Cynghorydd Arbenigol, Ansawdd Dŵr

Dyddiad Cau: 16 Ebrill 2022 | Cyflog: £37,308 - £40,806 (Gradd 6) | Lleoliad: Hyblyg

Math o Gontract: Cyfnod Penodol nes 31 Mawrth 2024. Efallai y bydd potensial i'r penodiad hwn gael ei ymestyn neu ddod yn swydd barhaol yn ddiweddarach, ond ni ellir gwarantu hyn

Patrwm Gwaith: Llawn Amser, 37 awr yr wythnos

Rhif Swydd: 203298

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r Swydd

Arwain ar ddarparu asesiadau technegol a chyngor Ansawdd Dŵr yn bennaf mewn perthynas â rôl CNC o ran cyflawni gwelliannau mewn ansawdd dŵr mewn dalgylchoedd afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA).  Bydd y cyngor technegol/arbenigol hwn yn llywio'r gwaith o ddatblygu polisïau, rhaglenni, cynlluniau, strategaethau a chanllawiau CNC ar gyfer afonydd ACA, a bydd yn cefnogi meysydd gwaith ansawdd dŵr eraill sydd o flaenoriaeth.  Byddwch yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y Prosiect Afonydd ACA i gynnal Adolygiad arfaethedig o Drwyddedau a chyda chydweithwyr o dimau eraill yn yr adrannau Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu a Gweithrediadau, swyddogion Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr y sector.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Paratoi asesiadau technegol ar gyfer Polisi Ansawdd Dŵr newydd neu ddiwygiedig, gan dynnu ar amrediad o ffynonellau gwybodaeth a data; gweithio gyda staff Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu i gael gwybodaeth a thystiolaeth berthnasol
  • Rheoli’r gwaith o baratoi deunydd i lywio datblygiad polisïau, cyngor a dogfennau canllaw Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill; Rheoli datblygiad gweithdrefnau, offer a chanllawiau ac arwain wrth gyflwyno ffyrdd newydd o weithio
  • Cydgysylltu â rhanddeiliaid allanol megis Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr y sector a phartneriaid i sicrhau bod rhwymedigaethau prosiectau, polisïau neu strategaethau yn cael eu cyflawni’n amserol ac yn effeithiol.
  • Cynghori ar anghenion a chyfleoedd o ran tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth y cytunwyd arnynt, yn unol â'r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni;
  • Cefnogi ymgysylltu â sectorau, partneriaid, Llywodraeth Cymru, Ofwat, Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban, Water UK, a chwmnïau dŵr eraill a chyrff amgylcheddol eraill yn y DU; a gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau gan gwsmeriaid;
  • Cynnal gwybodaeth o'r sector dŵr, gan nodi goblygiadau newidiadau mewn deddfwriaeth, technoleg a'r farchnad ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a'r amgylchedd dŵr yng Nghymru.
  • Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy'r Byrddau Busnes, i baratoi cynhyrchion pendant yn ôl yr angen;
  • Cydweithio gydag arweinydd y tîm i ddatblygu a chyflenwi Cynllun Datblygu Personol cytunedig

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Gwybodaeth am y canlynol: deddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy’n gysylltiedig ag ansawdd dŵr; ysgogwyr polisïau Llywodraethau Cymru a’r DU, cynlluniau strategol a mentrau mewn Ansawdd Dŵr (Strategaeth Ddŵr Llywodraeth a strategaethau ehangach y DU); a'r ystyriaethau a'r cyfleoedd yng Nghymru
  2. Profiad o'r canlynol: dadansoddi technegol a dehongli amrediad o wybodaeth a ffynonellau data cymhleth ynghylch yr amgylchedd ac ansawdd dŵr, dadansoddi setiau data mawr gan ddefnyddio taenlenni a modelau perthnasol;
  3. Gweithio gyda: chwmnïau dŵr, awdurdodau lleol, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, Llywodraethau (DU) ac undebau ffermio; Cynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru ar grwpiau polisïau allweddol (Cymru/y DU)
  4. Gweithio o fewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau a meddu ar brofiad o reoli prosiectau a/neu gymwysterau yn y maes hwn.
  5. Byddwch yn aelod o Sefydliad Siartredig Rheoli Dŵr a'r Amgylchedd neu sefydliad proffesiynol perthnasol arall ac/neu yn gweithio tuag at fod yn aelod.
  6. Rhannu eich gwybodaeth a'ch arbenigedd i helpu i ddatrys problemau, gan gefnogi holl benaethiaid busnes y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl y gofyn.

Gofynion y Gymraeg:

Hanfodol Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddoin syml

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Y gallu i ymgymryd â thasgau ymarferol neu dechnegol neu waith sy'n gofyn am wybodaeth/arbenigedd arbenigol. 
  • Y gallu i ddarparu cyngor gwrthrychol i bobl eraill ar faterion perthnasol ar sail ei wybodaeth a'i brofiad a bod yn ymwybodol o’r newidiadau diweddaraf yn ei faes arbenigol.
  • Dangos profiad sylweddol perthnasol o weithio mewn amrywiaeth o sefydliadau gwahanol, neu rolau/swyddogaethau o fewn sefydliad unigol.
  • Y gallu i arwain a rheoli meysydd gwaith penodol a allai gynnwys gweithredu cynlluniau.
  • Yn meddu ar sgiliau mentora a'r gallu i rannu sgiliau a gwybodaeth ag eraill o fewn y swyddogaeth a/neu ar draws y sefydliad.
  • O bosib yn arbenigwr mewn ystod o bynciau sy'n ymwneud â'i broffesiwn. 

