Rydym am glywed gennych


Mae'r tudalennau hyn yn cael eu diweddaru'n rheolaidd, gan alluogi rhanddeiliaid i gael dealltwriaeth well o sut mae Datganiadau Ardal yn berthnasol i’w meysydd gwaith penodol.

Bwriad y dudalen hon yw gweithredu fel cyflwyniad i broses y Datganiadau Ardal, ynghyd â'r heriau a chyfleoedd cysylltiedig a'r themâu sy'n dod i'r amlwg, a sut mae hyn yn ymwneud â chynllunio a datblygu.

Gall y system gynllunio wneud cyfraniad gwerthfawr at sawl un o'r heriau a chyfleoedd a nodwyd drwy'r Datganiadau Ardal. Rydym yn awyddus i weithio gyda chynllunwyr i weithredu camau gweithredu a mesurau a fydd yn ymdrin â'r heriau a chyfleoedd hyn.

Gallwch gysylltu â'r tîm cynllunio drwy e-bostio EPP.Planning@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Delwedd yn dangos cynllun Greener Grangetown yng Nghaerdydd

Y system gynllunio a'r Datganiadau Ardal


Mae Datganiadau Ardal yn rhoi man cychwyn i gynllunwyr ddeall problemau, blaenoriaethau a chyfleoedd amgylcheddol yn eu hardal benodol ac, yn seiliedig ar yr wybodaeth honno, eu helpu i nodi camau gweithredu a pholisïau strategol i fynd i'r afael â hwy drwy'r system gynllunio. Mae'n broses sy'n cyd-fynd â ffynonellau o wybodaeth sydd eisoes yn bodoli a’i nod yw gwella'n dealltwriaeth o’r lle rydym yn byw.

Mae Cynlluniau Datblygu'n amlinellu dyheadau ac amcanion strategol awdurdodau lleol wrth gyfeirio'r math cywir o ddatblygiad i'r lleoliadau cywir, gan sicrhau hefyd fod yr amgylchedd ac adnoddau naturiol yn cael eu rheoli’n gynaliadwy.

Mae Polisi Cynllunio Cymru'n gofyn i awdurdodau cynllunio lleol ymgymryd ag Asesiadau Seilwaith Gwyrdd i lywio Cynlluniau Datblygu. Gall yr asesiadau hyn helpu i ddatblygu dull cadarn o wella bioamrywiaeth, cynyddu cydnerthedd ecolegol a gwella canlyniadau llesiant, yn ogystal â nodi cyfleoedd strategol allweddol ar gyfer adfer, cynnal, creu a chysylltu nodweddion seilwaith gwyrdd allweddol.

Gall Datganiadau Ardal (ynghyd â ffynonellau gwybodaeth eraill) lywio'r broses asesu hon, a gwella gwydnwch yr amgylchedd adeiledig, drwy nodi cyfleoedd i ddefnyddio atebion seiliedig ar natur sy'n mynd i'r afael â phroblemau lleol fel lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, perygl llifogydd neu lygredd aer, neu wella argaeledd/hygyrchedd mannau gwyrdd.

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru nifer o setiau data sy'n gallu helpu awdurdodau cynllunio lleol wrth ymgymryd ag Asesiadau Seilwaith Gwyrdd. Ar hyn o bryd, rydym yn datblygu porth gwe ynghyd â chanllawiau sy'n cefnogi awdurdodau cynllunio lleol i gael mynediad i'r setiau data hyn a gwneud y gorau ohonynt. Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth am hyn wrth i ni wneud cynnydd.

Cydweithio


Mae Datganiadau Ardal yn ffordd o weithio sy’n datblygu ac, felly, byddwn yn parhau i ddiweddaru a gwella ein gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid a defnyddwyr.

Hoffwn ni glywed yn arbennig gan randdeiliaid cynllunio ynghylch sut mae'r wybodaeth a thystiolaeth bresennol yn diwallu'ch anghenion, ynghyd â sut mae modd gwella'r Datganiadau Ardal i'ch helpu.

Rydym hefyd am wybod mwy am enghreifftiau o reolaeth gynaliadwy a lle maent yn digwydd, ynghyd â rhoi cymorth i ddatblygu agenda ddysgu gyffredinol (a chyfleu'r dysgu hwnnw'n fwy eang). Unwaith eto, dylech gyfeirio at yr adran 'Rydym am glywed gennych chi' ar frig y dudalen hon ynghylch sut i gysylltu â ni.

Darganfod themâu’r Datganiadau Ardal


Gallwch weld disgrifiad o'r themâu gwahanol sy'n dod i’r amlwg ledled Cymru yma:

Ffurflen adborth

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?
Eich manylion

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf