Ymchwiliadau i achosion amgylcheddol yn parhau yn ystod y pandemig coronafeirws

difrod i gynefin llygoden y dwr, ynys mon

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal ymchwiliad ar y cyd â Thîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru i archwilio difrod i gynefin llygod y dŵr yng Ngogledd Ddwyrain Ynys Môn.

Hysbyswyd Cyfoeth Naturiol Cymru gan aelod o’r cyhoedd yn sgîl pryder fod difrod wedi’i achosi i gynefin llygod y dŵr. Mynychodd Swyddogion Amgylchedd y safle a chanfod fod gwaith clirio wedi’i wneud heb ganiatâd, fel sy’n ofynnol.

Fel Ymatebwr Brys Categori 1, mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru ddyletswydd i ymateb i achosion o dramgwyddo amgylcheddol.

Mae mesurau ar waith er mwyn parhau i gynnal ymchwiliadau yn ystod y pandemig coronafeirws, yn unol â chanllawiau pellhau cymdeithasol y Llywodraeth.

Meddai Huw Jones, Arweinydd Tîm Amgylchedd Môn ac Arfon:

“Mae gofyn cael caniatâd gennym ni er mwyn cynnal gwaith yn ymwneud â phrif afon.
"Os yw tirfeddiannwyr yn dymuno gwneud gwaith mewn afon neu ar ei glannau, mae’n hollbwysig iddynt ofalu eu bod wedi derbyn y caniatâd angenrheidiol ymlaen llaw. Gallwn ni wedyn gynghori ar gyfyngiadau o ran bywyd gwyllt a’r amgylchedd yn ogystal â sicrhau nad yw’r gwaith yn cynyddu’r perygl o lifogydd.
“Mae’r drefn hon yr un fath er gwaetha’r argyfwng coronafeirws ac fel rhan o’n gwaith hanfodol yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn parhau i ymchwilio achosion lle bo amheuaeth o ddifrod.”

Ychwanegodd Rob Taylor, Rheolwr Tîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru:

“Mae ymyrryd â rhywogaethau sydd wedi’u diogelu megis llygod y dŵr, neu ddifrodi eu cynefin, yn gallu bod yn drosedd o dan gyfraith y DU.
“Rydym yn delio gyda phob math o droseddau’n ymwneud â bywyd gwyllt a chynefinoedd ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r gwaith hwnnw’n mynd yn ei flaen yn ystod y cyfnod hwn er mwyn parhau i ddiogelu cefn gwlad a’r amgylchedd.”

I roi gwybod i ni am unrhyw ddigwyddiad amgylcheddol, gallwch gysylltu â llinell gymorth CNC, sydd am ddim ac ar agor 24/7, ar 0300 065 3000.