Datganiad Gwasanaeth Cwsmeriaid

Mae ein datganiad gwasanaeth cwsmeriaid yn egluro sut y gallwch gael gafael ar ein gwasanaethau a'r hyn y gallwch ei ddisgwyl wrth gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru.

Gweithio gyda chi

Gellir cael mynediad i’n holl wasanaethau yn y Gymraeg a'r Saesneg ac maent wedi eu cyflwyno mewn ffordd nad yw'n gwahaniaethu yn erbyn unrhyw un. Os na allwch ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch ar ein gwefan, gadewch inni wybod drwy gysylltu â'n Canolfan Gofal Cwsmeriaid neu drwy ddefnyddio ein dolen adborth sydd i’w chael ar bob tudalen ar ein gwefan

Sut y gallwch gysylltu â ni

Edrychwn ymlaen at glywed gennych – gallwch gysylltu â ni mewn nifer o ffyrdd er mwyn ateb eich anghenion:

0300 065 3000, Dydd Llun i ddydd Gwener. 9am-5pm

Cyfryngau Cymdeithasol

Twitter
@NatResWales

Facebook
@NatResWales

Ar-lein
Cwblhewch y ffurflen cysylltu â ni

E-bost
ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Post

Cyfoeth Naturiol Cymru
d/o Canolfan Gofal Cwsmeriaid
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP

Pan fyddwch yn ein ffonio

Rydym yn cynnig gwasanaeth dwyieithog Cymraeg a Saesneg. Wrth ateb y ffôn bydd ein staff yn nodi eu henw'n glir ac yn gwneud popeth a allant i ateb eich ymholiad yn y fan a'r lle.

Os na allwn ateb eich ymholiad, neu eich trosglwyddo i'r person cywir ar unwaith byddwn yn cymryd eich manylion ac yn gofyn i’r person hwnnw gysylltu â chi. 

Pryd ddylech chi roi gwybod am ddigwyddiad

Ffoniwch ni ar 0300 065 3000 a dewiswch opsiwn un i gysylltu â'n llinell adrodd am ddigwyddiad amgylcheddol ac i siarad ag un o'n gweithwyr. Mae'r opsiwn hwn ar gael 24 awr y dydd. Peidiwch â defnyddio e-bost i roi gwybod am ddigwyddiad, oherwydd gallai hyn ohirio ein hymateb.

Ein hamseroedd ymateb targed

Ein bwriad yw ateb pob galwad o fewn 15 eiliad.

Ar gyfer Facebook a Twitter
Ein nod yw cydnabod ymholiadau ar y cyfryngau cymdeithasol o fewn awr a rhoi ymateb llawn o fewn 24 awr yn ystod yr wythnos waith.

Caiff ein sianelau eu monitro gyda'r nos ac ar benwythnosau yn achos digwyddiadau ac argyfyngau, ond bydd ymholiadau nad ydynt yn rhai brys yn cael eu trin yn ystod y diwrnod gwaith canlynol.

Ar gyfer e-byst
Bydd e-byst a dderbynnir yn ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk yn cael eu cydnabod o fewn 2 ddiwrnod gwaith a bydd ateb llawn yn cael ei ddarparu o fewn 10 diwrnod gwaith. Os na allwn anfon ateb llawn i’ch e-bost byddwn yn trosglwyddo eich ymholiad i’r person cywir ac yn gofyn iddo/iddi roi gwybod ichi pryd y byddwch yn derbyn ateb.

Ar gyfer llythyrau
Byddwn yn cydnabod ein bod wedi derbyn eich llythyr o fewn 2 ddiwrnod gwaith a’n bwriad yw ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith. Os yw eich ymholiad yn fwy cymhleth byddwn yn rhoi gwybod i chi pwy sy'n gofalu am eich ymholiad a phryd y gallwch ddisgwyl ateb llawn.

Pan fyddwch angen cael gwybodaeth gennym ni

Byddwn yn cydnabod ein bod wedi derbyn eich cais o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Byddwch yn derbyn ymateb llawn i'ch data, eich cais Rhyddid Gwybodaeth neu eich cais Rheoliad Gwybodaeth Amgylcheddol o fewn 20 diwrnod gwaith neu byddwn yn rhoi gwybod ichi os yw eich cais yn un cymhleth.

Mewn achosion cymhleth, gellir ymestyn yr amserlen hon i 40 diwrnod gwaith. Byddwn hefyd yn dweud wrthych pam y bydd yn cymryd mwy o amser neu os oes rhesymau pam na ellir rhyddhau rhywfaint o'r wybodaeth.

Os byddwch yn gwneud cwyn

Ein nod yw cydnabod derbyn pob cwyn o fewn pum diwrnod gwaith a rhoi ymateb llawn o fewn 20 diwrnod gwaith.

Os bydd arnom angen mwy o amser byddwn yn egluro pam ac yn dweud wrthych pryd y gallwch ddisgwyl ateb.

Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol– Ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth

Byddwn yn prosesu eich cais o fewn 40 diwrnod calendr ar ôl derbyn prawf o bwy ydych.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Geisiadau Gwrthrych am Wybodaeth

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am Ryddid Gwybodaeth (FOI) neu Geisiadau Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR)

Ydych chi’n meddwl y gallwn ni wneud pethau’n well?

Mae gennym raglen waith barhaus i wella ein gwefan a’n gwasanaethau Canolfan Gofal Cwsmeriaid. 

Diweddarwyd ddiwethaf