Adroddiad blynyddol ar amrywiaeth a chynhwysiant 2021–2022

Crynodeb gweithredol

Croeso i grynodeb ein Hadroddiad Blynyddol ar Amrywiaeth a Chynhwysiant 2021-22. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar sut rydym wedi rhoi ein polisïau ar waith ac yn gweithio ar ddatblygu ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2021 – 2025.

Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu'r gwaith yr ydym wedi'i wneud dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. 

Mae rhai o uchafbwyntiau'r flwyddyn yn cynnwys y canlynol:

  • Ein partneriaeth â Phartneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru
  • Prosiect Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2021
  • Parhau â’n gwaith i sicrhau bod ein gwefan yn hygyrch
  • Gweithdy Ymwybyddiaeth Niwroamrywiaeth ar gyfer aelodau ein Bwrdd a'n Tîm Gweithredol
  • Dathlu dyddiau amrywiaeth drwy gydol y flwyddyn a chodi ymwybyddiaeth ohonynt
  • Adnewyddu ein hachrediad Hyderus o ran Anabledd
  • Mynd ati i hyrwyddo ymwybyddiaeth a defnydd o ragenwau rhyw

Mae gennym Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sy’n cynnwys cynrychiolwyr staff o bob rhan o'r sefydliad. Caiff y fforwm ei gadeirio gan y Pennaeth Rheoli Pobl. Mae'r fforwm yn cynnwys y Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Datblygu Corfforaethol, sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant o fewn y sefydliad, un o'n Haelodau Bwrdd, Hyrwyddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Tîm Gweithredol, a chynrychiolwyr undebau llafur.

Mae cynrychiolydd o bob un o'n saith rhwydwaith staff hefyd yn eistedd ar y Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, sy'n darparu cymorth i staff ac sy’n rhagweithiol wrth hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae COVID-19 yn parhau i fod yn brawf i lawer o’n staff ac mae ein rhwydweithiau’n darparu cymorth hanfodol yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi canolbwyntio'n bennaf ar gamau 1 a 2 ein Prosiect Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2021. Mae hyn wedi cynnwys ymgysylltu â staff, rhanddeiliaid a chwsmeriaid i ddod o hyd i ffyrdd gwell a mwy cynhwysol o estyn allan a gweithio gyda'n cymunedau amrywiol ar draws Cymru gyfan. Bydd y gwaith hwn yn ein helpu i ddeall yn well sut y gallwn weithio gyda'n holl gymunedau. Gall gweithio ar y cyd ein helpu i lunio gwasanaethau mwy cynhwysol a’n galluogi i adlewyrchu’n gadarnhaol ymwybyddiaeth o bwy ydym ni a’r amrywiaeth o rolau yn CNC. Trwy ymgysylltu ac adborth a dderbyniwyd, mae ein staff, rhanddeiliaid a chymunedau yn dweud eu dweud ac yn cyfrannu at y gwaith a wnawn. Ein nod trwy ymgysylltu fwyfwy fel hyn yw helpu i lunio gwybodaeth deg a hygyrch a gwasanaethau cynhwysol sy'n diwallu ystod eang o anghenion cwsmeriaid a staff â blaenoriaeth ar gyfer y dyfodol. Ein hymagwedd yw: Gwnaethoch ddweud. Gwnaethom wrando. Fe wnaethom. Gwnaethom adrodd yn ôl.

Cefndir

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ystyried yr effaith y gall ein gwaith, ein polisïau a’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu ei chael ar eraill, gan gynnwys effeithiau yn ein gweithle ein hunain. I grynhoi, mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus, wrth arfer eu swyddogaethau, roi sylw dyledus i'r angen i wneud y canlynol:

  • Cael gwared ar gamwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon, ynghyd â mathau eraill o ymddygiad a waherddir gan y Ddeddf.
  • Hybu cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a'r bobl hynny nad ydynt yn eu rhannu.
  • Meithrin cydberthnasau da rhwng pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig a'r bobl hynny nad ydynt yn eu rhannu.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn anghyfreithlon camwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â nodwedd warchodedig. Mae'r nodweddion gwarchodedig fel a ganlyn:

  • Oedran
  • Anabledd
  • Ailbennu rhywedd
  • Priodas a phartneriaeth sifil
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Hil
  • Crefydd neu gred
  • Rhyw
  • Cyfeiriadedd rhywiol

Rydym hefyd yn ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru fel yr amlinellir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, sy'n pennu y bydd cyrff a restrir yn ymgymryd â'r canlynol:

  • Adroddiadau monitro blynyddol
  • Cynlluniau cydraddoldeb strategol
  • Gosod amcanion
  • Casglu a dadansoddi gwybodaeth am gydraddoldeb
  • Gwybodaeth am gydraddoldeb ymhlith defnyddwyr gwasanaethau
  • Gwybodaeth am gydraddoldeb yn y gweithlu a gwahaniaethau mewn tâl ymhlith y gweithlu
  • Ymgynghori ac ymgysylltu
  • Asesu effaith
  • Hyfforddiant staff
  • Caffael
  • Hygyrchedd

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac yn ofyniad cyfreithiol. Nod eang y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol yw integreiddio ystyriaeth o hyrwyddo cydraddoldeb, peidio â gwahaniaethu a meithrin cysylltiadau da ym mhopeth a wnewch. Diben y dyletswyddau penodol yw ein helpu i gyflawni'r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol.

Mae ein dyletswyddau i hybu a defnyddio’r Gymraeg wedi’u pennu ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae ein Safonau'r Gymraeg yn ei gwneud yn ofynnol bod yr iaith yn cael ei hystyried ymhob un o'n prosesau gwneud penderfyniadau, a'i bod yn cael ei chynnwys fel ystyriaeth yn ein Hasesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, gan sicrhau bod y ddwy iaith yn cael eu trin yn gyfartal.

Mae cynnal gwaith craffu ar ein newidiadau allweddol mewn Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn ymwneud â gwneud penderfyniadau teg a rhesymol sy’n ystyried adborth a dderbyniwyd i lunio gwasanaethau cynhwysol i bobl, beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau.

Amcanion cydraddoldeb strategol sector cyhoeddus Cymru 2020 – 2024

Cafodd ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol eu datblygu fel rhan o Bartneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru a’u cymeradwyo gan Fwrdd CNC ym mis Medi 2020. Cawsant eu lansio’n swyddogol ym mis Mawrth 2021 gan y Dirprwy Weinidog, Jane Hutt AS.

Fe wnaethom gefnogi'r lansiad hwn trwy ddarparu hyrwyddiad wedi'i alinio â'r partneriaid eraill ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Roedd hyn yn cynnwys erthyglau ar ein mewnrwyd, yn cysylltu â’r digwyddiadau ymgysylltu i staff, a chymunedau’n ymgysylltu ag CNC ar Brosiect Ymgynghori Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2021.

Gwaith partneriaeth cydraddoldeb sector cyhoeddus Cymru

Yn unol â'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar gyfer y bartneriaeth, cytunwyd i sefydlu grwpiau gorchwyl a gorffen i fwrw ymlaen â chamau gweithredu y cytunwyd arnynt.

Cytunwyd ar y pedwar grŵp gorchwyl a gorffen a restrir isod a byddant yn canolbwyntio ar yr amcan allweddol a ganlyn ac yn cynnwys enwebeion staff o’r sefydliadau partneriaeth:

  • Adnoddau Dynol – Amrywiaeth a'r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 
  • Caffael
  • Casglu a Monitro Data
  • Ymgysylltu a Darparu Gwasanaethau

Cylch gwaith pob grŵp gorchwyl a gorffen yw:

  • Rhannu a chyfnewid gwybodaeth am ddulliau cyflwyno, er mwyn hwyluso dysgu ar draws y bartneriaeth am yr hyn sy'n gyfystyr â llwyddiant ac arferion gorau.
  • Nodi cyfleoedd ar gyfer rhannu a chydweithio a allai arwain at ddatblygu mentrau a rhaglenni gwaith ar y cyd.
  • Nodi a chytuno ar gamau gweithredu ar gyfer newid y gall fod angen eu datblygu gan gyrff unigol neu ar y cyd.
  • Mesur a gwerthuso effaith unrhyw fentrau a rhaglenni gwaith ar y cyd.

Dechreuodd y grwpiau gyfarfod ym mis Rhagfyr 2021, ac mae gan CNC aelodau o staff ar dri o’r grwpiau, sef timau Caffael, Adnoddau Dynol ac Ymgysylltu â Chwsmeriaid, a fydd yn adrodd, a lle bo’n briodol yn gwneud argymhellion, i’r prif grŵp partneriaeth maes o law.

Ym mis Mawrth 2020, cytunodd y Bwrdd i ymrwymo i’r Amcanion Cydraddoldeb a Rennir traws-sector cyhoeddus, ac y dylem ddatblygu cynllun mwy penodol ar gyfer CNC hefyd, wedi’i deilwra i’n blaenoriaethau a gwerthoedd sefydliadol penodol. Fe wnaethom sefydlu grŵp llywio, yn cynnwys nifer o aelodau’r Bwrdd, i helpu i arwain ein gwaith ac rydym wedi ymgymryd â nifer o ddarnau o waith i lywio ein blaenoriaethau wrth symud ymlaen. 

‘Gyda’n Gilydd – All Together’ Strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant CNC 2021–25

Yn 2021, aethom ati i ddatblygu ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol ar gyfer CNC, wedi’u hategu gan strategaeth a chynllun gweithredu ar gyfer cyflawni.

Rydym am i CNC fod yn sefydliad lle mae pawb yn teimlo y gallant gymryd rhan, lle rydym yn agored i syniadau newydd, safbwyntiau gwahanol ac arloesi, a lle cawn ein hystyried yn agos-atoch a theg, gan ymarfer ffyrdd cynhwysol o weithio i bawb. Mae'r Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant hon yn nodi ein dull o gyflawni'r uchelgais hwn.

