Rydym am i Ddatganiadau Ardal fod yn adnodd pwysig i amrywiaeth eang o grwpiau rhanddeiliaid ledled Cymru, y mae pob un ohonynt â rolau a chyfrifoldebau gwahanol iawn.

 

Yma ceir gwybodaeth ychwanegol sy’n esbonio perthnasedd Datganiadau Ardal i bynciau a sectorau amrywiol. Mae'r tudalennau hyn yn cael eu diweddaru'n barhaus, gan alluogi rhanddeiliaid i ennyn gwell dealltwriaeth o'r modd y mae Datganiadau Ardal yn berthnasol i'w meysydd gwaith penodol nhw.

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn anelu at rannu ei ddata a’i dystiolaeth ategol drwy Porth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru, tra bo hefyd yn parhau i ddatblygu offer ac adnoddau sy'n galluogi i dystiolaeth a chyfleoedd gael eu hymgorffori mewn polisïau a bod yn sail i weithredu.

 

Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb mewn rhannu eich barn ar ddefnyddio'r wybodaeth hon. Mae manylion am sut i wneud hynny ar gael ar y tudalennau gwe amrywiol a ganlyn ynglŷn â’r sectorau.