Swyddog, Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff (Prosiect Lleihau Allyriadau Tirlenwi)

Dyddiad Cau: 29 Mawrth 2023 | Cyflog: £32,876 - £36,229 (Gradd 5) | Lleoliad: Hyblyg

Math o Gontract: Cyfnod Penodol hyd at 31 Mawrth 2025

Patrwm Gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos. 

Rhif Swydd: 203450

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r Swydd

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gasglu a rheoli'r data a gesglir fel rhan o'r Prosiect Lleihau Allyriadau Tirlenwi. Bydd y prosiect yn cynnwys tîm bychan a fydd yn edrych ar sut i adnabod a mynd i'r afael â meysydd lle gall gwelliannau mewn gweithrediadau leihau faint o nwy tirlenwi sy'n cael ei ryddhau i'r atmosffer.

Bydd hyn yn cynnwys rhaglen i gasglu data na chafodd ei gasglu o'r blaen, gan bob gweithredwr tirlenwi er mwyn helpu i wireddu uchelgeisiau Sero Net Llywodraeth Cymru.

Mae tirlenwi'n cyfrannu tua 2% o holl allyriadau carbon Cymru, a nod y prosiect hwn yw gwneud gostyngiadau sylweddol i'r allyriadau hyn.

Prif bwrpas y rôl hon yw casglu gwybodaeth a data gan bob gweithredwr tirlenwi er mwyn sicrhau bod gennym ddarlun cywir o berfformiad ar draws y sector. Bydd hyn yn cynnwys cysylltu â safleoedd tirlenwi sy’n gweithredu, a chyda safleoedd a allai fod wedi bod ar gau ers nifer o flynyddoedd. Er bod y rôl yn canolbwyntio ar gasglu data o'r safleoedd hyn, bydd angen i ddeiliad y swydd gysylltu'n uniongyrchol ac yn rheolaidd â gweithredwyr y safleoedd i'w helpu i ddeall pam y mae casglu'r data hwn mor bwysig.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn cynorthwyo eraill o fewn y tîm wrth gasglu a dehongli data monitro yn ymwneud â'r safleoedd, er mwyn helpu i gyfarwyddo ymchwiliadau pellach.

Mae'r prosiect yn rhoi cyfle i wneud gostyngiad gwirioneddol ym maes allyriadau carbon Cymru, ac mae casglu a rheoli'r data hwn yn hanfodol er mwyn cyflawni amcanion y prosiect. Yn ogystal â lleihau allyriadau carbon, bydd y data a gesglir fel rhan o'r prosiect hwn yn helpu i gyfarwyddo polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu Sero Net yn y sector.  

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Byddwch yn darparu arbenigedd i faes neu swyddogaeth ddiffiniedig, gan wneud ystod o waith sy'n cefnogi cyfrifoldebau rheoleiddiol ac amgylcheddol CNC.
  • Byddwch yn cyfeirio at lawlyfrau gweithdrefnau, codau statudol perthnasol a deddfwriaeth wrth ymgymryd â'r gwaith, gan ddadansoddi a dehongli gofynion yn ôl yr angen.
  • Byddwch yn prosesu ac yn dadansoddi gwybodaeth afreolaidd sydd ag elfen o gymhlethdod ac a fydd o natur dechnegol.
  • Byddwch yn ymgymryd â gwaith o fewn maes cyfyngedig er bod gan y gwaith y potensial i effeithio ar feysydd pwnc eraill a thrydydd partïon os caiff ei wneud yn anghywir.
  • Byddwch yn penderfynu ar y ffordd orau o sicrhau canlyniadau drwy ddefnyddio barn dechnegol a chreadigrwydd, gan newid blaenoriaethau os oes gofynion sy'n gwrthdaro.
  • Byddwch yn gyfrifol am gymryd gofal wrth ddefnyddio a chadw offer sydd eu hangen i ymgymryd â'ch rôl.
  • Byddwch yn gwireddu eich cyfraniad trwy gymhwyso egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy i'ch gwaith, yn y ffordd yr ydych yn meddwl, yn cynllunio ac yn cyflwyno gweithgareddau.
  • Bydd disgwyl i chi weithio gyda thimau ac unigolion o bob rhan o CNC, gan rannu eich arbenigedd a'ch dealltwriaeth i ddatrys problemau cymhleth. Byddwch yn cefnogi gwaith cydweithredol gyda phartneriaid a sefydliadau’r sector, gan ganolbwyntio ar flaenoriaethau a rennir.
  • Rydych yn gyfrifol am gydymffurfio â'r polisïau, y gweithdrefnau a'r prosesau sy'n ymwneud â'ch rôl.
  • Rydych yn gyfrifol am sicrhau bod eich holl drafodion ariannol yn cynrychioli gwerth am arian ac yn ateb gofynion y sefydliad.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau

Cymwysterau, Profiad & Gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:

  1. Bydd gennych gymhwyster lefel gradd mewn maes pwnc perthnasol neu lefel gyfatebol o wybodaeth.
  2. Bydd gennych arbenigedd mewn pwnc o fewn maes diffiniedig sy'n eich galluogi i roi arweiniad i eraill.
  3. Efallai nad ydych yn arbenigwr ym mhob maes ond bydd gennych ddealltwriaeth gadarn a gwerthfawrogiad o waith y swyddogaeth ehangach.
  4. Bydd gennych sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu da gan gynnwys sgiliau datblygedig o ran wynebu cwsmeriaid.
  5. Bydd gennych sgiliau dadansoddol sy'n eich galluogi i brosesu a dadansoddi gwybodaeth dechnegol.
  6. Bydd gennych sgiliau rhyngbersonol a dylanwadu da a byddwch yn gallu datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith da.
  7. Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad blaenorol o oruchwylio.

Gofynion y Gymraeg:

Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Arbenigedd amlwg mewn maes neu swyddogaeth ddiffiniedig, sy'n galluogi deiliad y swydd i ddarparu cyngor ac arweiniad i eraill.
  • Yn dangos dealltwriaeth a gwerthfawrogiad cadarn o waith y swyddogaeth ehangach.
  • Sgiliau da o ran llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu, gan gynnwys sgiliau datblygedig wrth ddod wyneb yn wyneb â chwsmeriaid.
  • Mae profiad o oruchwylio eraill yn ddymunol.

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Yn dangos y gallu i ddeall gwybodaeth, llawlyfrau gweithdrefnau, codau statudol a deddfwriaeth a dehongli a chymhwyso'r gofynion i gyflawni ei rôl.
  • Y gallu i ddadansoddi a phrosesu gwybodaeth dechnegol anarferol sy'n cynnwys rhywfaint o gymhlethdod.

Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth

  • Y gallu i benderfynu ar y ffordd orau o sicrhau canlyniadau, sy'n gofyn am rywfaint o farn a chreadigrwydd a'r angen i newid blaenoriaethau lle mae gofynion sy'n gwrthdaro.
  • Y gallu i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau o natur dechnegol, yn bennaf o gwmpas ei faes gwaith ei hun ond bydd hefyd yn gorgyffwrdd â gwaith eraill.
  • Gall problemau a phenderfyniadau gynnwys rhywfaint o gymhlethdod a gofyn am yr angen i gymhwyso gwahanol dechnegau neu ddulliau.
  • Y gallu i gynnal ymchwil i benderfynu ar y ffordd orau o ddatrys problemau. 
  • Y gallu i ddarparu arweiniad i aelodau llai profiadol er mwyn datrys problemau.

Effaith

  • Mae'r gwaith a wneir yn gyffredinol o fewn ardal arwahanol felly bydd yn effeithio'n bennaf ar yr amgylchedd uniongyrchol, ond gall hefyd ymestyn ar draws meysydd pwnc a gwaith eraill.
  • Efallai y bydd gan agweddau o'r gwaith y potensial, os cânt eu gwneud yn anghywir, i effeithio ar drydydd partïon ac ardal ehangach.

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Yn dangos y gallu i ryngweithio a chyfathrebu â phobl o amgylch ei faes arbenigedd, ar draws ystod o swyddogaethau o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru a phartïon allanol, gan addasu ei ddull a'i arddull yn briodol.
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu sefydledig gyda'r gallu i ddatblygu a chynnal cydberthnasau gwaith da, a allai gynnwys rhywfaint o ddylanwadu.

Manteision Gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud Cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 29 Mawrth 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Gareth Lewis ar gareth.lewis@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf