Dyddiad cau: 29 Mawrth 2023 | Cyflog: £21,655 - £24,408 pro rata i £12,875.95 - £14,512.86 (Gradd 2) | Lleoliad: Hyblyg mewn De Orllewin Cymru 

Math o gontract: Parhaol

Patrwm gwaith: Rhan amser, 22 awr y wythnos Dydd Llyn, Dydd Mercher & Dydd Gwener

Rhif swydd: 202034

Disgrifiad o’r swydd

Mae'r tîm gweithredol Cyfleusterau yn gyfrifol am ddarparu amgylchedd adeiledig diogel ac iach i staff CNC, a chontractwyr, gan eu galluogi i gyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol ac i'n cwsmeriaid fwynhau eu profiad fel ymwelwyr.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â'r tîm wrth i ni gyflawni’r cylch gwaith uchod tra'n gweithredu newidiadau i wella ein hadeiladau fel eu bod yn addas ar gyfer ffyrdd o weithio yn y dyfodol ac yn lleihau ôl troed carbon CNC, gan wneud ein rhan i ymateb i Argyfwng yr Hinsawdd.

Gan fod yn atebol i Arweinydd y Tîm, nod y swydd hon yw cefnogi'r Cydlynydd a bydd yn cynnwys ymweliadau rheolaidd, annibynnol â'n hadeiladau o fewn yr hwb, sydd i’w cael mewn rhai o leoliadau mwyaf trawiadol ac anghysbell Cymru.  Bydd tasgau a gwiriadau Rheoli Cyfleusterau yn cael eu cyflawni, eu cofnodi a'r camau gweithredu'n cael eu cwblhau.  Mae'r rhain yn ein helpu i sicrhau ein bod yn cynnal cydymffurfiaeth gyfreithiol statudol.  Mae'r swydd yn brysur, ac mae’r tasgau'n amrywiol.  Mae enghreifftiau'n cynnwys cofnodi tymereddau dŵr, darllen mesuryddion cyfleustodau, profi larymau tân, trefnu atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw ac archebu offer a defnyddiau swyddfa.

Bydd eich brwdfrydedd wrth ddarparu gwasanaeth gwych i'n staff a'n rhanddeiliaid yn hanfodol.  Mae hon yn rôl ymarferol, sy'n gweithio mewn amgylchedd prysur a deinamig.  Byddwch yn darparu rôl blaen tŷ ac yn rhan o dîm sy'n rheoli desg gymorth brysur.        

Mae CNC yn meddu ar achrediad Amgylcheddol ISO14001 ac ISO45001 Rheoli Iechyd a Diogelwch ac mae llawer o'n tasgau yn cefnogi'r rhain yn uniongyrchol ac yn destun gwaith craffu at ddibenion archwilio.

Rydym yn chwilio am berson cyfrifol, hyblyg a phragmatig, sy'n gallu blaenoriaethu a sicrhau bod tasgau'n cael eu cwblhau a'u cofnodi'n briodol. Rydym hefyd yn disgwyl y safonau uchaf wrth ymdrin â’n cwsmeriaid, yn fewnol ac yn allanol.

Darperir hyfforddiant ac mae cyfleoedd i ymgymryd â phrentisiaeth IWFM ac ar gyfer camu ymlaen yn eich gyrfa o fewn y swyddogaeth Rheoli Cyfleusterau a Fflyd.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Darparu amgylchedd gwaith diogel ac iach ar gyfer staff, cwsmeriaid a chontractwyr Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Darparu gwasanaeth rheng flaen rhagorol i gwsmeriaid a meithrin diwylliant o welliant parhaus wrth ddarparu gwasanaethau.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Cymhwyster lefel 3 mewn Rheoli Cyfleusterau neu debyg.
  2. Gwybodaeth ragorol am reoli iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig â’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
  3. Profiad o ddarparu gwasanaethau cyfleusterau caled a meddal o fewn amgylchedd adeiledig yn cynnwys:
    • Dealltwriaeth dda o ddefnyddio system gyllid a meddalwedd/rhaglenni eraill i ddiwallu anghenion eich maes cyfrifoldeb
    • Sgiliau trefnu da
    • Sgiliau da ar lafar ac yn ysgrifenedig a'r gallu i gyfathrebu'n hyderus ynghyd â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog
    • Sgiliau rhyngbersonol da gyda'r gallu i weithio o dan bwysau gan ddefnyddio eich mentergarwch eich hun i gwrdd â therfynau amser tynn.
    • Sgiliau TG rhagorol a sgiliau mewnbynnu data cywir
  4. Profiad o reoli gwaith atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau ar raddfa fach yn ogystal â rheoli contractwyr.

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a sgiliau hanfodol

  • Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad ymarferol o weithio mewn rolau eraill yn CNC neu mewn sefydliadau eraill.
  • Gwybodaeth gyffredinol a sgiliau mewn disgyblaethau gweinyddol, technegol neu broffesiynol, ac â'r gallu i ddeall a dilyn polisïau a gweithdrefnau.
  • Sgiliau cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd da, ynghyd â'r gallu i weithio heb oruchwyliaeth, a rheoli ei lwyth gwaith ei hun yn unol â'r arweiniad a chymorth a ddarperir, a hynny fel y bo angen ac fel y bo'n briodol.
  • Y gallu i ddysgu a datblygu gwybodaeth a sgiliau ymhellach.

Gwerthuso gwybodaeth

  • Llunio, adolygu a phrosesu gwybodaeth sy’n cael ei defnyddio gan bobl eraill neu er mwyn cefnogi'r gwaith a wneir gan ddeiliaid swyddi eraill yn y tîm a swyddogaeth ehangach.
  • Yn gofyn am rywfaint o waith dehongli a chymhwyso gwybodaeth syml, fel polisïau a gweithdrefnau.

Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth

  • Bydd deiliad y swydd yn gallu dewis rhwng opsiynau sefydledig, neu'n gallu datrys problemau y ceir profiad blaenorol o ymdrin â nhw, trwy gymhwyso gwybodaeth flaenorol a chanlyniadau hysbys.
  • Y gallu i weithio'n annibynnol a chyflawni ei gynllun gwaith ei hun yn unol â pharamedrau cytunedig a chanllawiau.
  • Mae'n bosibl y bydd rhywfaint o flaengaredd yn ofynnol, ond ni fydd gan ddeiliad y swydd lawer iawn o ymreolaeth, a chaiff ei waith ei lywio gan amcanion amlwg ac eglur.

Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill

  • Gwneud cysylltiad â meithrin cydberthnasau â phartïon mewnol ac allanol, sy'n gofyn am sgiliau cyfathrebu da a'r gallu i addasu arddull a chynnwys gwybodaeth yn briodol ar gyfer y gynulleidfa er mwyn sicrhau gwasanaeth da i gwsmeriaid.
  • Bydd gwaith cyfathrebu'n cynnwys rhoi a rhannu gwybodaeth, ymdrin ag ymholiadau safonol, a drafftio dogfennaeth arferol. Mae'n debygol y caiff unrhyw waith sy'n fwy cymhleth ei adolygu gan unigolyn ar lefel uwch.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau i wneud cais: 29 Mawrth 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Sian E Hughes ar Sian.e.hughes@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf