Pwyntiau ail-lenwi dŵr newydd ar Arfordir Ynys Môn

Y Flwyddyn Newydd hon, wrth gerdded ar hyd arfordir Ynys Môn, gallwch gael digon o ddŵr yfed, arbed arian ac atal llygredd plastig.

Fel rhan o ymgyrch yr ynys i ddod yn ddi-blastig, gall cerddwyr ail-lenwi poteli dŵr am ddim mewn dau leoliad arfordirol.

Gwarchodfa Natur a Choedwig Niwbwrch a Pharc Gwledig Morglawdd Caergybi yw'r lleoliadau awyr agored cyntaf yn Ynys Môn lle gallwch ail-lenwi poteli dŵr.

A dim ond ychydig o filltiroedd mae’r dŵr ar gyfer y tapiau yn teithio - o gronfa Llyn Alaw.

Mae’r safleoedd wedi’u hychwanegu at yr App ‘rhowch eich tap ar y map’, sy’n dangos mwy na 20,000 o fusnesau ym Mhrydain lle gall pobl ail-lenwi poteli dŵr.

Rhai ffeithiau:

  • Mae dŵr potel yn ddrud - mwy na dwy fil gwaith yn ddrytach na dŵr tap.
  • Er fod poteli y gellir eu hail-lenwi yn costio mwy na dŵr potel i ddechrau, gallwch eu hail ddefnyddio dro ar ôl tro am ddim.
  • Mae 35 miliwn o boteli plastig yn cael eu gwerthu bob dydd yn y DU - dim ond eu hanner nhw sy'n cael eu hailgylchu.

Dywedodd Molly Lovatt, Uwch Swyddog Hamdden Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Gydag un botel blastig yn cymryd 450 mlynedd i bydru, mae gwneud newidiadau bach yn lleol yn golygu y gallwn ni i gyd gyfrannu at yr ymdrech fyd-eang i leihau llygredd plastig a lleihau gwastraff.”

Mae'r fenter hon yn ffrwyth gwaith partneriaeth rhwng CNC a thîm cefn gwlad ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Cyngor Sir Ynys Môn.

Dywedodd Swyddog Cefn Gwlad a AHNE Cyngor Sir Ynys Môn, Alun M Owen:

“Yn ogystal â’n partneriaeth lwyddiannus gyda CNC, sicrhawyd cyllid pellach trwy Lywodraeth Cymru i ymestyn y prosiect o fewn cymunedau sy’n gysylltiedig â llwybr yr arfordir.
“Mae cyfarfodydd ar y gweill gyda Chynghorau Tref a Chymuned i osod pwyntiau cyflenwi dŵr mewn lleoliadau strategol ynghyd â byrddau gwybodaeth i dynnu sylw at fanteision yfed dŵr tap lleol ac annog defnyddio poteli y gellir eu hail-lenwi.
“Bydd pob safle newydd yn cael ei ychwanegu at yr App ‘rhowch eich tap ar y map’.”

Fe welwch y pwyntiau ail-lenwi y tu allan i gaffi’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt a ger y toiledau ym Mharc Gwledig y Morglawdd ac yn bur agos at y bloc toiledau yn Niwbwrch.