Cyfoeth Naturiol Cymru – effaith ariannol tanau coedwigoedd yn codi i fwy na £500k

Tân ar ochr bryn ym Mhenhydd, Parc Coedwig Afan

Wrth i gost y difrod i goedwigoedd a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) saethu i fyny i fwy na hanner miliwn o bunnau, mae swyddogion wedi bod yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn egluro’r dinistr a achoswyd i dirwedd a bywyd gwyllt Cymru.

Daw'r cam gweithredu hwn yn dilyn cyfres o danau gwyllt ar draws Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf, lle cafodd ardaloedd eang o goedwigoedd eu dinistrio a bywyd gwyllt ei ladd. Mae hyn wedi rhoi pwysau ychwanegol hefyd ar wasanaethau brys sydd wedi gorfod ymateb i’r tanau yn ystod y pandemig coronafeirws.

Y gobaith yw y bydd y neges yn annog pobl i feddwl ddwywaith cyn cynnau tân yng nghefn gwlad Cymru – boed hynny’n fwriadol neu'n ddamweiniol, ac y bydd yn cefnogi’r ymgyrch Dawns Glaw dan arweiniad y gwasanaethau tân ac achub i leihau nifer y tanau glaswellt a thanau gwyllt.

Yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt waethaf oedd Bangor, Afon Wen yn Nolgellau, Coedwig Afan, Gwaun Hepste ym Mhenderyn, Mynydd Cilfái yn Abertawe, Esgair Dafydd ger Llanwrtyd a Phlas Y Mynydd yng Ngheredigion.

Mae James Roseblade yn rheolwr coedwigaeth yn Ne Orllewin Cymru. Mae'n cael sylw yn y flog wrth iddo fynegi ei rwystredigaeth ynglŷn â’r hyn a welodd.

Meddai James Roseblade:

"O ystyried yr argyfyngau hinsawdd a natur yr ydym i gyd yn eu hwynebu, tanau gwyllt yw'r pethau olaf sydd ei angen ar dirwedd Cymru.
Mae'r tanau wedi arwain at golled ariannol sylweddol o £ 500k i CNC. Mae hyn yn cynnwys colli miloedd o goed sydd newydd eu plannu.
Mae'r effaith ar natur a bywyd gwyllt, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn pan fo rhai adar yn nythu ar lawr, yn gwbl ddinistriol.
Lledaenodd y tân diweddaraf ar Ddydd Sul, 17 Mai ym Mhlas y Mynydd i’r bryniau cyfagos gan ddinistrio Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a llystyfiant mawndirol. Bydd hyn wedi effeithio ar fywyd gwyllt ac wedi rhyddhau carbon i’r atmosffer."

Mae Dylan Williams yn rheolwr gweithrediadau yng Ngogledd Cymru. Ef hefyd yw swyddog arweiniol CNC ar gyfer Dawns Glaw ac mae’n gweithio'n agos â'r gwasanaethau brys mewn cysylltiad â thanau gwyllt a thanau glaswellt.

Meddai Dylan Williams:

"Cafodd un o'r tanau ei achosi gan wreichionyn o dân gardd a achosodd iddo ymledu i'r goedwig. Cyn cynnau tân yn yr ardd, meddyliwch a yw'n hanfodol ai peidio. Gall pethau fynd allan o reolaeth mor hawdd.
Pan fydd tanau'n cael eu cynnau'n fwriadol, mae'r troseddwyr nid yn unig yn niweidio'r amgylchedd, maen nhw’n eu rhoi eu hunain, y gwasanaethau brys, a thrigolion lleol mewn perygl gwirioneddol.
Mae CNC yn gweithio gyda'r gwasanaeth tân ac achub, yr heddlu a phartneriaid eraill drwy Ymgyrch Dawns Glaw i atal tanau o'r math hwn a byddwn yn gofyn i unrhyw un sy'n gweld rhywun sy'n cychwyn tân, neu sydd â gwybodaeth ynglŷn â phwy sy'n cychwyn tanau, roi gwybod i'r heddlu drwy ffonio 101."

I roi gwybod am dân wrth iddo ddigwydd ffoniwch 999. I roi gwybod am dân ffoniwch 101.

Gallwch hefyd drosglwyddo gwybodaeth yn ddienw drwy elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111.