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Y gallu i ddadansoddi a dehongli ystod o wybodaeth gymhleth o natur dechnegol, sy'n ymwneud â maes arbenigedd penodol, gan gyfrannu at ddatblygu strategaethau a pholisïau.
  • Y gallu i dynnu pwyntiau allweddol a'u cyfleu i unigolion ar bob lefel.
  • Y gallu i ddehongli cynlluniau cyflenwi perthnasol a deall eu cyd-destun yn strategaeth a pholisïau cenedlaethol ac ehangach Cyfoeth Naturiol Cymru.

Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth

  • Y gallu i benderfynu ar y ffordd orau o gyflawni canlyniadau gan ddefnyddio rhywfaint o grebwyll neu greadigrwydd, wrth ymateb i ofynion sy'n gwrthdaro, trwy newid blaenoriaethau.
  • Y gallu i wneud penderfyniadau annibynnol ar ystod eang o faterion, gan ystyried yr opsiynau sydd ar gael a'r goblygiadau posibl i'r busnes.
  • Bydd penderfyniadau yn gofyn am gyfraniad gan reolwyr llinell a chyfoedion, a dealltwriaeth o bolisi Cyfoeth Naturiol Cymru y mae ei effaith yn debygol o fod yn ehangach na'r swyddogaeth neu'r adran uniongyrchol ac o natur tymor canolig.
  • Gwerthfawrogi canlyniadau gwneud penderfyniadau anghywir a’r effaith andwyol y gallent ei chael ar y sefydliad mewn perthynas â rhanddeiliaid allanol, megis sefydliadau partner, rhoddwyr benthyciadau, defnyddwyr gwasanaeth ac ati.
  • Y gallu i gyfrannu at osod cyfeiriad strategol ar eu cyfer eu hunain, eu maes ac eraill.
  • Y gallu i ddatblygu strategaeth a pholisïau sefydliadol gyda rhywfaint o ymreolaeth wrth weithredu polisi sefydliadol.
  • Y gallu i addasu ac ymateb i benderfyniadau a wnaed sy'n arwain at newidiadau mewn gweithdrefnau/arferion sefydledig ar gyfer delio â materion o fewn maes gwaith deiliad y swydd, nad ydynt efallai'n glir neu'n amlwg ar unwaith.
  • Efallai y bydd angen gwneud rhai penderfyniadau heb gyfeirio at eraill.

Effaith

  • Dangos gwerthfawrogiad o sut y bydd ei benderfyniadau a'i gamau gweithredu'n dylanwadu ar bobl eraill yn fewnol ac yn allanol.
  • Meddu ar ddealltwriaeth o ganlyniadau ei benderfyniadau, a fydd â lefel gymedrol o effaith a dylanwad ac a fydd o natur tymor canolig.

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Y gallu i ryngweithio a chysylltu ag eraill ar draws y busnes, gan gynnwys y sefydliad yn y gwaith o gyflenwi cynlluniau gwaith a pholisïau yn y modd mwyaf effeithlon.
  • Bydd angen cyfathrebu â chydweithwyr mewnol a rhanddeiliaid allanol, a all gynnwys cyfraniad a dylanwad arbenigol at weithredu polisi a strategaeth.
  • Gall rhai rhyngweithiadau fod yn heriol yn emosiynol lle mae unigolion yn ddig neu'n ofidus, felly bydd angen pwyll, amynedd a'r gallu i aros yn ddigynnwrf i geisio datrys y mater.
  • Bydd y gwaith yn cynnwys cyfathrebu ysgrifenedig a llafar a/neu arwain prosiectau, sy’n gofyn am sgiliau cyfathrebu a dwyn perswâd da.
  • Y gallu i hwyluso a/neu gyflwyno mewn cyfarfodydd mewnol neu allanol, gan gyfrannu a rhoi cyngor yn ôl y gofyn. 
  •  Y gallu i feithrin a chynnal cydberthnasau a rhwydweithiau da.
  • Y gallu i lunio dogfennau, adroddiadau, cyfrifon, contractau ac ati â pheth cymhlethdod, sy'n cynnwys elfennau o gyngor, arweiniad neu farn y bydd y derbynnydd yn gweithredu arnynt neu'n eu defnyddio, ac a fyddai’n cael canlyniadau negyddol petaent yn cael eu drafftio'n anghywir neu'n wael.
  • Y gallu i ganfod data a chynnwys o sawl lleoliad, sy'n cynnwys rhywfaint o ymchwilio allanol a mynegi barn broffesiynol o ran sut y dylai ymchwil o'r fath gael ei dehongli.
  • Mae effaith dogfennau o'r fath yn debygol o fod o natur tymor canolig

Cyfrifoldeb dros Adnoddau

  • Efallai y bydd gan ddeiliaid y swydd gyllideb ddirprwyedig a/neu gyfrifoldeb dros wirio dilysrwydd ffurflenni a dogfennau fel rhan o'r broses a/neu wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau.
  • Bydd y lefel cyfrifoldeb ariannol yn debygol o fod yn rhan ddirprwyedig o gyllideb lawer mwy a reolir gan gyflogai ar lefel uwch.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau i wneud cais 16 Ebrill 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 27 Ebrill 2023 drwy Microsoft Teams.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Geraint Webber ar Geraint.weber@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 07909 831421

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf