Pam y thema hon?

Rydym yn wynebu dwy her sylweddol mewn perthynas â Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. Yr her gyntaf yw newid yn yr hinsawdd. Yr ail her yw colli ein bioamrywiaeth – yr amrywiaeth o fywyd a geir ar wyneb y Ddaear a’r cymunedau a’r cynefinoedd ble maen nhw’n byw. Mae hyn yn ein harwain at ecosystemau; cymunedau mawr o organebau byw, er enghraifft planhigion ac anifeiliaid, sy'n byw mewn ardal benodol ac sy'n rhyngweithio â'i gilydd.

Yma yng Nghanol De Cymru, rydym yn ffodus i fod ag ecosystemau eithriadol ar drothwy'r drws. Ystyriwch, er enghraifft, ffriddoedd, sy’n glytweithiau pwysig o gynefinoedd a geir yn aml ar lethrau cymoedd sydd nid yn unig yn cysylltu rhywogaethau’r ucheldir a’r iseldir, ond sydd hefyd yn gefndir ffisegol a diwylliannol i'r cymunedau lleol, ac yn bont rhwng ecosystemau trefol, lled-naturiol ac amaethyddol.

Mae angen i ni ddeall gwerth yr hyn sydd gennym a’i ddiogelu. Mae ein hecosystemau o dan fygythiad ar sawl ffrynt; dulliau amhriodol o reoli tir, llygredd, datblygu anghynaliadwy, rhywogaethau estron goresgynnol a newid hinsawdd.

Mae yna ymdeimlad hefyd nad ydyn ni o bosib, fel cymdeithas, yn gwerthfawrogi'n llawn y byd naturiol sydd o'n cwmpas. Er enghraifft, gall rhai ardaloedd o ffridd ar lechweddau beri perygl tân, ac felly gallant fod yn risg bosib i eiddo ac i ansawdd yr aer. Fodd bynnag, pan gaiff ei rheoli’n dda, mae gan ffridd werth bioamrywiaeth uchel ac mae'n peri llai o risg o ran tanau gwyllt, a hefyd yn darparu gwasanaethau ecosystem a buddion ehangach megis lliniaru llifogydd, atafaelu carbon a chyfleoedd hamdden.

Mae angen i ni amddiffyn ac ail-adeiladu ein hecosystemau fel eu bod yn iach ac yn gallu gwrthsefyll unrhyw fygythiadau posib.

 

Coetir derw ym Merthyr

Os gwnawn ni hyn, byddwn yn gwella'n llesiant, ac ar yr un pryd yn gallu mwynhau ac amddiffyn natur am ei gwerth cynhenid. Mae adnoddau naturiol Cymru wedi eu cysylltu'n agos â llesiant economaidd, cymdeithasol a diwylliannol y wlad, felly mae'n gwneud synnwyr perffaith. Er enghraifft, caiff £2,870 miliwn ei gynhyrchu gan dwristiaeth ei hun bob blwyddyn yng Nghymru.

Yng Nghanol De Cymru, gan weithio gyda'n partneriaid, rydym bellach yn deall ble i ganolbwyntio ein hymdrechion er mwyn meithrin gwydnwch o fewn ecosystemau, gan eu gwneud yn fwy gwydn, gwerthfawr a buddiol i'n cymunedau. Fe wnaethom ddatblygu Proffiliau Ecosystem er mwyn ehangu ein dealltwriaeth o ecosystemau eu hunain, a'r gwasanaethau maent yn eu darparu ar gyfer llesiant.

Mae’r saith ecosystem allweddol yng Nghanol De Cymru fel a ganlyn:

  • Arfordirol
  • Dŵr croyw
  • Glaswelltiroedd
  • Mawndiroedd
  • Y Cymoedd
  • Trefol
  • Coetiroedd

 

Common blue butterfly in Cefn Cribwr

Bwriad y Proffiliau Ecosystem yw darparu sylfaen dystiolaeth er mwyn dylanwadu ar y gwaith o lunio polisïau yn y dyfodol a chynorthwyo â’r broses gynllunio a chyflawni. Maent yn sicrhau y caiff gwybodaeth a phrofiad technegol ar lawr gwlad eu hategu gan y dystiolaeth genedlaethol ehangach yn ymwneud ag ecosystemau, er enghraifft, o SoNaRR2020.

