, y wasg draddodiadol, cyfarfodydd cymunedol, sesiynau galw heibio a chryfderau'n partneriaid fel ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni gweledigaeth ac uchelgeisiau'r Datganiad Ardal.

Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?


Bydd sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy wrth gynllunio a datblygu busnesau yn cefnogi busnesau gwledig nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd economi wledig, fywiog yn tanategu gwasanaethau cyhoeddus gwledig.  Bydd annog mwy o swyddi gwledig cynaliadwy sy’n gofyn am sgiliau yn helpu i ailgysylltu pobl â'u hamgylchedd lleol. Bydd annog economi gylchol leol yn lleihau cadwyni cyflenwi ac yn sicrhau bod arian yn parhau mewn ardaloedd gwledig lleol. Gallai cyflogaeth wledig mwy amrywiol arwain at lai o gymudo a phwysau ar y seilwaith trafnidiaeth.

Pont reilffordd Abermaw, Meirionnydd, cyswllt rheilffordd Arfordir Cambrian rhwng Machynlleth a Pwllheli.

Sut all pobl gymryd rhan?


Rydym yn croesawu cyfleoedd i’r cyhoedd ymgysylltu â ni ar unrhyw gam o broses y Datganiad Ardal. Rydym yn bwriadu cynnal sesiynau galw heibio a gweithdai yn ystod 2020 i'n helpu i ddatblygu ymchwil, i archwilio cyfleoedd a siarad â ni am eich syniadau cymunedol ac ystyried sut gallant gael eu hariannu.

Mae ffurflen adborth a chyfeiriad e-bost hefyd: northwest.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk pe byddech am ysgrifennu atom gyda'ch syniadau.

I helpu fel hwyluswyr y broses hon, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud y canlynol:

  • Darparu hyfforddiant cyd-gynhyrchu a hyfforddiant sy'n seiliedig ar asedau ar gyfer rhanddeiliaid, gan ddefnyddio asedau unigol a chymunedol yn yr ardal i sicrhau bod capasiti yn bodoli er mwyn gweithio ar y cyd ar Ddatganiad Ardal gogledd-orllewin Cymru a sicrhau y cynhelir dull effeithiol o lywodraethu’r Datganiad Ardal wrth symud ymlaen

  • Cefnogi'r rhanddeiliaid gyda Rhaglen Dysgu Cymheiriaid er mwyn sicrhau dull gweithredu gwydn ac etifeddiaeth leol ym mhroses y Datganiad Ardal o'r cychwyn cyntaf

  • Sicrhau bod adnoddau ar gael i greu hunaniaeth ar gyfer Datganiad Ardal gogledd-orllewin Cymru, fel bod rhanddeiliaid a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn deall ei ddiben, effaith a sut y gallant gymryd rhan wrth symud ymlaen

Eich adborth

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.