Sut rydym yn sgorio ceisiadau’r grant cyflawni adfer mawndiroedd

Mae hwn yn gynllun grant cystadleuol. Bydd pob prosiect hefyd yn cael ei sgorio ar gyfer nifer o gwestiynau allweddol o'r ffurflen gais. Bydd prosiectau wedyn yn cael eu blaenoriaethu yn ôl y sgôr a'r cyllid yn cael ei ddyrannu.

Meini prawf hanfodol

Rhaid i gais fodloni'r rhain er mwyn symud ymlaen i’r cam lle pennir sgôr iddo:

  • Rhaid i'r cynnig fynd i'r afael ag un neu ragor o themâu'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd
  • Rhaid i'r mawndiroedd fod yng Nghymru, a dim ond yr elfen Gymreig o unrhyw gynigion trawsffiniol fydd yn cael eu hystyried
  • Mae'r cais a gyflwynir i CNC yn gofyn am rhwng £50,000 - £250,000
  • Mae tystiolaeth wedi'i chynnwys bod yr ymgeisydd wedi cyflawni o leiaf un prosiect adfer mawndiroedd yn ystod y degawd diwethaf neu wedi cyflwyno cadarnhad ysgrifenedig o gymorth technegol gan bartner sydd â phrofiad o adfer mawndiroedd ar lawr gwlad ac sy'n gallu darparu cymorth technegol

Bydd ceisiadau y pennwyd sgôr ganolig neu uchel iddynt yn cael eu hystyried gyda'i gilydd gan y panel/panelau perthnasol. Yn gyffredinol, byddwn yn ceisio adeiladu portffolio cytbwys o brosiectau sydd, gyda'i gilydd, yn mynd i'r afael â themâu'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, yn cynnig cydbwysedd rhwng ardaloedd daearyddol.

Ein cwestiynau asesu

1. A oes dealltwriaeth glir o sut mae'r prosiect yn alinio â'r rhaglen grant hon? Os mai 'na' yw'r ateb, peidiwch â symud ymlaen.

2. A yw'r ardal mawndir yn cael ei hadfer yng Nghymru? Os mai 'na' yw'r ateb, peidiwch â symud ymlaen.

3. A yw gwerth y cais am grant rhwng £50,000 a £250,000? Os mai 'na' yw'r ateb, peidiwch â symud ymlaen.

4. A yw'r prif ymgeiswyr wedi dangos tystiolaeth eu bod wedi cyflawni o leiaf un prosiect adfer mawndir yn ystod y degawd diwethaf, neu ddarparu cadarnhad o gymorth technegol gan bartner sydd â phrofiad o adfer mawndiroedd ar lawr gwlad - ac sy'n gallu darparu cymorth technegol? Os mai 'na' yw'r ateb, peidiwch â symud ymlaen.

5. Beth yw'r gost fesul hectar? Cost fesul hectar = £ cyfanswm costau'r prosiect / hectarau wedi'u hadfer.

6. A yw lleoliad y cynnig yn flaenoriaeth uchel? Pennir sgôr uwch i gynigion y tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

  • 1 = y tu mewn i ffiniau Eryri/Bannau Brycheiniog
  • 5 = yn agos at, neu ar draws, ffiniau Awdurdod Parc Cenedlaethol
  • 8 = y tu allan i ffiniau Awdurdod Parc Cenedlaethol

7. A gafwyd y caniatadau neu'r cydsyniadau perthnasol neu a wnaed cais amdanynt? Neu, os nad yw’r cydsyniadau gennych eto, a oes cynllun clir ar gyfer eu cael? Dylech roi manylion y cydsyniadau y gwnaed cais amdanynt neu sut y byddwch yn cael unrhyw gydsyniadau sydd eu hangen. Gall hyn gynnwys gohebiaeth â chorff cydsynio cyn ymgeisio. Mae angen gwneud cais am ganiatadau a chydsyniadau gennym ni ar wahân i unrhyw gais am grant.

8. A yw'r cynnig yn seiliedig ar dystiolaeth o ansawdd da? Pa mor dda mae'r dystiolaeth a nodwyd wedi’i defnyddio i lywio dyluniad y cynnig?

9. Sut bydd y canlyniadau'n cael eu cynnal ar ôl i'r prosiect ddod i ben? A yw'r partner allanol wedi ystyried costau parhaus, sut y cânt eu hariannu ac a ydynt yn rhesymol?

10. Os na allwn ni ariannu'r prosiect hwn beth yw'r goblygiadau? A fyddai ôl-effeithiau difrifol pe na baem yn ei gefnogi, a fyddai'r prosiect yn mynd yn ei flaen pa un bynnag?

11. A yw'r gweithgareddau a nodir yng nghynllun y prosiect yn realistig, yn gyraeddadwy ac yn unol ag amcanion y prosiect? A allent gyflawni'r canlyniadau a nodwyd?

12. A yw'r amserlenni neu'r cyfnodau hawlio yn realistig ac yn gyflawnadwy? Mae angen hawlio o leiaf 30% o gostau’r prosiect erbyn mis Mawrth 2024 a gwneud hawliad terfynol erbyn 15 Ionawr 2025.

13. Yw'r prosiect arfaethedig y gellir ei gyflawni erbyn 15 Ionawr 2025?

14. A yw trefniadau llywodraethu’r oes prosiect yn ddigonol, yn gymesur â'i faint a'i risg, i gyflawni'r gwaith?

15. A yw risgiau wedi'u nodi'n briodol ac a oes mesurau lliniaru priodol ar waith?

16. Pwy yw'r partneriaid eraill sy'n ymwneud â'r prosiect hwn ac a ydynt yn berthnasol ac yn briodol?

17. A yw'r cynnig yn ystyried sut y bydd pobl o gefndiroedd amrywiol ac â phob gallu yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y prosiect?

18. Pa mor dda y mae’r cynnig yn ystyried, yn defnyddio ac yn hyrwyddo’r Gymraeg?

19. A yw'r costau manwl ar eich dadansoddiad o gostau’r prosiect a lanlwythwyd yn rhesymol ac yn gyraeddadwy?

Byddwn yn cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy cymesur ar bob ymgeisydd.

Mae asesiad ariannol CNC yn cael ei gwblhau gan Dîm Grantiau CNC. Mae wedi'i deilwra ar sail y math o bartner, mae'n cynnwys gwiriadau diwydrwydd dyladwy safonol ac mae'n gymesur yn seiliedig ar werth a risg. Rydym yn cwmpasu: 

  • Adnabod eich ymgeisydd
  • Iechyd ariannol
  • Ffynonellau ariannu eraill
  • Meysydd o bryder arbennig

Sut ydym ni’n sgorio tystiolaeth

Tystiolaeth a ddarparwyd

Sgôr

Sylw

Mae'r cynnwys yn gyson, yn gynhwysfawr, yn gymhellol ac yn uniongyrchol berthnasol i'r cynllun grant ym mhob ffordd ac yn gredadwy iawn.

10

Hyderus iawn

Mae'r cynnwys yn ddigonol (mewn termau ansoddol), yn argyhoeddi ac yn gredadwy.

8

Hyderus

Ceir mân fylchau yn y cynnwys, neu nid yw'n argyhoeddi yn hollol, ac mae ei hygrededd a pherthnasedd ychydig yn brin.

6

Mân bryderon

Mae bylchau cymedrol yn y cynnwys ac felly nid yw'n argyhoeddi.

4

Pryderon cymedrol

Mae bylchau mawr yn y cynnwys, nid yw'n argyhoeddi mewn sawl ffordd, nid oes iddo hygrededd a/neu mae'n amherthnasol i'r cynllun i raddau helaeth.

2 Pryderon mawr

Mae'r cynnwys yn gamarweiniol, yn amherthnasol neu'n anghymwys.

1

Annerbyniol

 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf