Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i achos o lygredd yn Afon Sirhywi

Mae swyddogion o Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymchwilio i achos o lygredd sy’n effeithio ar Afon Sirhywi yn Nhredegar, Casnewydd.

Aeth swyddogion CNC i’r safle y tro cyntaf ddydd Sul (27 Mawrth) ar ôl cael adroddiadau bod haen debyg i olew yn effeithio ar tua 300m o wyneb y dŵr.

Cymerwyd samplau dŵr a gwnaed asesiad pysgodfa, a chadarnhaodd swyddogion ar y pryd nad oedd unrhyw arwyddion o bysgod marw neu bysgod mewn gofid.

Dychwelodd swyddogion i’r safle ddydd Llun (28 Mawrth) i osod rhwystrau a phadiau amsugnol yn y cwrs dŵr i helpu i leihau unrhyw effaith ar yr amgylchedd.

Ers hynny, mae swyddogion wedi llwyddo i ganfod ffynhonnell y llygredd ac wedi cadarnhau bod y llygredd wedi stopio gollwng i’r cwrs dŵr.

Meddai Kate Rodgers, Arweinydd Tîm yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae diogelu dyfrffyrdd Cymru a’r planhigion a’r anifeiliaid sy’n dibynnu arnyn nhw yn rhan enfawr o’r gwaith a wnawn, ac rydym yn ddiolchgar i’r rhai a adroddodd yr achos hwn o lygredd i ni.
Aeth ein swyddogion i’r safle a dechrau eu hymchwiliadau yn ddi-oed. Rydym yn meddwl ein bod wedi canfod y ffynhonnell a byddwn yn ystyried pa gamau i’w cymryd nesaf, yn cynnwys unrhyw gamau gorfodi i’w cymryd yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol.
Er diogelwch pobl, tra bod y gwaith glanhau yn mynd rhagddo, gofynnwn i bobl osgoi dod i gyswllt â’r dŵr a pheidio â chaniatáu i blant neu anifeiliaid anwes fynd i mewn i’r afon.
Anogwn unrhyw un i adrodd arwyddion o lygredd i ni ar 0300 065 300 neu drwy ein gwefan, er mwyn sicrhau y gallwn ymateb yn ddi-oed.