Bydd canolbwyntio ar amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wnawn yn ein galluogi’n well i gyflawni ein diben strategol (rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy) fel sefydliad ac yn ein helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Bydd diwylliant sefydliad cefnogol sy'n ymgorffori dealltwriaeth eang o amrywiaeth a chynhwysiant fel rhan o'i DNA yn fwy creadigol ac arloesol – rhinweddau sy'n hanfodol er mwyn i ni dyfu, gan ystyried cymhlethdod a brys yr heriau rydym yn eu hwynebu.

Nod ein Prosiect Ymgynghori ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2021 oedd casglu barn cwsmeriaid, staff a rhanddeiliaid ar ein gweledigaeth ar gyfer amrywiaeth a chynhwysiant yn y dyfodol. Manteisiwyd ar y cyfle i adolygu ein sefyllfa bresennol fel sefydliad, ein hymrwymiadau (gan gynnwys ein hymrwymiadau yn y Cynllun Cydraddoldeb a Rennir ar gyfer cyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru), ein nodau ac amcanion sefydliadol, a’r meysydd hynny lle rydym am wneud gwahaniaeth gwirioneddol dros y tair blynedd nesaf.

Yn gweithio ar draws Cymru gyfan, rydym yn ymgynghori â'r cyhoedd yn rheolaidd, ond rydym yn awyddus i ymgysylltu â chynulleidfa ehangach a mwy amrywiol, ac rydym am ddod o hyd i ffyrdd o ymgysylltu'n weithredol â grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli, trwy eu gwahodd i ddweud eu dweud mewn perthynas â'n gwaith.

Fel rhan o’r broses dau gam honno, fe wnaethom gomisiynu asesydd allanol i gynnal asesiad o’n gweithgareddau o dan yr ymbarél cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan geisio barn ac adborth yn fewnol yn CNC, yn ogystal â chan bartneriaid a rhanddeiliaid allanol (Cam 1). Yn dilyn yr asesiad hwn, cynullwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen (Cam 2) a oedd yn cynnwys grŵp cynrychioliadol o staff o bob rhan o’r sefydliad, ar wahanol raddau ac ar draws ystod amrywiol o rolau swyddi, i helpu i nodi ein hamcanion allweddol ar gyfer y tair blynedd nesaf (2022–2025). Mae ein strategaeth wedi’i gosod o amgylch chwe amcan, a nodir isod, sydd hefyd wedi’u dylanwadu gan adborth gan randdeiliaid a dysgu o fentrau allanol:

  • Newid ein diwylliant drwy nodi a gweithredu mentrau sy'n cefnogi pawb i wrando'n weithredol a modelu ymddygiad cynhwysol yn y gweithle
  • Gwella ansawdd y data rydym yn ei gasglu i'n galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus a gwell
  • Codi safonau mewn perthynas ag amrywiaeth a chynhwysiant drwy ‘fyw ein gwerthoedd’ a thrwy gefnogi a dathlu ein hamrywiaeth ein hunain yn ogystal ag amrywiaeth Cymru
  • Adolygu'r ffordd rydym yn defnyddio iaith yn ein polisïau a'n harferion er mwyn creu diwylliant mwy cynhwysol ac amrywiol
  • Sicrhau bod unrhyw un yng Nghymru, gan gynnwys ein cwsmeriaid, rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaethau presennol a newydd, yn gallu llunio ein gwasanaethau a chael mynediad i'n mannau’n hawdd
  • Sicrhau bod ein polisïau'n alinio â'n nodau amrywiaeth a chynhwysiant ac yn datblygu ein pobl mewn ffordd ystyrlon

Rydym wedi nodi camau gweithredu allweddol i'n helpu i gyflawni ein hamcanion ynghyd â dangosyddion a fydd yn cael eu defnyddio i fesur cynnydd.  Ni fydd hyn i gyd yn cael ei gyflawni ar ein pennau ein hunain. Ymhlith llawer mwy, rydym yn cydnabod yr angen i ymgysylltu â sectorau eraill i glywed eu profiadau nhw, bod yn rhan o’r gwaith ymchwil, a mynd i'r afael â phroblemau lawer yn gynt yn y cylch oes.

Cymeradwywyd ein strategaeth gan y Bwrdd ar 28 Ionawr 2022.

Polisïau

Bydd adolygiad o’n polisïau’n cael ei gynnal fel rhan o’r cynllun gweithredu sy’n cael ei ddatblygu i helpu i gyflawni’r amcanion yn ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2021 – 2025 i sicrhau bod ein polisïau yn gynhwysol ac yn cefnogi’r gweithlu amrywiol yr ydym yn anelu at ei gadw a’i ddenu ar gyfer y dyfodol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, adolygwyd chwech o’n polisïau:

  • Polisi a Gweithdrefnau Absenoldeb
  • Polisi a Gweithdrefn Menopos
  • Darparu Profion Llygaid a Sbectol
  • Polisi a Gweithdrefn Syndrom Dirgryniad Braich-Llaw
  • Polisi Rheoli Prosiectau a Rhaglenni
  • Polisi a Gweithdrefn Disgyblu

Hygyrchedd y wefan

Daeth y rheoliadau hygyrchedd i rym ar gyfer cyrff y sector cyhoeddus ar 23 Medi 2018.

Rydym yn gwella hygyrchedd cyfoethnaturiol.cymru yn barhaus drwy wneud y canlynol:

  • ailysgrifennu cynnwys fel ei fod yn glir i'r rhan fwyaf o bobl ei ddeall
  • cyhoeddi cynnwys fel tudalennau gwe, gan eu bod yn fwy hygyrch na dogfennau PDF
  • trosi ffurflenni cais PDF a Word yn ffurflenni gwe hygyrch
  • mewn achosion eithriadol o gyhoeddi dogfennau PDF, rydym yn sicrhau eu bod yn cael eu tagio mewn ffordd a fyddai'n gweithio'n well i ddarllenwyr sgrin
  • profi gwefannau newydd i sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau hygyrchedd
  • rhannu gwybodaeth ac arweiniad fel bod pawb yn y sefydliad yn ystyried hygyrchedd wrth greu cynnwys i bobl

Rhestr o welliannau rydym wedi'u gwneud i wneud y wefan yn fwy hygyrch.

Fel rhan o’r rheoliadau, rhaid inni gyhoeddi a diweddaru’r datganiad hygyrchedd ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru.

Y fforwm cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Pwrpas y fforwm yw dod â staff ynghyd sy'n ymroddedig i wella a hyrwyddo diwylliant cadarnhaol o gwmpas tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant gydag ymrwymiad gan y Bwrdd, y Tîm Gweithredol a’r Tîm Arwain yn ogystal â'n hundebau llafur.

Sylwer: mae tegwch yn arwain at gydraddoldeb. Mae'n ymwneud â phob un ohonom yn cyrraedd ein llawn botensial, tegwch neu gyfiawnder yn y ffordd y mae pobl yn cael eu trin, gyda hunanbenderfyniad yn gysyniad allweddol o degwch.

Mae cyfarfodydd wedi’u cynnal yn chwarterol dros y flwyddyn ddiwethaf gyda’r fforwm yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Adolygu Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb.
  • Calendr digwyddiadau’r Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i helpu i gydlynu’r gwaith o hyrwyddo diwrnodau a digwyddiadau yn y dyfodol. Bydd hyn yn rhoi cynllun i'r Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer y flwyddyn gyfan gyda phob digwyddiad/diwrnod yn cael ei gytuno gan y fforwm, gan gefnogi rhwydweithiau staff i gydweithio i hyrwyddo digwyddiadau.
  • Datblygu ac ymgynghori gydag un Pasbort Staff Gwaith a Llesiant cyfannol ar gyfer CNC.
  • Grŵp gorchwyl a gorffen o aelodau’r Fforwm i drafod ymateb CNC i Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru gyda gweledigaeth ar gyfer Cymru sy’n Wrth-Hiliaeth erbyn 2030.
  • Sesiwn Ymwybyddiaeth Niwroamrywiaeth wedi’i threfnu ar gyfer aelodau’r Bwrdd ym mis Medi 2021, a fydd hefyd yn cael ei defnyddio’n ehangach yn y sefydliad. Sesiwn codi ymwybyddiaeth fel offeryn rheolwr, gyda rheolwyr fis Chwefror 2022.
  • Mae aelodau'r fforwm wedi craffu ar argymhellion proses a blaenoriaeth o Gam 1 a 2 y Prosiect Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant gydag adborth i Fwrdd y Rhaglen Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Rhwydweithiau staff

Mae'r rhwydweithiau'n cael eu cynnal gan staff ar gyfer staff, ac maent yn dod â phobl o bob rhan o'r gweithle ynghyd sy’n uniaethu ag eraill o gefndir neu grŵp tebyg.

Mae rhwydweithiau staff yn cyflawni swyddogaethau amrywiol, gan gynnwys darparu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio yn gymdeithasol, cefnogaeth gan gymheiriaid a datblygiad personol. Gall rhwydweithiau staff hefyd gyfrannu at y gwaith o ddatblygu ein polisïau a'n harferion gweithio.

Fel sefydliad, rydym yn gwerthfawrogi ein grwpiau hunandrefnus wrth greu amgylchedd sy'n parchu amrywiaeth y staff ac yn eu galluogi i gael y budd a'r mwynhad mwyaf o'u hymwneud â'r gweithle.

Rydym yn cefnogi’r rhwydweithiau drwy wneud y canlynol:

  • Annog rheolwyr i ryddhau gweithwyr cyflogedig i gymryd rhan mewn cyfarfodydd a gwaith wedi'i dargedu sy'n codi
  • Hyrwyddo'r rhwydweithiau i weithwyr newydd ac i'r bobl sydd eisoes yn gweithio i'r sefydliad
  • Gwrando, mewn ffordd gadarnhaol, ar unrhyw bryderon gan weithwyr a godir trwy'r rhwydweithiau staff
  • Cymryd rhan mewn mentrau a ddatblygir gan y rhwydwaith staff
  • Aelodaeth newydd o Gyflogwyr i Ofalwyr fis Ionawr 2022

Mae gennym saith rhwydwaith staff ar hyn o bryd, fel a ganlyn:

  • Grwpiau Defnyddwyr a Gynorthwyir (TGCh a Theleffoni)
  • Rhwydwaith Calon LHDTC+
  • Y Gymdeithas Gristnogol
  • Cwtsh (Rhwydwaith Gofalwyr)
  • Cyfeillion Dementia
  • Rhwydwaith Mwslimiaid
  • Rhwydwaith Niwroamrywiaeth

Ym mis Awst 2021, cyfarfu ein Rhwydwaith Calon LHDTC+ â Rhwydwaith PRISM Llywodraeth Cymru i drafod eu hymagwedd at gyflwyniad Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall a rhannu arferion da ar y ffyrdd gorau o ymgysylltu â staff. Mae Calon yn gobeithio parhau i gydweithio gyda PRISM wrth symud ymlaen ar ymgyrchoedd.

Mae un aelod o bob rhwydwaith yn mynychu cyfarfodydd y Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac yn darparu diweddariad a rhagolwg ar yr hyn y mae'r rhwydwaith ynghlwm wrtho. Anogir sgyrsiau agored ar gyfer adborth adeiladol mewn cyfarfodydd.

Mae pob rhwydwaith yn rhoi cyflwyniad yn y cwrs sefydlu ar gyfer aelod newydd o staff i helpu i sicrhau bod staff yn ymwybodol o'n rhwydweithiau a'r cymorth y gallant ei gynnig yn gynnar yn eu gyrfa gyda ni yma.

Dros y flwyddyn, datblygwyd calendr digwyddiadau sy'n helpu i gael ymagwedd fwy cydlynol at sut mae ein rhwydweithiau staff yn gweithio, gan ei gwneud hi'n haws cydweithio i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o ddigwyddiadau.

Ceir gwybodaeth am bob un o'n rhwydweithiau, a'u dibenion, yn Rhwydweithiau Staff yr adroddiad hwn.

Diwrnodau cefnogi a chodi ymwybyddiaeth CNC yn 2021–22

Bu’r rhwydweithiau staff hefyd yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o rai o’r gweithgareddau isod:

  • Mawrth – Diwrnod Gweladwyedd Pobl Drawsrywiol Rhyngwladol – trefnwyd gan Rwydwaith Calon
  • Mai – Wythnos Gweithredu ar Ddementia 17–23 Mai – wedi’i threfnu gan Gyfeillion Dementia
  • Mehefin – Wythnos Gofalwyr 7–11 Mehefin – trefnir gan Rwydwaith Gofalwyr Cwtsh
  • Gorffennaf – Ymwybyddiaeth o bererindod Hajj – wedi’i drefnu gan y Rhwydwaith Mwslimiaid
  • Medi – Diwrnod Alzheimer y Byd – wedi’i drefnu gan Gyfeillion Dementia
  • Medi – Ymwybyddiaeth Niwroamrywiaeth gydag aelodau'r Bwrdd a'r Tîm Gweithredol – wedi'i threfnu gan y Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a'r Rhwydwaith Niwroamrywiaeth
  • Tachwedd – Diwrnod Hawliau Gofalwyr – trefnwyd gan Rwydwaith Gofalwyr Cwtsh
  • Chwefror – Defnyddio Rhagenwau Personol – trefnwyd gan Rwydwaith Calon

Sesiwn ymwybyddiaeth niwroamrywiaeth

Sefydlu'r Rhwydwaith Niwroamrywiaeth yn 2020.

Yn unol â’n gwaith Prosiect Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2021, tynnodd y grwpiau gorchwyl a gorffen sylw at yr angen am fwy o hyfforddiant i helpu i ddeall ystod o rwystrau posibl y gall staff â chyflyrau niwroamrywiol eu hwynebu yn y gweithle.

Mynychodd aelodau'r Bwrdd a'r Tîm Gweithredol y sesiwn ymwybyddiaeth niwroamrywiaeth ym mis Medi i’w helpu i gael gwell dealltwriaeth o gyflyrau niwroamrywiol, y cymorth sydd ei angen ar staff a rheolwyr, ac addasiadau rhesymol y gellir eu rhoi ar waith a fydd o fudd i bawb yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys y canlynol:

  • Amrywiaeth yn y gwaith: Niwroamrywiaeth yw'r enw ar werthfawrogi cyfraniadau pobl niwrowahanol a chynrychioli profiadau niwrowahanol gwahanol.
  • Rhoi'r cwestiynau i ymgeiswyr cyn y cyfweliad. Mae hyn yn rhoi cyfle i'r ymgeisydd ddeall yn llawn yr hyn sy'n cael ei ofyn a pharatoi ymateb priodol. Mae hyn yn helpu i wneud y cyfweliad yn brofiad gwell i'r ymgeisydd a'r sawl sy'n cynnal y cyfweliad.
  • Cael lle gweithio tawel, a defnyddio cornel mewn swyddfa i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd canolbwyntio mewn amgylchedd prysur. Gall hyn gynnwys dangos ymwybyddiaeth ofalgar ymarferol o sensitifrwydd eithafol i oleuadau llachar a synau uchel.
  • Cyfarfodydd byrrach gyda seibiannau rheolaidd i helpu i ganolbwyntio.
  • Sicrhau bod gwybodaeth ysgrifenedig yn cael ei dilyn gyda sgwrs lafar ar gyfer unigolyn â dyslecsia, gan sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei deall yn llawn.
  • Meddwl am y swyddfa fodern. Y rhan fwyaf o'r timau yn rhannu desgiau. Gall hyn achosi straen i unigolyn awtistig; gall peidio â gwybod ble byddwch chi'n eistedd fod yn rhwystr gwirioneddol i gynhwysiant. Gallai hyn swnio'n ddryslyd i rai, ond gall newidiadau yn yr amgylchedd gael effeithiau negyddol. I wrthsefyll hyn, dylid ystyried darparu sedd neilltuedig. Heb fod yn ymwybodol o anghenion cydweithwyr niwrowahanol, efallai y byddwch yn ychwanegu straen ychwanegol i unigolion yn ddiarwybod.

Mae sesiynau codi ymwybyddiaeth pellach wedi'u cynnal i sicrhau bod rheolwyr yn ymwybodol o'r gwahanol gyflyrau niwroamrywiol a'r anawsterau y gall rhai ddod ar eu traws. Mae'r sesiwn hefyd yn canolbwyntio ar y cryfderau a'r sgiliau sy'n dod gyda phob cyflwr. Bydd cael gwell dealltwriaeth o gyflwr pob cydweithiwr unigol yn creu diwylliant mwy cynhwysol lle mae niwroamrywiaeth yn cael ei ddeall a’i dderbyn, gan gadw gweithlu medrus mwy amrywiol.

Adolygu asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r adolygiad o'r broses Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi parhau i ofyn am adborth gan staff a gwblhaodd yr asesiad, gyda'r Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn rhoi cyngor ac arweiniad i staff mewn trafodaethau a gwiriad sicrwydd ar bob asesiad a gwblhawyd.

Mae’r asesiad wedi’i gynnwys ym Mhorth Pecyn Cymorth 0 Swyddfa’r Rheolwr Prosiect, ar gyfer prosiectau a rhaglenni sy’n cael eu dwyn ymlaen o’r Cynllun Datblygu Gwasanaeth.

Mae hyn yn helpu rheolwyr prosiect i ystyried a oes angen asesiad ar gyfer prosiectau yn gynnar yn y broses a'r angen i ymgynghori ac ymgysylltu â phobl y mae ein gwaith yn debygol o gael effaith arnynt. Mae hyn yn helpu i sicrhau y gall safbwyntiau ac effeithiau tebygol fod yn rhan o’n proses gwneud penderfyniadau a dod o hyd i ffyrdd o liniaru/ail-lunio gwasanaethau/polisïau neu leihau’r effaith y gall ein gwaith ei chael ar eraill.

Mae ymwybyddiaeth o’r angen i gwblhau Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi’i amlygu yng nghyfarfod misol y rheolwyr, i’w drafod mewn cyfarfodydd tîm.

Yn y flwyddyn i ddod, bydd ffurflen sgrinio Cam 1 Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael ei datblygu i asesu a oes angen cwblhau asesiad llawn o'r effaith ar gydraddoldeb cyn dechrau'r gwaith neu'r prosiect.

Bydd y daflen sgrinio hon yn fan cychwyn i helpu yn y broses o asesu effeithiau gan “nad ydym yn gwybod yr hyn nad ydym yn ei wybod” heb ofyn am adborth rhesymol / wedi'i dargedu gan y rhai sy'n debygol o gael eu heffeithio cyn i benderfyniad uwch gael ei wneud, gan ddefnyddio’r ymagwedd “Gwnaethoch ddweud. Gwnaethom wrando. Fe wnaethom. Gwnaethom adrodd yn ôl.”

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cynhaliwyd 32 o asesiadau, a cheir rhestr o'r pynciau a aseswyd yn Rhestr o bynciau Asesu’r Effaith ar Gydraddoldeb a gynhaliwyd yn 2021 i 2022.

Mynegai cydraddoldeb yn y gweithle Stonewall

Ni chyflwynodd CNC gais i Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2022 oherwydd gwaith cyfredol i ddatblygu Strategaeth a Chynllun Gweithredu Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Mae Stonewall yn newid meini prawf ei gwestiynau bob tair blynedd, gyda newidiadau eleni yn canolbwyntio ar dystiolaeth o ymwreiddio iaith niwtral o ran rhywedd yn ein polisïau. Rydym yn datblygu ein hymagwedd at gynhwysiant ymhellach drwy iaith gyda ffocws ar ein Hamcan Cydraddoldeb 4: ‘Adolygu'r ffordd rydym yn defnyddio iaith yn ein polisïau a'n harferion er mwyn creu diwylliant mwy cynhwysol ac amrywiol’.

Wrth symud ymlaen, byddwn yn anelu at gyflwyno bob yn ail flwyddyn; bydd hyn yn rhoi'r cyfle i ni ddiweddaru polisïau yn unol â'n Prosiect Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a gwaith arfaethedig yn barod ar gyfer y cyflwyniad arfaethedig nesaf.

Recriwtio

Rhwng Ionawr 2021 a Rhagfyr 2021, cawsom 2,449 o geisiadau i gyd, ac roedd 820 o’r rhain gan ymgeiswyr mewnol. Fel rhan o'n hymrwymiad i'r amcanion strategol ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac i Brosiect Ymgynghori ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2021, ein nod fydd denu ceisiadau o bob rhan o'n cymunedau er mwyn sicrhau ein bod yn adlewyrchu amrywiaeth ein poblogaeth yng Nghymru. Ceir dadansoddiad o'n hystadegau recriwtio ar gyfer y cyfnod uchod yn Ystadegau Recriwtio ar gyfer Ionawr 2021 i Ragfyr 2021. Mae’r ystadegau’n seiliedig ar gwestiynau a ofynnwyd ar ffurflen gais allanol CNC o’r enw ‘Ffurflen Monitro Cydraddoldeb Recriwtio’.

Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd

Mae “Hyderus o ran Anabledd” yn gynllun sydd wedi'i gynllunio i'n helpu i recriwtio a chadw pobl anabl ynghyd â'u sgiliau a'u doniau. Mae'n sicrhau y bydd pobl ag anableddau sy'n ymgeisio am swyddi gwag yn ein sefydliad yn derbyn gwahoddiad i gyfweliad cyn belled â'u bod yn bodloni'r gofynion isaf o ran meini prawf sgiliau'r rôl. Fe wnaethom lwyddo i gael ein hailachrediad i’r cynllun hwn ym mis Mai 2021.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi derbyn 32 o geisiadau am gyfweliadau o dan broses gwarantu cyfweliad y cynllun hwn. O'r 32 cais, roedd pedwar cais gan staff mewnol a 28 gan ymgeiswyr allanol, gyda 21 o ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Nid oedd yr 11 arall yn bodloni'r gofyniad isaf o ran meini prawf y rolau mewn cwestiynau a gwrthodwyd cyfweliad iddynt y tro hwn.

  • Bydd gwaith pellach i ddatblygu ein hunain fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn rhan o'n Cynllun Gweithredu sy'n cael ei ddatblygu i helpu i ddenu mwy o bobl anabl i ymgeisio a bod yn llwyddiannus wrth sicrhau rolau gyda'n sefydliad – Amcan Cydraddoldeb 6: Sicrhau bod ein polisïau'n alinio â'n nodau amrywiaeth a chynhwysiant a datblygu ein pobl mewn ffordd ystyrlon.

Hunanddatgeliadau staff

Gofynnwn ac anogwn ein staff i ddatgelu manylion personol yn wirfoddol, megis ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, ffydd, cred neu ddim cred, a chyfrifoldebau gofalu, yn gyfrinachol yn ein system adnoddau dynol ganolog, MyNRW. Gall staff hunanddatgelu cymaint neu gyn lleied o wybodaeth ag y maent yn teimlo'n gyfforddus yn gwneud fel rhan o'r broses. Hyd yma, mae 71% o'n staff wedi hunanddatgelu peth neu'r holl wybodaeth yn wirfoddol fel rhan o'r broses hon. Mae canran y staff sydd wedi datgelu wedi codi 3% ers y llynedd.

Fel rhan o'r Cynllun Gweithredu Amrywiaeth a Chynhwysiant, byddwn yn edrych ar ffyrdd o gynyddu nifer y staff sy'n hunanddatgelu. Rydym am gyfathrebu mwy ar fanteision hunanddatgan eu proffiliau yn gyfrinachol i reolwyr a staff. Anogir staff newydd i hunanddatgelu, a rhoddir esboniad dros pam fod darparu’r wybodaeth gyfrinachol hon yn bwysig i’n helpu i ddeall amrywiaeth ein gweithlu yn ogystal â pha mor gynrychioliadol yr ydym o amrywiaeth pobl Cymru. Mae data staff cywir hefyd yn ein galluogi i sicrhau bod gennym y polisïau a chymorth cynhwysol cywir ar waith i ymgysylltu’n fwy effeithiol ynghylch deall ystod amrywiol o anghenion staff.

Cyfraddau cwblhau'r broses hunanddatgelu – Ionawr 2022

Cyfanswm cyffredinol 1610 647 2257 71% 29%
Ystadegau datgelu’r cyfarwyddiaethau Nifer y bobl sydd wedi cwblhau hunanddatgeliad Nifer y bobl sydd heb gwblhau hunanddatgeliad Cyfanswm Canran y bobl sydd wedi cwblhau hunanddatgeliad Canran y bobl sydd heb gwblhau hunanddatgeliad
Gweithrediadau 889 405 1294 69% 31%
Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu 447 144 591 76% 24%
Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol 119 49 168 71% 29%
Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol 76 28 104 73% 27%
Strategaeth a Datblygu Corfforaethol 79 21 100 79% 21%


Ceir rhagor o wybodaeth yn Ystadegau Hunanddatgelu Staff 2021 – 2022 ar ystadegau hunanddatgelu ein staff.

Mae'r datgeliad yn cynnwys opsiwn ‘gwell gennyf beidio â dweud’.

Cyfnod cynefino ar gyfer staff newydd

Gwahoddir yr holl staff newydd i gymryd rhan yn y rhaglen gynefino; mae rhai o'r sesiynau dysgu yn rhai craidd a gorfodol, tra bo eraill yn ddewisol. Mae sesiwn o dan y pennawd ‘Sefydliad Gofalgar’ yn cynnwys cyflwyniadau ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a’r Gymraeg, ynghyd â chyflwyniad i bob un o’n rhwydweithiau staff; mae hon yn rhan opsiynol o’r rhaglen gynefino.

Mae’r cyflwyniadau hyn yn helpu staff i gael gwell dealltwriaeth o’r hyn a olygwn wrth gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae’r ffocws hefyd ar dynnu sylw at bwysigrwydd parchu gwahaniaethau ei gilydd i helpu i wneud CNC yn weithle amrywiol a chynhwysol sy’n croesawu’r unigolyn cyfan, a sut mae’r gwahaniaethau hyn yn chwarae rhan bwysig wrth helpu CNC i gyflawni ei ddiben craidd fel sefydliad.

Mae chwe chyflwyniad ar amrywiaeth a chynhwysiant wedi'u rhoi dros y flwyddyn ddiwethaf fel rhan o'r rhaglen ddewisol. Cynhaliwyd dwy raglen sefydlu dros y flwyddyn ddiwethaf. Mynychodd cyfanswm o 1,508 aelod o staff y rhaglen gyntaf, gyda 1,421 yn mynychu'r ail.

Mae'n ofynnol i bob aelod o staff gwblhau cwrs amrywiaeth a chynhwysiant gorfodol ar-lein. Caiff cyfraddau cwblhau eu monitro gan ein tîm Dysgu a Datblygu, ac anfonir nodiadau atgoffa at reolwyr yn gofyn iddynt sicrhau bod eu tîm yn cwblhau'r cwrs gorfodol hwn.

Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar 31/3/21

Mae’r canlynol yn dangos y canlyniadau adrodd ar gyfer Mawrth 2021, yn ogystal â chymariaethau â blynyddoedd blaenorol.

Mesur 2019 2020 2021
Cymedr 5.3% 2.5% 2.0%
Canolrif 12.1% 3.1% 3.1%

2019

Chwartelau Gwrywod Menywod
Chwartel isaf 53% 47%
Chwartel canol isaf 50% 50%
Chwartel canol uchaf 54% 46%
Chwartel uchaf 67% 33%
Cyfanswm y gweithlu 56% 44%

2020

Chwartelau Gwrywod Menywod
Chwartel isaf 54% 46%
Chwartel canol isaf 53% 47%
Chwartel canol uchaf 52% 48%
Chwartel uchaf 62% 38%
Cyfanswm y gweithlu 55% 45%

2021

Chwartelau Gwrywod Menywod
Chwartel isaf 53% 47%
Chwartel canol isaf 54% 46%
Chwartel canol uchaf 51% 49%
Chwartel uchaf 62% 38%
Cyfanswm y gweithlu 55% 45%


Caiff ein gwybodaeth am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ei chasglu ar 31 Mawrth bob blwyddyn er mwyn cydymffurfio â methodoleg Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) 2017.

Dadansoddiad

Rydym wedi gwella ein bwlch cyflog cymedrig rhwng y rhywiau: mae’r cymedr cyffredinol wedi gostwng 0.5% o ffigur y llynedd, a 3.3% yn gyffredinol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae canlyniadau'r dadansoddiad yn ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn dangos bod menywod ar gyfartaledd yn cael eu talu 98c yn y £1 o gymharu â gwrywod ac, yn seiliedig ar y canolrif o 3.1%, yn cael eu talu 97c yn y £1 o gymharu â chyflog gwrywod fesul yr awr.

Nodwn fod y chwartel uchaf yn dangos yr amrywiant ehangaf ar gyfer cyfran y gwrywod (62%) a menywod (38%). Mae hyn o gymharu â ffigurau cyfunol y gweithlu ar gyfer gwrywod (55%) a menywod (45%) yn 2021.

Fel cymharydd yn y DU, mae’r bwlch cyflog cymedrig rhwng y rhywiau wedi gostwng o 10.5% yn 2011 i 7.0% yn 2020, gan godi i 7.9% yn 2021 (ONS: Gender pay gap in the UK: 2021), ond mae’n parhau i fod yn gadarnhaol o ran gwerth.

Mae ein bwlch cyflog canolrifol rhwng y rhywiau wedi aros yr un fath dros y flwyddyn ddiwethaf, a gwelwyd cynrychiolaeth gynyddol o fenywod yn ein chwartelau canol isaf ac uchaf. Wrth ddadansoddi’r data hwn, nid yw’r bwlch o ganlyniad i dalu mwy i wrywod na menywod am yr un swydd – ond yn hytrach y mathau o rolau y mae dynion a merched yn gweithio ynddynt a’r cyflogau y mae’r rolau hyn yn eu denu.

Mae mwy o wrywod mewn rolau sy’n talu’n uwch na menywod ac er bod ganddynt gynrychiolaeth dda mewn rolau arwain, mae rolau eraill sy’n talu’n uchel yn denu mwy o ddynion (STEM, h.y. gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg ac ati).

Mae gweithio rhan-amser yn debygol o gael effaith ar y bwlch hwn, ac mae gweithwyr gwrywaidd yn llai tebygol o weithio'n rhan-amser na gweithwyr benywaidd.

Ethnigrwydd i'r amgylchedd

Mae grŵp o sefydliadau amgylcheddol yng Nghymru, dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru, wedi cronni adnoddau ac yn awyddus i gydweithio â sefydliad neu unigolyn sydd ag arbenigedd a phrofiad o weithio ochr yn ochr â rhwydweithiau a grwpiau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Nod y prosiect yw meithrin dealltwriaeth o'r hyn sy'n digwydd eisoes ac archwilio lle byddai pobl yn croesawu cymorth i gael mynediad at fyd natur, cysylltu ag ef a gweithredu ynddo. Ein bwriad yw symud y tu hwnt i nodi'r rhwystrau a grëwyd gan y sector i fynd ati i’w datgymalu yn rhagweithiol.

Mae’r gwaith hwn yn canolbwyntio ar yr hyn y byddai grwpiau a arweinir gan leiafrifoedd ethnig yn ei groesawu o ran cymorth ac adnoddau i gael mynediad at natur, i gysylltu â natur, ac i weithredu dros natur. Bydd ffocws cryf ar nodi cyfleoedd a arweinir gan ddiddordeb cymunedol, gan adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn digwydd, yn ogystal â meysydd yr hoffai grwpiau neu unigolion gydweithio arnynt yn y dyfodol. Rydym am archwilio'r ffordd orau o ddatblygu cydberthnasau a pharhau â sgyrsiau i'r dyfodol.

Cwynion

Dros y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaethom dderbyn tair cwyn mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant fel a ganlyn:

Cwyn 1

Derbyniwyd un gŵyn mewn perthynas â chau maes parcio a llwybr cerdded dros dro, y dywedodd yr achwynydd ei fod yn anaddas ar gyfer defnyddwyr anabl. Roedd y penderfyniad i gau’r maes parcio a’r llwybr yn dilyn digwyddiad ar y safle, lle daeth adolygiad iechyd a diogelwch i’r casgliad y byddai’r maes parcio a’r llwybr ar gau fel dyletswydd a gofal ar gyfer y contractwyr ac aelodau’r cyhoedd am gyfnod y gwaith.

Adeiladwyd mynediad dros dro i gerddwyr i rai cyfleusterau hamdden, gyda ffens stoc ar hyd ymyl y llwybr i sicrhau diogelwch defnyddwyr. Oherwydd y dirwedd a natur dros dro y llwybr, roedd yn anaddas ar gyfer mynediad i'r anabl. Derbyniodd CNC y gŵyn nad oedd y llwybr yn gynhwysol, ond, oherwydd natur dros dro y gwaith ac iechyd a diogelwch y defnyddwyr, bod y llwybr yn gymesur ac yn dderbyniol o ystyried yr amgylchiadau. Roedd gwarchodwyr diogelwch wedi'u lleoli yn y maes parcio i gyfeirio a chynghori pobl am feysydd parcio a llwybrau addas eraill o fewn pellter byr i bawb.

Eglurwyd y trefniadau dros dro i'r achwynydd.

Cwyn 2

Cafwyd un gŵyn yn nodi bod nifer o lwybrau cerdded mewn coetiroedd a reolir gan CNC wedi’u rhwystro gan gatiau nad oeddent yn darparu mynediad amgen i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Roedd un giât y gellid ei defnyddio ag allwedd radar, gan felly ganiatáu mynediad i'r anabl, wedi'i thorri ac roedd clo clap arferol wedi cael ei osod yn ei lle. Roedd tystiolaeth ffotograffig ynghlwm wrth y gŵyn. Roedd y gŵyn yn nodi cyfyngiadau mynediad eraill mewn perthynas â llystyfiant wedi gordyfu, a rhwystr gyda chamfa i gamu drosto.

Cysylltodd aelod o staff CNC â’r achwynydd dros y ffôn, cafodd ymddiheuriad, a derbyniwyd bod angen gwneud gwaith i sicrhau bod y teithiau cerdded yn hygyrch. Eglurwyd, oherwydd maint yr ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn enwedig beiciau modur oddi ar y ffordd, bod rhwystrau yn cael eu gosod i geisio cyfyngu mynediad i ddefnyddwyr anghyfreithlon oherwydd damweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd a digwyddiadau eraill.

I fynd i'r afael â'r materion a godwyd, torrwyd y llystyfiant, gosodwyd clo radar yn lle clo clap, a thynnwyd y gamfa, gan ganiatáu mynediad i gadeiriau olwyn wrth gadw'r rhwystr yn ei le. Fel sefydliad, gall rheoli a chadw ein defnyddwyr cyfreithlon yn ddiogel gyflwyno heriau ynghyd â chyfyngu mynediad i ddefnyddwyr gwrthgymdeithasol.

Cwyn 3

Derbyniwyd cwyn mewn perthynas â gwahaniaethu anuniongyrchol am resymau’n ymwneud â thorri adran 19 o’r Ddeddf Cydraddoldeb ar sail anabledd, a oedd yn nodi ei bod yn ofynnol i CNC, fel gwasanaeth a ariennir yn gyhoeddus, gydymffurfio â dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus, ac ymgysylltu â phobl fyddar a phobl anabl, a chynnal asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb cyn cyflwyno gweithdrefnau, polisïau neu arferion newydd.

Roedd y gŵyn yn ymwneud â’r materion a nodir isod:

(a) Bod gosod rhwystr a system intercom ar gyfer allanfa frys y tu allan i oriau yn un o’n meysydd parcio yn gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn yr achwynydd fel rhywun a oedd yn ystyried ei hun yn anabl at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010.

Mae’r camau a gymerwyd gan CNC mewn ymateb i (a) uchod fel a ganlyn:

Eglurwyd bod wardeniaid ar gael yn y maes parcio yn ystod y diwrnod gwaith i gynorthwyo unrhyw un sy'n cael anawsterau wrth ymyl y rhwystr. Mae CNC wedi gweithio gyda chyflenwr y rhwystr, sy’n gweithredu’r intercom awtomataidd brys y tu allan i oriau, er mwyn sicrhau, os caiff y botwm brys ei wasgu ac na ellir cysylltu’n uniongyrchol â’r unigolyn, bod yr rhwystr yn cael ei ryddhau er mwyn i'r unigolyn adael y maes parcio.

(b) Bod y gofyniad i ddarparu rhifau ffôn yn orfodol ar geisiadau am ganiatâd/trwyddedau ac, fel dull o dalu am drwyddedau parcio, yn gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn eich erbyn fel rhywun sy’n ystyried ei hun yn anabl at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010.

Mae’r camau a gymerwyd gan CNC i fynd i’r afael â (b) uchod fel a ganlyn:

Eglurwyd bod un o'r tri dull sydd ar gael ar gyfer talu am drwyddedau yn gofyn am rif ffôn, sy’n orfodol. Mae dau ddull arall yn eu lle, un yn y ciosg yn y maes parcio a’r llall yn ein canolfan ymwelwyr yng Nghoed y Brenin.

Mae CNC yn adolygu ein ffurflenni ar-lein i wneud yn siŵr ein bod yn gofyn i ymgeiswyr a oes ganddynt unrhyw anghenion mynediad y mae angen i ni eu hystyried mewn perthynas â’u ceisiadau, a beth yw eu hoff ddull o gysylltu.

Derbyniodd yr achwynydd ymddiheuriad gyda'r cynnig i drafod y mater ymhellach. Rydym yn awyddus i ddeall yr anawsterau a wynebir i geisio darparu atebion ymarferol ac i fireinio ein prosesau yn barhaus i ddod o hyd i ffyrdd mwy cynhwysol o weithio gyda chwsmeriaid anabl.

Ar hyn o bryd, rydym yn adolygu'r maes mynediad teg i'n gwasanaethau/lleoedd ar gyfer pobl â nodweddion gwarchodedig yn ein Strategaeth / Cynllun Gweithredu Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Casgliad

Mae canfyddiadau adroddiad eleni yn parhau i ddangos bod COVID-19 wedi cael effaith ar lawer o feysydd a fyddai'n gysylltiedig ag amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y busnes – er enghraifft, bu cyfyngiadau ar ein gwaith mewn perthynas ag achrediadau allanol a digwyddiadau ar gyfer hyrwyddo ac ymgorffori cydraddoldeb ymhellach er mwyn cefnogi rhaglenni ehangach i sicrhau llesiant ein staff.

Ein prif faes gwaith fu datblygu ein Prosiect Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2021 – camau 1 a 2. Mae’r broses ymgynghori/ymgysylltu hon â staff/rhanddeiliaid wedi arwain at ddatblygu chwe amcan cydraddoldeb yn ein dogfen ‘Gyda’n Gilydd – All Together’: Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant CNC 2021–25. Cymeradwywyd y strategaeth gan y Bwrdd ym mis Ionawr 2022, gyda chynllun gweithredu yn cael ei ddatblygu.

Mae ein hadroddiad blynyddol ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar 31 Mawrth 2021 yn dangos tuedd barhaus o gau ein bwlch, gan wella'r ffigur eleni o 2.5% i 2.0% o ran cymedr, ac yn aros yn ei unfan ar 3.1% o ran canolrif. Fodd bynnag, gwelwyd cynrychiolaeth gynyddol o fenywod yn ein chwartelau canol isaf a chwartelau canol uchaf.

Fel cymharydd yn y DU, mae’r bwlch cyflog cymedrig rhwng y rhywiau wedi gostwng o 10.5% yn 2011 i 7.0% yn 2020, gan godi i 7.9% yn 2021 (ONS: Gender pay gap in the UK: 2021), ond mae’n parhau i fod yn gadarnhaol o ran gwerth.

Mae canlyniadau’r dadansoddiad o’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau hefyd yn dangos bod menywod ar gyfartaledd yn cael eu talu 98c yn y £1 o gymharu â gwrywod ac, yn seiliedig ar y canolrif o 3.1%, yn cael eu talu 97c yn y £1 o gymharu â chyflog gwrywod fesul yr awr.

Mae canfyddiadau ein Dadansoddiad Proffiliau Staff yn dangos bod angen datblygu dealltwriaeth eang o amrywiaeth ein gweithlu ymhellach yn y Cynllun Gweithredu Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae hyn yn cynnwys cysylltiadau agos â’n Cynllun Ymgysylltu a Chyfathrebu i’n helpu i ymgysylltu â gweithlu sy’n fwy adlewyrchol o’r cymunedau hynny lle mae rhai o’n swyddfeydd mwyaf a’i ddenu. Yn ogystal â hyn, byddwn yn canolbwyntio, er enghraifft, ar gefnogi mwy o bobl i fanteisio ar weithio hyblyg/rhan-amser a denu ymgeiswyr iau am swyddi, trwy brosesau teg a mwy cynhwysol – fel yr amlygwyd yn ein strategaeth.

Mae’r adolygiad o Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi cynnwys map proses o un pen i’r llall er mwyn galluogi’r holl ystyriaethau ‘sylw dyledus’, ynghyd â thempled craffu cychwynnol Cam 1 newydd a mapio canlyniadau gwell.

Gwybodaeth am rwydweithiau staff

Calon: ein rhwydwaith i staff LHDTC+

Mae’r rhwydwaith yn darparu cymorth, arweiniad a chyfleoedd rhwydweithio i aelodau staff a chynghreiriaid LHDT+ CNC sy’n dymuno cefnogi cydraddoldeb a chynhwysiant LHDT+.

Ymfudodd y rhwydwaith o gyfranwyr cyrff etifeddiaeth a hwn oedd grŵp rhwydwaith staff swyddogol cyntaf CNC ym mis Ebrill 2013. Hyd yma, mae 50 o aelodau ffurfiol, gyda 130 yn dilyn y rhwydwaith ar Yammer.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r rhwydwaith wedi bod yn ymwneud â chyhoeddi canllawiau a’r fideo rhagenwau rhywedd i’r sefydliad ym mis Chwefror 2022, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o Ddiwrnod Gweladwyedd Pobl Drawsrywiol Rhyngwladol ar 31 Mawrth 2021.

Cyn bo hir, bydd y rhwydwaith yn enwebu arweinydd newydd ar ôl i BR ymddiswyddo ym mis Tachwedd 2020, i ddathlu Diwrnodau Gweladwyedd Rhyngwladol a chyfrannu at gyflwyniad Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall.

Rhwydwaith gofalwyr cwtsh

Sefydlwyd grŵp y Rhwydwaith Gofalwyr (Cwtsh) yn 2019 gyda’r nod o wneud mwy i gydnabod, cefnogi a gwerthfawrogi ein cydweithwyr sy’n gofalu am anwyliaid. Mae tua 30-35 yn aelodau o’r grŵp cyfarfod, a mwy yn y rhwydwaith Yammer ehangach.

Mae cyfarfodydd rheolaidd wedi parhau i gael eu cynnal drwy gydol 2021/22, ond, gyda mwy o alw ar lawer o aelodau yn ystod y cyfyngiadau symud, mae presenoldeb wedi bod yn gymharol isel, ac mae’r amser ar gael i aelodau gymryd rhan mewn gweithgareddau hefyd wedi bod yn isel. Mae’r rhwydwaith felly wedi penderfynu symud i gyfarfodydd chwarterol mwy penodol yn ystod 2022/23 gyda’r nod o gynyddu argaeledd a phresenoldeb. Kate Cameron yw’r cadeirydd presennol gyda Mariella Scott yn cefnogi fel ysgrifenyddiaeth ac Annie Payne yn cefnogi’r ddwy rôl.

Mae gan y rhwydwaith gysylltiadau â rhwydweithiau staff eraill fel Cyfeillion Dementia a’r grwpiau llesiant ac amser i siarad. Mae un aelod yn mynychu ac yn rhoi diweddariad yng nghyfarfodydd y Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, sy'n parhau i gefnogi'r rhwydwaith.

Mae gan grŵp Cwtsh Yammer 80 o aelodau ac mae tudalen fewnrwyd ar gael i bob aelod o staff. Mae hon yn cynnwys canllawiau i staff sy’n esbonio’r cymorth sydd ar gael yn uniongyrchol gan CNC a thrwy ein haelodaeth o’r cynllun Cyflogwyr i Ofalwyr. Yn ystod 2022, mae cynlluniau i ddiweddaru tudalennau'r fewnrwyd.

Mae ‘Sesiynau Paned Gofalwyr’ yn cael eu cynnal yn fisol, fel Sesiynau Paned Gofal i'r Henoed a phaned ‘y gair A’, a thrwy dudalen Yammer y grŵp yn ddiweddar, gwahoddwyd awgrymiadau ar gyfer unrhyw grwpiau pellach a allai fod yn ddefnyddiol i'w sefydlu.

Mewn cyfarfodydd eleni, mae’r grŵp wedi trafod y canlynol:

  • Yr adroddiad Cyflwr Gofalu a gyhoeddwyd yn ddiweddar – ymchwil fwyaf cynhwysfawr y DU i fywydau a phrofiadau gofalwyr yn 2021
  • Defnyddio technoleg i gefnogi pobl sy'n byw'n dda gyda dementia
  • Cyflwyno pasbort gofalwr CNC a pholisïau a gweithdrefnau ategol
  • Gweithgareddau i hyrwyddo Diwrnod Hawliau Gofalwyr ac Wythnos Gofalwyr 2021
  • Cymorth gan y Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
  • Cynllun Cyflogwyr i Ofalwyr a'r adnoddau sydd ar gael i ni fel aelodau parhaus
  • Sut y gall y rhwydwaith gefnogi ei gilydd, yn enwedig yn ystod y pandemig
  • Dyfodol ein cyfarfodydd a'r hyn yr hoffem ei gael ganddynt

Roedd rhai o’n gweithgareddau codi ymwybyddiaeth dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys y canlynol:

  • Ym mis Mehefin 2021, dathlwyd Wythnos Gofalwyr, gyda phresenoldeb cryf ar y fewnrwyd i roi gwybod i bobl am y grŵp. Roedd blogiau gofalwyr lle bu pobl yn rhannu profiadau personol o ofalu a chydbwyso hyn â’u bywydau gwaith, gyda ffocws ar ofalu drwy’r pandemig. Cynhaliasom hefyd nifer o weithdai cymorth i ofalwyr sy’n gweithio, a chymorth i reolwyr llinell gofalwyr sy’n gweithio, a hwyluswyd yn fedrus gan Jane Healey o Gofalwyr Cymru.
  • Ym mis Tachwedd, ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, cynhaliwyd gweithdai ar gyfer rheolwyr llinell, ar gais y rhai nad oeddent wedi gallu mynychu o’r blaen. Yn anffodus, nid oedd y sesiynau ar gyfer rheolwyr llinell wedi’u cefnogi cystal, oherwydd ymrwymiadau calendr cystadleuol, a bydd dull gwahanol yn cael ei ddefnyddio i ddarparu un recordiad o’r cyflwyniadau i holl reolwyr llinell CNC. Ar ôl gwrando ar y recordiad, os oes gan reolwyr llinell unrhyw gwestiynau pellach neu os hoffent sgwrsio am rai enghreifftiau, bydd Gofalwyr Cymru yn hapus i gynorthwyo trwy gynnal rhai sesiynau a drefnwyd o amgylch calendrau perthnasol. Mae Cwtsh yn awyddus i rannu’r cyngor a’r cymorth sydd ar gael gan Gofalwyr Cymru i’n holl grwpiau o reolwyr llinell ac felly mae hefyd wedi cynnig trefnu sesiynau mewn cyfarfodydd eraill a drefnwyd (fel y Tîm Gweithredol neu Grŵp y Tîm Arwain), gyda chymorth uwch amlwg yn rhan allweddol o ymrwymiad CNC.

Darn sylweddol o waith y mae rhai o’r aelodau wedi bod yn ymwneud ag ef eleni yw datblygu Pasbort Gwaith a Llesiant i Staff CNC a’i weithdrefn ategol, a diweddaru’r polisi a’r weithdrefn gofalwyr ochr yn ochr â rhwydweithiau staff eraill.

Mae grŵp Cwtsh yn parhau i weithio gyda’n Cynghorydd Arbenigol Amrywiaeth a Chynhwysiant i gysylltu â’r cynllun ‘Cyflogwyr i Ofalwyr’ ac mae CNC wedi parhau i fod yn aelodau o Hwb Cymru, ar ôl adnewyddu eu haelodaeth am ail flwyddyn yn ddiweddar. Nod Cyflogwyr i Ofalwyr yw cefnogi cyflogwyr i gefnogi gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu a chreu gweithleoedd cyfeillgar i ofalwyr. Fel y soniwyd uchod, mae gan CNC fynediad at ei ddeunyddiau cyhoeddusrwydd, canllawiau a hyfforddiant, a rhennir y manylion â staff sy’n ofalwyr a’u rheolwyr llinell drwy’r fewnrwyd, Yammer a'r cylchlythyr misol i reolwyr fel y bo’n briodol.

Rhwydwaith niwroamrywiaeth

Mae’r Rhwydwaith Niwroamrywiaeth yn bodoli i gysylltu staff niwrowahanol, ynghyd â chynghreiriaid, fel y gallant gefnogi ei gilydd a chynghori CNC ar faterion perthnasol.

Mae’r rhwydwaith wedi bodoli ers mis Hydref 2020 gyda chyfanswm o tua 30 aelod (mae’r ffigwr hwn yn amrywio gyda staff yn ymuno ag CNC ac yn ei adael).

Gweithgareddau rhwydwaith trwy gydol 2021:

  • Rhoi cyngor ar hyfforddiant rheoli ar niwroamrywiaeth ac adolygu darparwyr hyfforddiant – fe wnaethom helpu i ddod o hyd i hyfforddwyr ar gyfer y Bwrdd a chael gwared ar ambell i hyfforddiant undeb PCS a oedd wedi dyddio
  • Darparu dolenni i ffynonellau gwybodaeth allanol ar Yammer
  • Darparu llwyfan trafod a rhannu ar Yammer
  • Cynghori ar ddefnyddio gosodiadau Microsoft Teams ar gefndiroedd addas ar gyfer staff niwrowahanol
  • Cyflwyniadau ar ddyslecsia a niwrowahaniaeth ar gyfer Gweminarau Dydd Mercher
  • Cynrychiolwyr yng nghyfarfodydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant CNC
  • Cyfarfodydd Microsoft Teams i aelodau
  • Rhoi cyngor ar ddefnyddio iaith sy’n disgrifio cyflyrau niwrowahanol

Mae’n ddyddiau cynnar o ran amrywiaeth a chynhwysiant a niwroamrywiaeth, ac er bod y rhwydwaith wedi gallu ymgysylltu’n gadarnhaol iawn ag CNC a’i gynlluniau amrywiaeth a chynhwysiant, mae’r sefyllfaoedd unigol y mae ein haelodau yn eu cael eu hunain ynddynt yn parhau i fod yn broblemus.

Mae'r stigma sy'n gysylltiedig â bod yn niwrowahanol yn golygu nad yw llawer o aelodau'n teimlo eu bod mewn sefyllfa i ofyn am yr addasiadau o ran anabledd y mae ganddynt hawl gyfreithiol iddynt. 

Mae’r rhagolwg ar gyfer 2022 yn cynnwys y canlynol:

  • Canllawiau cyflym i reolwyr a chydweithwyr sy'n gweithio gyda staff niwrowahanol neu staff sy'n meddwl y gallent fod yn niwrowahanol
  • Hyfforddiant staff ar niwroamrywiaeth i aelodau'r rhwydwaith er mwyn hyrwyddo croesawu gwahaniaeth yn gadarnhaol a grymuso staff i ofyn am addasiadau lle bo angen
  • Gweithio gyda Datblygu’r Sefydliad a Rheoli Pobl i weld a ellir ymgorffori addasiadau yn well o fewn prosesau adnoddau dynol, e.e. drwy gael eu hadolygu fel rhan o gyfarfodydd Cynlluniau Datblygu Personol
  • Sesiynau briffio ar hawliau cyfreithiol i staff sy’n anabl oherwydd gweithredoedd eraill o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, e.e. yr hawl i addasiadau a’u defnyddio, i beidio ag wynebu aflonyddwch sy'n ymwneud â nodwedd warchodedig

Dyddiadau pwysig:

  • Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth 2022: 14 Mawrth – 19 Mawrth

Rhwydwaith grŵp TGCh ar gyfer defnyddwyr a gynorthwyir

Prif rôl y Grŵp TGCh ar gyfer Defnyddwyr a Gynorthwyir yw darparu canolbwynt ar gyfer ar gyfer materion sy'n ymwneud â hygyrchedd. Mae’r grŵp yn gyfrifol am sicrhau bod CNC yn defnyddio offer safonol cyfoes a fersiynau cyson, gan weithio gyda llywodraethu TGCh i reoli a chyflawni unrhyw newidiadau.

Mae gweithgareddau’r grŵp yn cynnwys ymwneud â’r canlynol:

  • Helpu i brofi meddalwedd newydd
  • Uwchgyfeirio risgiau a materion i'r Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau TGCh, y Rheolwr Strategaeth a Dylunio Gwasanaethau TGCh, neu aelod perthnasol o'r Tîm Arwain
  • Rhannu dysgu, awgrymiadau a thriciau rhwng defnyddwyr technoleg gynorthwyol
  • Adolygiad grŵp o hyfforddiant ac arweiniad pellach sydd eu hangen o'r tu allan i'r sefydliad
  • Adolygiad o gynnydd ar brosiectau cyfredol yn ymwneud â thechnoleg defnyddwyr a gynorthwyir
  • Codi ymwybyddiaeth o anghenion TGCh a theleffoni defnyddwyr a gynorthwyir ym mhob rhan o'r busnes
  • Sicrhau bod gofynion technoleg gynorthwyol yn cael eu cynnwys mewn prosiectau newydd o'r cychwyn cyntaf

Mae’r rhwydwaith wedi bodoli ers 2013 ac mae ganddo 29 o aelodau ar hyn o bryd.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r grŵp wedi profi cymwysiadau amrywiol, megis y system bwcio desg, i sicrhau eu bod yn hygyrch, gan weithio gyda rheolwyr prosiect i geisio datrysiad pan nad dyma’r achos.

Ni chynhaliwyd unrhyw ymgyrchoedd nac unrhyw ddigwyddiad i godi ymwybyddiaeth dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dros y flwyddyn nesaf, bydd y grŵp yn parhau i brofi cymwysiadau a sicrhau bod meddalwedd a ddatblygir yn fewnol neu a brynwyd oddi ar y silff yn hygyrch i bawb.

Cyfeillion Dementia

Er gwaethaf parhau i weithio gartref, mae’r rhwydwaith wedi creu 95 o ffrindiau dementia newydd rhwng Chwefror 2021 a diwedd Ionawr 2022, trwy gynnal sesiynau rhithwir sy’n gysylltiedig â’n rhaglen sefydlu newydd i ddechreuwyr a’n gweminarau i staff #TîmCNC.

Mae'r rhwydwaith wedi cysylltu eu sesiynau gwybodaeth rhithwir ‘cyfeillion dementia’ â'n rhaglen sefydlu CNC, ac, erbyn hyn, mae pob dechreuwr newydd yn mynychu sesiwn yn ystod ei fisoedd cyntaf gyda ni. Cynhelir dwy sesiwn gan y rhwydwaith, sef sesiwn Ymwybyddiaeth Cyfeillion Dementia, a sesiwn fer am daith CNC i ddod yn Gymuned sy’n Deall Dementia, yr adnoddau sydd ar gael i staff, a’r disgwyliadau i staff fod yn ‘ystyriol o ddementia’ yn eu gwaith. Mae'r tîm Addysg ac Iechyd a thîm Cynorthwywyr Personol y Gwasanaethau Galluogi hefyd wedi cymryd rhan yn y sesiwn ymwybyddiaeth yn ystod cyfarfodydd tîm.

Mae gan CNC bellach bum Hyrwyddwr Dementia achrededig, sy’n gallu cyflwyno sesiynau gwybodaeth naill ai wyneb yn wyneb neu drwy ddefnyddio’r fformat rhithwir newydd.

Mae ein gwaith i fod yn ystyriol o ddementia yn parhau i gael ei gynrychioli yn ein cyfarfodydd Fforwm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant parhaus a sesiwn paned rithwir ‘gofalu am bobl hŷn’. Cefnogir y sesiwn baned gan grŵp craidd o 12 o bobl.

Rhennir manylion ein gwaith Cymuned sy’n Deall Dementia ar gyfres o dudalennau mewnrwyd, y mae’r rhwydwaith yn parhau i’w cynnal a’u diweddaru.

Mae CNC wedi ymuno â grŵp dementia ‘golau glas’ ar draws Cymru gyfan er mwyn rhannu dysgu a'r arferion gorau. Y gwasanaeth ambiwlans sy'n ei gydlynu, ac mae'n cynnwys cynrychiolaeth gan yr heddlu a'r gwasanaeth tân yn ogystal. Mae'n amlwg bod digwyddiadau eleni wedi cael effaith ar allu aelodau'r fforwm i fynychu cyfarfodydd, ond, o edrych ymlaen, byddant yn darparu diweddariadau am eu mentrau hwylus i ddementia ac yn rhannu'r arferion gorau.

Mynychwyd yr hyfforddiant rhithwir a digwyddiadau canlynol, a dosbarthwyd gwybodaeth berthnasol i’r busnes:

  • Cymunedau sy’n Deall Dementia – hyfforddiant Pobl a Lleoedd i fusnesau – Platfform Cymru
  • Cynhadledd Dementia Ryngwladol – Cymdeithas Alzheimer
  • Cynhadledd Dementia Cymru – Cymdeithas Alzheimer

Mae’r rhwydwaith yn cymryd rhan yn ymgyrch Natur a Ni CNC ac wedi cyfarfod ag aelodau o’r tîm i awgrymu sut y gall CNC gynnwys rhanddeiliaid sydd naill ai’n byw gyda dementia neu eu gofalwyr i gymryd rhan yn yr ymgyrch.

Fel aelod o’r tîm Iechyd, Addysg ac Adnoddau Naturiol, mae un o’r arweinwyr sefydliadol yn gallu bwydo i mewn i ddatblygu polisi a phrosiectau sy’n gofyn am wybodaeth a dealltwriaeth o bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr, ac mae’n cefnogi’r arbenigwyr ‘iechyd’ o fewn y tîm hwn. Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd yn mynychu Cynhadledd Canolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia a fydd yn trafod y thema Degawd o Heneiddio'n Iach.

Rhwydwaith y gymdeithas Gristnogol

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r rhwydwaith wedi parhau i addasu yn dibynnu ar gyfyngiadau COVID-19 ac wedi defnyddio'r dudalen Yammer i rannu darnau o’r Beibl ac anogaeth.  Yn aml, bu adegau pan fo’r llun neu’r fideo a rennir wedi tynnu sylw un neu fwy o aelodau’r grŵp. Mae pawb yn dysgu oddi wrth ein gilydd ac yn meithrin cydberthnasau cryfach, er nad yw llawer ohonom erioed wedi cyfarfod wyneb yn wyneb. Diolch enfawr i Ian Metcalf am ei ymagwedd gadarn at rannu lluniau, fideos a geiriau anhygoel bob dydd.

Mae’r cyfarfodydd hefyd wedi gweld mynd a dod gyda gwahanol bobl yn mynychu’r cyfarfodydd gweddi byr dydd Llun, a’r sesiynau amser cinio hirach yn rheolaidd bob yn ail wythnos ar ddydd Mercher neu ddydd Iau. Mae’r rhwydwaith yn parhau i sefyll gyda’i gilydd, gan ddysgu mwy am gymwynas Duw ac archwilio'n ddyfnach i bynciau i’n hysbrydoli a’n herio. Yn aml iawn, mae hyn yn arwain at gyd-destun amgylchedd gwaith CNC a’r angen i weddïo dros y sefydliad yn gyffredinol a grwpiau penodol o staff a allai ddod i’r meddwl.

Mae’r rhwydwaith wedi parhau i gysylltu’n gyson yn y sesiynau dydd Llun a’r sesiynau amser cinio bob yn ail ddydd Iau gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru – sy’n parhau i fod yn fendith fawr ac yn fantais annisgwyliedig i’r sefyllfa COVID-19 barhaus.

Dros y flwyddyn, mae’r rhwydwaith wedi dechrau creu mwy o gysylltiadau â’r sefydliad cymorth cenedlaethol ar gyfer y Gymdeithas Gristnogol yn y gweithle – Transform UK. Mae'r rhwydwaith yn gobeithio archwilio ffyrdd eraill o gysylltu â nhw eleni ac elwa ar y cymorth y gallant ei roi.

Mae hefyd wedi bod yn fendith i allu cyflwyno’n rheolaidd yn y rhaglen sefydlu newydd i ddechreuwyr ar y rhwydwaith, ac rydym yn ddiolchgar bod CNC yn blaenoriaethu rhwydweithiau staff drwy’r rhaglen hon gan ei fod yn wirioneddol amlygu’r cymorth a’r gefnogaeth yr ydym yn eu cael gan CNC i barhau i gyfarfod ac i wir yn teimlo'n rhan o'r sefydliad.

Mae'r rhwydwaith wedi bodoli ers 2014, ac ar hyn o bryd mae 30 aelod yng ngrŵp Yammer/e-bost y Gymdeithas Gristnogol. Yn gyffredinol, mae rhwng pump a deg aelod yn mynychu cyfarfodydd rheolaidd y rhwydwaith, sy'n newid yn dibynnu ar argaeledd staff.

Rhwydwaith Mwslimiaid

Cafodd y rhwydwaith hwn ei lansio ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio yn y sefydliad sydd naill ai'n arfer y ffydd Fwslimaidd neu a hoffai ddarganfod mwy am Islam, cwrdd â phobl newydd, a dangos ei fod yn gefnogol.

Mae'r rhwydwaith yn bodoli i godi ymwybyddiaeth a helpu staff i gael gwell dealltwriaeth o Islam yn hytrach na'r cysylltiad negyddol, a weithiau Islamoffobaidd, y maent yn ei gael.  Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac nid yw'n helpu cymdeithas i fyw mewn cytgord â'i gilydd. 

Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan bwysig o CNC, ac felly dylai CNC fod yn ymrwymedig i wneud ein sefydliad mor amrywiol â’r amgylchedd o’n cwmpas. Mae angen i hyn gael blaenoriaeth gan Dîm Gweithredol / Bwrdd CNC a mynd y tu hwnt i bolisïau.

Mae hyn yr un mor bwysig â’r gymuned Islamaidd (fel cymunedau lleiafrifoedd ethnig eraill), sy’n cael ei thangynrychioli fel poblogaeth o fewn lefelau staffio CNC. Mae’r cymunedau hyn ymhell o gyrraedd CNC, boed hynny o ran niferoedd staff neu o ran ymgysylltiad ehangach.

Rhestr o bynciau asesu’r effaith ar gydraddoldeb a gynhaliwyd yn 2021 i 2022

Dyma'r 32 asesiad a gynhaliwyd:

  • Cam 2 Prosiect Systemau Gwybodaeth Dŵr gan Kisters (WISKI)
  • Meddalwedd Synhwyro Cymdeithasol
  • AssessNET
  • Arolwg Cynefin Afon Dinasyddion
  • Galluogi Coetiroedd Cymunedol
  • Gwasanaeth Cymorth Rheoli Contractau
  • Polisi a Gweithdrefnau Absenoldeb
  • Polisi a Gweithdrefnau Menopos
  • Polisi a Gweithdrefnau Darparu Profion Llygaid a Sbectol
  • Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant – Gyda'n Gilydd
  • Rhaglen Newid Grantiau
  • Polisi a Gweithdrefn Dirgryniadau Braich-Llaw
  • Adolygiad Prosiect Llyn Tegid
  • Prosiect Microsoft Teams
  • Cam 3 Microsoft Teams
  • Natur a Ni
  • Cynllun Corfforaethol CNC 2022 – 2027
  • Trosolwg o'r Prosiect Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Camau 1 a 2
  • System Cyfnewid Telemetreg
  • System Bwcio Swyddfa
  • Polisi Rheoli Portffolio Prosiect
  • Maes Parcio Ôl-weithredol Niwbwrch
  • Cynllun Lliniaru rhag Llifogydd Stryd Stephenson
  • Diwygio Tynnu Dŵr
  • Polisi Disgyblu
  • Polisi Addysg Bellach
  • Prosiect Datblygu ac Arloesi Caniatadau
  • Canlyniadau Posibl y Prosiect Rotâu Contractiol
  • Pasbort Llesiant Staff
  • Pasbort Gofalwr
  • Polisi Addasiadau Rhesymol

Ystadegau recriwtio ar gyfer Ionawr 2021 i Ragfyr 2021

Sylwer: Dangosir data o dan 10 fel 'llai na 10' at ddibenion diogelu data.

Beth yw eich grŵp oedran?

Grŵp oedran Cyfanswm
16-24 354
25-34 619
35-44 373
45-54 181
55-64 81
65 a mwy llai na 10
Gwell gen i beidio â dweud 15
Gwag llai na 10

Beth yw eich rhywedd?

Rhywedd Cyfanswm
Gwryw 940
Benyw 675
Anneuaidd 16
Byddai’n well gen i beidio â dweud llai na 10

A yw eich hunaniaeth o ran rhywedd yr un peth â'r rhywedd a gafodd ei nodi pan gawsoch eich geni?

Hunaniaeth rhywedd Cyfanswm
Ydy 1605
Byddai’n well gen i beidio â dweud 12
Nac ydy llai na 10
Gwag llai na 10

Ydych chi ar hyn o bryd yn briod neu mewn partneriaeth sifil?

Priod neu mewn partneriaeth sifil Cyfanswm
Nac ydw 1146
Ydw 455
Gwell gen i beidio â dweud 23
Gwag llai na 10

Beth yw eich cyfeiriadedd rhywiol?

Cyfeiriadedd rhywiol Cyfanswm
Heterorywiol / strêt 1446
Gwell gen i beidio â dweud 74
Deurywiol 51
Dyn hoyw 30
Menyw hoyw / lesbiad 17
Mae'n well gen i ddefnyddio fy nherm fy hun llai na 10
Gwag llai na 10

Pa gyfrifoldebau gofalu sydd gennych?

Cyfrifoldeb gofalu Cyfanswm
Neb 1259
Prif ofalwr am blentyn/plant (iau na 18 oed) 252
Gofalwr eilaidd 73
Gwell gen i beidio â dweud 36
Dim cofnod llai na 10
Prif ofalwr (dros 65 oed) llai na 10
Cynorthwyo gyda gofalu llai na 10

Ydych chi'n ystyried bod gennych anabledd?

Anabledd Cyfanswm
Nacv ydw 1578
Ydw 42
Gwell gen i beidio â dweud llai na 10
Gwag llai na 10

Ceisiadau o dan y Cynllun Gwarantu Cyfweliad

Wedi gwneud cais Cyfanswm
Naddo 221
Do 32
Dim cofnod 1376

Cynigion cyfweliad o dan y Cynllun Gwarantu Cyfweliad

Cyfweliad wedi cael ei gynnig Cyfanswm
Do 21
Naddo (Dim cynnig yn sgil peidio â bodloni'r meini prawf gofynnol) 11

Beth yw eich crefydd neu eich cred?

Crefydd neu gred Cyfanswm
Nid oes gen i unrhyw ffydd neu gred 945
Mae gen i ffydd neu gred 580
Gwell gen i beidio â dweud 103
Dim cofnod llai na 10

Beth yw eich ethnigrwydd?

Ethnigrwydd Cyfanswm
Gwyn (Seisnig, Cymreig, Albanaidd, Gwyddel/Gwyddeles o Ogledd Iwerddon, Prydeinig, Gwyddelig, Sipsi neu Deithiwr, unrhyw gefndir Gwyn arall) 1521
Gwell gen i beidio â dweud 32
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig
(Indiaidd, Pacistanaidd, Bangladeshaidd, Tsieineaidd, unrhyw gefndir Asiaidd arall)
26
Grŵp ethnig arall
(Arabaidd neu unrhyw grŵp ethnig arall)
23
Grwpiau ethnig cymysg/lluosog
(Gwyn a Du Caribïaidd, Gwyn a Du Affricanaidd, Gwyn ac Asiaidd, unrhyw gefndir ethnig cymysg/lluosog arall)
11
Du / Affricanaidd / Caribïaidd / Du Prydeinig
(Affricanaidd, Caribïaidd, unrhyw gefndir Du/Affricanaidd/Caribïaidd arall)
11
Dim cofnod llai na 10

Ystadegau hunanddatgelu staff 2021 – 2022

Gweler ystadegau hunan-ddatgeliad 2021-2022

Diweddarwyd ddiwethaf