Ymgyrch lanhau ar waith wedi i gannoedd o boteli plastig rhagffurfiedig gael eu tywallt i afon

Pre-Formed Plastic Bottles

Bu swyddogion o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynorthwyo ymgyrch lanhau yn nant Emral ger Bangor-is-y-coed yn dilyn digwyddiad traffig ffyrdd dros benwythnos gŵyl y banc.

Trodd lori drosodd ar ffordd yr A525 ddydd Llun 5 Ebrill gan arwain at ollwng diesel a cholli llwyth y cerbyd, sef cannoedd o boteli plastig rhagffurfiedig.

Galwyd y gwasanaethau brys i’r digwyddiad a bu CNC ar y safle i reoli’r effaith ar yr amgylchedd.

Dywedodd Ann Weedy, Rheolwr Gweithrediadau yn Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae amddiffyn amgylchedd a bywyd gwyllt Cymru yn rhan enfawr o’r gwaith rydym yn ei wneud, a’n prif nod ar hyn o bryd yw cadw’r plastig a’r tanwydd o fewn y nant.
“Mae’r arsylwadau hyd yma’n awgrymu bod yr effeithiau ar y amgylchedd yn fach iawn, ac mae’r effaith weledol wedi lleihau’n sylweddol yn dilyn ymateb cyflym gweithwyr CNC.
“Mae rhwystrau pwrpasol wedi’u gosod yn is i lawr yr afon er mwyn casglu unrhyw danwydd sy'n weddill wedi’r digwyddiad, a bu gweithwyr ar y safle er mwyn dal y gollyngiad a’i gasglu.
“Mae’r ymgyrch lanhau wedi llwyddo i leihau unrhyw effeithiau pellach yn yr ardal a byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa er mwyn sicrhau nad oes dim halogiad yn y nant yn dilyn y digwyddiad hwn.”

Rydym yn gofyn i bobl gysylltu â llinell ffôn ddigwyddiadau 24/7 CNC, 0300 065 3000, os ydynt yn dod i wybod am unrhyw lygredd.