Uwch Swyddog, Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff (Prosiect Lleihau Allyriadau Tirlenwi)
Dyddiad Cau: 29 Mawrth 2023 | Cyflog: £37,308 - £40,806 (Gradd 6) | Lleoliad: Plas yr Afon, Llaneirwg, Caerdydd
Math o Gontract: Cyfnod Penodol hyd at 31 Mawrth 2025.
Patrwm Gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos.
Rhif Swydd: 203451
Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r Swydd
Ym mis Hydref 2021 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Carbon Sero Net 2 (2021-2025). Mae'r strategaeth hon yn nodi nifer o bolisïau a chynigion ar draws pob sector ac yn rhoi ffocws clir ar y sector gwastraff ar gyfer safleoedd tirlenwi.
Bydd y rôl weithredol hon yn cefnogi CNC i gyflawni Sero Net 2, trwy'r Prosiect Lleihau Allyriadau Tirlenwi (LERP), sy'n canolbwyntio'n benodol ar effaith safleoedd tirlenwi, y rhai sydd wedi cau a’r rhai sy’n weithredol.
Byddwch yn gweithio o fewn tîm o arbenigwyr rheoleiddio tirlenwi. Bydd y gwaith yn cynnwys cynllunio a chyflawni cyfres o archwiliadau manwl o nwyon tirlenwi gyda'r nod o gynyddu cyfraddau atafaelu a dinistrio / defnyddio nwyon tirlenwi mewn safleoedd tirlenwi gweithredol a rhai sydd wedi cau.
Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys gwaith i wella lefel y ddealltwriaeth o fflamio nwyon tirlenwi ym mhob safle perthnasol, gyda'r nod o sicrhau allbynnau'r model allyriadau Nwyon Tirlenwi cenedlaethol i gyflwyno darlun mwy cywir o allyriadau o'r sector. Byddwch yn gweithio i ddeall effaith newid ffrydiau gwastraff ar ansawdd a chynhyrchiant nwyon Tirlenwi ac yn archwilio'r opsiynau ar gyfer mynd i'r afael â'r ffrydiau gwastraff allweddol a nodwyd fel rhai sydd â'r cyfraniad mwyaf at gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Byddwch hefyd yn gweithio ar y cyd â DEFRA a rheoleiddwyr eraill y DU.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Asesu cydymffurfiaeth mewn gweithfeydd, safleoedd COMAH, safleoedd gwastraff a safleoedd sy'n trin sylweddau ymbelydrol.
- Cysylltu â Chynghorwyr Diogelwch Gwrthderfysgaeth.
- Cymryd camau priodol i gasglu tystiolaeth at ddibenion gorfodi, yn unol â gweithdrefnau diffiniedig.
- Arwain ein hymateb yn rheolaidd i achosion/materion mawr neu ddadleuol.
- Cydlynu trafodaethau cyn ymgeisio gyda Gweithredwyr a Thimau Trwyddedu CNC i gynorthwyo gydag amrywiadau, ceisiadau ac ildiadau amserol, effeithlon ac o ansawdd.
- Pan nodir achos o ddiffyg cydymffurfio, penderfynu ar yr opsiwn ymyrryd mwyaf priodol a’i roi ar waith er mwyn sicrhau fod gweithredwyr yn ailgydymffurfio eto cyn gynted â phosibl, gan effeithio gyn lleied ag sydd bosibl ar yr amgylchedd a chan ystyried yr effeithiau economaidd.
- Gweithio gyda Gweithredwyr i ddatblygu strategaethau rheoleiddio tymor canolig ar gyfer y gweithfeydd, gan gynnwys ymgysylltu ag uwch reolwyr a swyddogion gweithredol o fewn cwmnïau, i sicrhau buddion lluosog.
- Bydd gofyn i chi gymryd rhan mewn grwpiau technegol / strategol neu gynrychioli CNC ar fforymau allanol e.e. grwpiau sector rheoleiddwyr y DU, yn ôl yr angen.
- Cyfrannu at Grwpiau Sector CNC a grwpiau sector traws-asiantaeth yn ôl yr angen er mwyn helpu i fabwysiadu dulliau rheoleiddio cyson a lledaenu arferion da er budd yr amgylchedd.
- Hyfforddi a mentora aelodau'r tîm.
- Bydd gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau
Cymwysterau, Profiad & Gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gwybodaeth a phrofiad helaeth naill ai o weithio mewn diwydiant a reoleiddir neu fel rheoleiddiwr.
- Dealltwriaeth dda o brosesau a phwysau busnes masnachol.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â busnes a reoleiddir a'r cyhoedd, gan esbonio materion cymhleth ac ennyn cefnogaeth trwy ddylanwadu.
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision Gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
- Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud Cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer y cais 29 Mawrth 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Gareth Lewis ar gareth.lewis@naturalreourceswales.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.