Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygu x 3

Dyddiad Cau: 2 Ebrill 2023 | Cyflog: £32,876 - £36,229 (Gradd 5) | Lleoliad: Hyblyg

Math o gontract:

  • 200050 Cyfnod Penodol hyd at 1 Mawrth 2024 - Lleoliad Hyblyg
  • 200047 Cyfnod Penodol hyd at 18 Chwefror 2024 (Cyfnod Mamolaeth) - Lleoliad Hyblyg
  • 203489 Cyfnod Penodol hyd at 9 Ionawr 2024 - Lleoliad Gogledd Cymru

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos. 

Rhifau y swyddi: 200047, 200050, 203489

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r Swydd

Bydd deiliad y swydd yn asesu cynigion datblygu ar gyfer effeithiau amgylcheddol posibl ar holl fuddiannau CNC. Byddant yn ymateb i’r Cynllun Datblygu Lleol ac ymgynghoriadau ar waith achos datblygu ledled sawl ardal Awdurdod Cynllunio Lleol. Byddant yn sicrhau bod cyngor yn cael ei ddarparu i gwsmeriaid sy’n dylanwadu ar greu llefydd cynaliadwy a chefnogi rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Paratoi Cynlluniau Datblygu Lleol a Chyngor, gan gynnwys cyngor ar eu Hasesiad Amgylcheddol Strategol (gyda chymorth y Cynghorydd Cynllunio Datblygu (6) ar gynigion risg uchel technegol gymhleth), gan sicrhau bod y cyngor yn gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei ddarparu yn brydlon.
  • Rhoi cyngor ar ymholiadau cyn gwneud cais, ymgynghoriadau rheoli datblygu, Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol a Phrosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (gyda chymorth y Cynghorydd Cynllunio Datblygu (6) ar gynigion risg uchel technegol gymhleth), gan sicrhau bod y cyngor yn gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei ddarparu’n brydlon.
  • Paratoi gwybodaeth mewn perthynas â heriau yn erbyn cyngor cynllunio datblygu CNC, gan gynnwys presenoldeb mewn Apeliadau ac Ymchwiliadau.
  • Datblygu cysylltiadau cwsmeriaid effeithiol (mewnol ac allanol) a sicrhau dealltwriaeth dda o anghenion cwsmeriaid.
  • Nodi cyfleoedd i ddylanwadu ar brosiectau a chynlluniau Datblygu lleol cyn gynted â phosibl.
  • Cadw cofnodion archwiliadwy o gamau a chanlyniadau i gyfiawnhau ac arddangos bod yr holl ofynion cyfreithiol a threfniadol wedi’u bodloni

Cymwysterau, Profiad & Gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:

  1. Profiad mewn prosesau cynllunio datblygu a gweithio gyda’r sector datblygu.
  2. Profiad o gynnal ac adolygu asesiadau effaith amgylcheddol.
  3. Gallu cyfathrebu’n effeithiol ag Awdurdodau Cynllunio Lleol, busnes a’r cyhoedd, gan egluro materion cymhleth ac ennyn cefnogaeth drwy ddylanwadu.
  4. Sgiliau hunanreoli a sefydliadol cadarn ac effeithiol.
  5. Gallu dadansoddi gwybodaeth a sefyllfaoedd cymhleth, datrys problemau a gwneud penderfyniadau cadarn.
  6. Y gallu i ysgrifennu dogfennau clir a chryno.
  7. Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac arwain grwpiau tasg rhithwir.

Gofynion y Gymraeg:

200047, 200050 - Hanfodol Lefel 1 – y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

203489 - Hanfodol Lefel 3 – gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Arbenigedd amlwg mewn maes neu swyddogaeth ddiffiniedig, sy'n galluogi deiliad y swydd i ddarparu cyngor ac arweiniad i eraill.
  • Yn dangos dealltwriaeth a gwerthfawrogiad cadarn o waith y swyddogaeth ehangach.
  • Sgiliau da o ran llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu, gan gynnwys sgiliau datblygedig wrth ddod wyneb yn wyneb â chwsmeriaid.
  • Mae profiad o oruchwylio eraill yn ddymunol.

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Yn dangos y gallu i ddeall gwybodaeth, llawlyfrau gweithdrefnau, codau statudol a deddfwriaeth a dehongli a chymhwyso'r gofynion i gyflawni ei rôl.
  • Y gallu i ddadansoddi a phrosesu gwybodaeth dechnegol anarferol sy'n cynnwys rhywfaint o gymhlethdod.

Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth

  • Y gallu i benderfynu ar y ffordd orau o sicrhau canlyniadau, sy'n gofyn am rywfaint o farn a chreadigrwydd a'r angen i newid blaenoriaethau lle mae gofynion sy'n gwrthdaro.
  • Y gallu i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau o natur dechnegol, yn bennaf o gwmpas ei faes gwaith ei hun ond bydd hefyd yn gorgyffwrdd â gwaith eraill.
  • Gall problemau a phenderfyniadau gynnwys rhywfaint o gymhlethdod a gofyn am yr angen i gymhwyso gwahanol dechnegau neu ddulliau.
  • Y gallu i gynnal ymchwil i benderfynu ar y ffordd orau o ddatrys problemau.
  • Y gallu i ddarparu arweiniad i aelodau llai profiadol er mwyn datrys problemau.

Effaith

  • Mae'r gwaith a wneir yn gyffredinol o fewn ardal arwahanol felly bydd yn effeithio'n bennaf ar yr amgylchedd uniongyrchol, ond gall hefyd ymestyn ar draws meysydd pwnc a gwaith eraill.
  • Efallai y bydd gan agweddau o'r gwaith y potensial, os cânt eu gwneud yn anghywir, i effeithio ar drydydd partïon ac ardal ehangach.

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Yn dangos y gallu i ryngweithio a chyfathrebu â phobl o amgylch ei faes arbenigedd, ar draws ystod o swyddogaethau o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru a phartïon allanol, gan addasu ei ddull a'i arddull yn briodol.
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu sefydledig gyda'r gallu i ddatblygu a chynnal cydberthnasau gwaith da, a allai gynnwys rhywfaint o ddylanwadu.

Cyfrifoldeb dros Bobl

  • Nid oes gan y swydd hon unrhyw gyfrifoldeb rheoli llinell, ond byddwch yn goruchwylio eraill mewn gweithgareddau neu ddarnau penodol o waith.

Cyfrifoldeb dros Adnoddau

  • Yn gyfrifol am ddefnyddio a chadw offer a chyfarpar a ddefnyddir i gyflawni ei waith yn ddiogel ac yn gyfreithiol.
  • Bydd deiliad y swydd yn goruchwylio contractwyr a'r costau cysylltiedig.

Manteision Gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud Cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 2 Ebrill 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swyddi, cysylltwch â 

200047, 200050 - Jonathan Scott ar Jonathan.scott@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

203489 - Bryn Jones ar Bryn.Jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk  

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf