"Camau beiddgar" yn erbyn perygl llifogydd yw unig ddewis Cymru CNC yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth Cymru i amddiffyn rhag llifogydd

Cymryd camau beiddgar yn y dull o reoli perygl llifogydd yw unig ddewis Cymru, meddai Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) heddiw (17 Mawrth) wrth i gorff yr amgylchedd groesawu ymrwymiad ariannol Llywodraeth Cymru i gryfhau amddiffynfeydd llifogydd ac amddiffynfeydd arfordirol y genedl.

Mae Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wedi amlinellu amrywiaeth o brosiectau a fydd yn cael eu cefnogi dros y flwyddyn sydd i ddod fel rhan o’r Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd ar gyfer 2021-22.

Er y bydd yr ymrwymiad hwn yn galluogi CNC i ddatblygu ei gynlluniau i adeiladu a chynnal amddiffynfeydd rhag llifogydd ar draws ardaloedd allweddol sydd mewn perygl, mae ei Brif Weithredwr Clare Pillman hefyd wedi tanlinellu'r angen am ymyriadau brys pellach ac ymgorffori cymysgedd o ddulliau rheoli perygl llifogydd i wella gwydnwch Cymru yn erbyn effeithiau'r argyfwng hinsawdd.

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Bydd buddsoddi mewn amddiffynfeydd caled a'u cynnal bob amser wrth wraidd dull Cymru o reoli perygl llifogydd, ac rydym yn croesawu'r ymrwymiad hwn gan Lywodraeth Cymru i wella amddiffynfeydd ac i gefnogi prosiectau perygl llifogydd heddiw.

"Ond er bod amddiffynfeydd yn lleihau'r perygl o lifogydd i filoedd o gartrefi ar draws y wlad, ni allant amddiffyn pawb drwy'r amser. Mae amlder a ffyrnigrwydd cynyddol stormydd, wedi’i ysgogi gan y newid yn yr hinsawdd, yn golygu nad oes un ateb i ddatrys y cyfan, ac ychydig iawn o amser sydd gennym i gymryd y camau sydd eu hangen i addasu i'w effeithiau yn y dyfodol. Ein hunig ddewis yw dechrau cymryd camau beiddgar yn awr.

"Yr hyn y gallwn ei wneud, a'r hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yn wyneb argyfyngau'r hinsawdd a natur, yw ystyried amrywiaeth o opsiynau i reoli perygl llifogydd.  Er enghraifft, edrych ar sut rydym yn gweithio'n well gyda pherchnogion tir a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau i wneud lle i'r symiau enfawr o ddŵr rydym yn eu gweld yn ystod llifogydd a rheoli’r symiau hynny.  Mae hyn yn cynnwys chwilio i fyny'r afon am ffyrdd newydd o arafu'r llif a storio dŵr. Mae angen i ni hefyd sicrhau bod pobl yn gwybod am y camau y gallant eu cymryd eu hunain i leihau effaith llifogydd pan fydd y dyfroedd yn dechrau codi.

"Rhaid i lywodraethau a chymdeithas gydnabod pwysigrwydd a brys mabwysiadu ymagwedd gyfannol at wydnwch a chynyddu lefel parodrwydd y genedl i reoli a brwydro’r risgiau llifogydd cynyddol a achosir gan yr argyfwng hinsawdd."

Ledled Cymru gyfan, mae 73,000 o eiddo eisoes yn elwa o amddiffynfeydd llifogydd CNC.  

Yn amodol ar ganiatâd a chymeradwyaethau perthnasol, mae'r cynlluniau sydd i elwa o raglen lifogydd 2021/22 yn cynnwys:

  • Stryd Stephenson, Casnewydd - gwaith adeiladu i wella amddiffynfeydd llifogydd llanwol yn ardal Llyswyry yng Nghasnewydd gan leihau'r perygl o lifogydd i 194 o gartrefi a 620 o fusnesau
  • Llyn Tegid, Bala, Gwynedd - dechrau adeiladu ar waith diogelwch cronfeydd dŵr i'r argloddiau a'r strwythurau sy'n amgylchynu'r Bala.
  • Rhydaman, Sir Gaerfyrddin - dechrau gwaith adeiladu i wella amddiffynfeydd llifogydd lleol yn Rhydaman a fydd o fudd i 289 o gartrefi a 13 o fusnesau.
  • Aberteifi, Ceredigion – bwrw ymlaen â’r broses o ddatblygu cynlluniau ar gyfer ardaloedd sy'n agored i lifogydd llanwol yn y dref o amgylch y Strand a Heol y Santes Fair a datblygu gwaith dylunio cyn gwaith adeiladu posibl yn y dyfodol i greu amddiffyniad.
  • Llanfair Talhaearn, Conwy – cwblhau gwaith adeiladu ar welliannau a wnaed eisoes i gwlferi yn y pentref a'r gymuned ac ystyried mesurau eraill o fewn y dalgylch lleol.
  • Pont Trelái, Caerdydd – adeiladu strwythur dal coed i fyny'r afon o bont Heol y Bont-faen dros Afon Elái yng Nghaerdydd i helpu i atal malurion rhag cronni ar y bont.

Bydd cyllid ar gael i helpu i ddatblygu gwaith arfarnu manwl a gwaith datblygu prosiect perygl llifogydd ar Afon Ritec yn Ninbych-y-pysgod, yn Llangefni ar Ynys Môn, ym Mhorthmadog, ym Llyswyry/Pillgwenlli yng Nghasnewydd, yn Aberdulais ac ym Mangor-is-y-Coed.

Bydd y cyhoeddiad hefyd yn caniatáu i CNC barhau â'i waith mewn ymateb i'r llifogydd eithafol a welwyd yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Bydd hyn yn cynnwys datblygu gwaith modelu llifogydd manwl a datblygu prosiectau mewn nifer o leoliadau ledled Cymru i bennu'r posibilrwydd o leihau'r perygl o lifogydd ymhellach – gan gynnwys cymunedau yng Nghymoedd De Cymru yr effeithiodd llifogydd arnynt yn dilyn Storm Dennis.

Bydd CNC hefyd yn derbyn cyllid i ddatblygu prosiect gwella sylweddol ar ei systemau Rhybuddion Llifogydd a TGCh a gwasanaethau cysylltiedig eraill. Bydd hyn yn gweithredu rhai o'r camau gweithredu a amlinellwyd a'r gwersi a ddysgwyd yn yr adolygiadau o lifogydd Chwefror 2020 pan alwodd CNC am weddnewid y ffordd y mae Cymru'n ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac yn rheoli ei pherygl llifogydd yn y dyfodol.

 

Bydd y setliad cyllid hefyd yn galluogi CNC i gyflawni llawer o brosiectau llai ledled Cymru gan gynnwys gwaith cynnal a chadw ac adnewyddu ac atgyweirio strwythurau amddiffyn rhag llifogydd.