Sut olwg fyddai ar lwyddiant?

Mae’r proffiliau’n amlinellu sut i feithrin gwydnwch ym mhob un o’r ecosystemau. Mae gwell gwydnwch yn golygu gwell buddion llesiant i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghanol De Cymru. Nawr mae angen i ni weithredu ymhellach, a gall hynny ond digwydd drwy ymgysylltiad parhaus a gweithio gydag eraill.

Yn y pen draw, y nod yw gwarchod ac adfer byd natur er mwyn sicrhau y caiff gwasanaethau ecosystem a’u buddion eu sicrhau, nawr ac i’r dyfodol. Ein dull yw annog Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy er mwyn sicrhau’r lefel uchaf o wydnwch sy’n briodol ar gyfer y defnydd tir a ddymunir. Bydd hyn yn edrych yn wahanol mewn gwahanol lefydd. Er enghraifft, bydd gwarchodfeydd natur fel Merthyr Mawr yn dal i gael eu cydnabod, eu gwarchod a’u rheoli ar gyfer eu bioamrywiaeth o bwys rhyngwladol, tra bod angen i’r ystod eang o dir amaethyddol o ansawdd uchel feithrin gwydnwch a sicrhau cynaliadwyedd bwyd. Mae angen i ni adeiladu ar brosiectau sy’n gwireddu newid.

Gwyddom fod ein hecosystemau yn chwarae rôl hanfodol wrth liniaru ac ymaddasu i newid yn yr hinsawdd. Heb werthfawrogi'n hecosystemau yn iawn, ynghyd â'r buddiannau lliniaru ac ymaddasu maent yn eu darparu, mae perygl i ni achosi canlyniadau gwrthgynhyrchiol sy'n lleihau gwydnwch ecosystemau.

Yng Nghanol De Cymru, rydym yn gweithio mewn ffordd gydgysylltiedig, gan chwilio am gyfleoedd i reoli er mwyn lliniaru ac ymaddasu i newid yn yr hinsawdd, ac i fynd i’r afael ag anghenion a chyfleoedd i gymunedau lleol, gan osgoi gwrthdaro rhwng amcanion gwahanol ar yr un pryd. O ganlyniad, gall y broses o gyflawni gael ei chynllunio a gall fod yn fanteisgar, wrth i bartneriaid benderfynu ar eu ffordd eu hunain ymlaen. Ni fydd newid yn digwydd ar unwaith ond rydym yn bwrw ati, gyda'n gilydd, i wireddu newid yn y tymor hirach.

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cydgysylltu ag ystod eang o sefydliadau gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a grwpiau anllywodraethol eraill ers dechrau’r broses o Ddatganiadau Ardal yn 2018. Drwy wneud hynny, rydym wedi datblygu cyd-ddealltwriaeth o wydnwch ecosystemau, sut i’w ddatblygu a’r camau gweithredu y mae eu hangen.

Rydym yn cydnabod mai cyfyngedig fu ein hymwneud â sectorau eraill ym maes rheoli tir, er enghraifft amaethyddiaeth a choedwigaeth. Fodd bynnag, rydym wedi ymgysylltu'n genedlaethol â’r sectorau hyn a byddwn yn chwilio am gyfleoedd i ymgysylltu'n ystyrlon wrth i ni symud ymlaen.

Beth yw'r camau nesaf?

Mae gennym lawer o waith i'w wneud o hyd ar y thema hon. Byddwn yn ymgysylltu'n agos â phartneriaid i gyflawni blaenoriaethau’r Polisi Adnoddau Naturiol.
Yng Nghanol De Cymru, bydd hynny'n cynnwys y canlynol:

