Galwad i artistiaid greu arddangosfa gelf newydd

Llwybr ymmwelwyr GNG Cors Caron - credyd Drew Buckley Photography

Ydych chi’n artist sydd â syniad anarferol ar gyfer darn o gelf cyhoeddus? Rydyn ni am glywed gennych chi.

Mae Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn chwilio am artist unigol o Geredigion i greu darn o gelf cyhoeddus yn yr awyr agored yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.

Bydd y gwaith celf awyr agored parhaol yn cael ei arddangos yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Cors Caron ar ôl iddo gael ei orffen.

Bydd gofyn i’r artist redeg gweithdai creadigol ar gyfer y cyhoedd ar stondin prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE yn yr Eisteddfod Genedlaethol, lle bydd yn gweithio gydag ymwelwyr a’r gymuned leol i greu’r gwaith celf.

Y thema yw prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE a dathliad o gynefin mawndir. Bydd y gwaith celf yn dangos pwysigrwydd planhigion a bywyd gwyllt sy’n byw ar fawndiroedd, fel y gwlithlys cigysol ac infertebratau prin fel y fursen fach goch.

Dylai’r gwaith celf gynyddu ymwybyddiaeth pobl o Gors Caron ac, ar yr un pryd, dylai gryfhau ymdeimlad y gymuned o fod yn berchen ar y gors.

Dylai hefyd ddathlu cynefinoedd cyforgorsydd Cymru a chodi ymwybyddiaeth o brosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE, gan hyrwyddo nodweddion arbennig y cynefin hwn a chreu gwaddol a fydd yn para ymhell y tu hwnt i ddyddiad gorffen y prosiect ym mis Mawrth 2023.

Rydyn ni’n chwilio am artist sy’n siarad Cymraeg sydd wedi’i leoli yng Ngheredigion ac sydd â phrofiad o redeg gweithdai creadigol ar gyfer y cyhoedd. Bydd yr artist yn cael ei dalu, gyda ffi o £250 y dydd yn seiliedig ar bum diwrnod o waith, ynghyd ag offer a defnyddiau. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynnig yw dydd Gwener 3 Mehefin 2022.

Bydd yr artist llwyddiannus yn cael gwybod ar 17 Mehefin, a bydd cyfarfod cychwynnol wedi’i drefnu ar gyfer 27 Mehefin. Bydd gweithdai’n rhedeg o 1 i 5 Awst yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar stondin prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE a bydd y gwaith celf yn cael ei osod yn GNG Cors Caron ym mis Medi 2022.

Caiff y prosiect ei ariannu gan brosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE, a bydd tîm y prosiect a staff CNC yn rhan o’r broses benderfynu.

I ymgeisio, e-bostiwch LIFEraisedbogs@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i ofyn am gopi o’r Briff. Gellir cyflwyno ceisiadau i’r cyfeiriad hwn hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen Facebook @CyforgorsyddCymruWelshRaisedBog neu ein tudalen Twitter @Welshraisedbog