  1. Byddwn yn gweithio gyda thîm CNC i roi’r blaenoriaethau yn y proffiliau ecosystem ar waith, drwy gyfrwng ein gwaith cynllunio busnes mewnol. Er enghraifft, mae angen i ni ddatblygu Ymagwedd Leol at Goetir ar gyfer ardal Canol De Cymru, gan adeiladu ar y Proffil Ecosystem ar gyfer Coetiroedd, er mwyn sicrhau y caiff y coed iawn eu plannu yn y lle iawn ac y caiff y coetiroedd sy’n bodoli eisoes eu rheoli mewn ffordd briodol.
  2. Datblygu Rhwydweithiau Ecolegol gwydn, yn unol â’r Polisi Adnoddau Naturiol. Bydd hyn yn darparu tystiolaeth ategol ar gyfer gwaith cynllunio cyrff cyhoeddus mewn perthynas â bioamrywiaeth, a chynlluniau rheoli tir, er enghraifft y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
  3. Byddwn yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol ac yn eu cefnogi i ystyried y Datganiad Ardal ac i ddefnyddio’r sylfaen dystiolaeth, er enghraifft Proffiliau Ecosystem, er mwyn ategu eu rhwymedigaethau statudol perthnasol, er enghraifft dyletswydd adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru), gan nodi hefyd feini prawf megis Rhwydweithiau Ecolegol Gwydn i'w defnyddio mewn penderfyniadau cynllunio lleol ac Asesiadau o Seilwaith Gwyrdd.
  4. Byddwn yn gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (sydd â'r nod o wella cydweithio ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd awdurdod lleol ledled Cymru) a’u haelod gyrff cyhoeddus, fel Dŵr Cymru a’r Byrddau Iechyd, i sicrhau bod gwydnwch ecosystemau a seilwaith gwyrdd yn ystyriaethau allweddol mewn asesiadau llesiant a chynlluniau llesiant yn y dyfodol, gan gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
  5. Rydym yn arwain ar ddealltwriaeth o wydnwch ecosystemau yng Nghanol De Cymru ac yn gweithio gyda phartneriaid cymunedol ac elusennol, fel Partneriaethau Natur Lleol, ar gynlluniau a phrosiectau lleol i gynnal a gwella ecosystemau, eu gwasanaethau a’u buddion, fel Cynlluniau Gweithredu lleol ar Adfer Natur a thirweddau byw.

Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy?

Mae gan ecosystem iach a gwydn fuddion hanfodol a chynhenid o ran ein bywydau a'n llesiant cyffredinol. I ddeall hyn, mae Proffiliau Ecosystem yn nodi cyfleoedd i wella iechyd ecosystemau drwy gyfrwng datrysiadau sy'n seiliedig ar natur, gan ddarparu darlun ehangach o sut maent yn cyd-fynd â’i gilydd, gan ein galluogi i flaenoriaethu wrth wneud penderfyniadau a chyflawni gweithredol.

Mae'r thema hon, ar y cyd â'r thema Cysylltu pobl â natur, yn rhoi’r sylfaen dystiolaeth, y mecanweithiau a’r dylanwad ar gyfer ystyried yr holl benderfyniadau er mwyn rheoli adnoddau naturiol yng Nghanol De Cymru mewn ffordd gynaliadwy.

Rhostir cen ym Merthyr

Sut all pobl gymryd rhan?

Yng Nghanol De Cymru, rydym yn ymrwymedig i weithio mewn ffordd agored a thryloyw. Gan gadw hynny mewn cof, rydym am annog pobl i gyfrannu at adeiladu ecosystemau gwydn. Mae proses y Datganiadau Ardal yn ein galluogi i sefydlu ffyrdd newydd o weithio a fydd yn cael eu nodi wrth i ni ddatblygu'r camau nesaf. Defnyddiwch y blychau adborth ar waelod y dudalen i gysylltu â ni ac i ddysgu mwy.

I gysylltu â’ch Partneriaeth Natur Leol a gweld eu Cynllun Gweithredu lleol ar Adfer Natur, dilynwch y ddolen berthnasol isod:

I weld gwybodaeth am fapio ar gyfer eich ardal chi a’ch pwnc o ddiddordeb, ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru / BETA: Porth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru.

Rhowch adborth

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Beth ydych chi'n ei feddwl am ein hasesiad o'r risgiau, blaenoriaethau, a'r cyfleoedd yn yr Ardal hwn?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?
Eich manylion

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf