CNC yn cefnogi mynediad chwaraeon modur i goedwigoedd Cymru

Car Ralio

Yn ei gyfarfod heddiw, mae Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cytuno y bydd chwaraeon modur yn parhau i gael eu caniatáu yn y coedwigoedd y mae'n eu rheoli ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae gan Chwaraeon Moduro yng nghoetiroedd Cymru hanes hir.  Ers degawdau, mae coedwigoedd y wlad wedi cynnal amrywiaeth eang o chwaraeon modur - o ralïau rhyngwladol i ddigwyddiadau clwb ar lawr gwlad.

Edrychodd adolygiad annibynnol a gomisiynwyd gan CNC ar y tensiynau posibl rhwng cynnal chwaraeon modur, ei fanteision economaidd a chymdeithasol a'i ymrwymiadau i ymateb i'r argyfyngau natur a hinsawdd.

Roedd rhanddeiliaid gan gynnwys sefydliadau a busnesau chwaraeon modur, cymunedau lleol, llywodraeth a llywodraeth leol, a busnesau hamdden coetiroedd eraill hefyd yn rhan o'r broses adolygu.

Roedd canfyddiadau'r adolygiad yn sail i'r penderfyniad heddiw a fydd yn arolygu digwyddiadau chwaraeon modur a gynhelir ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru am bum mlynedd  

Dywedodd Syr David Henshaw, Cadeirydd Bwrdd CNC:

"Fel rheolwr tir rydym yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ymdrin â'n holl weithgareddau, a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yw ein diben craidd.      
"Dyma'r math o benderfyniad anodd y mae'n rhaid i CNC ei wneud fel sefydliad – cydbwyso anghenion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru, am nawr ac ar gyfer y dyfodol.                    
"Daeth yr adolygiad i'r casgliad bod chwaraeon modur, ar y cyfan, yn gydnaws ag egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
 "Fel Bwrdd daethom i'r casgliad y dylid caniatáu chwaraeon modur yn y coedwigoedd rydym yn eu rheoli ar gyfer y tymor byr a'r tymor canolig, ond dylai hyn fynd law yn llaw â'n huchelgais i wella amgylchedd y goedwig. Rydym yn disgwyl gweld yr uchelgeisiau hyn yn cael eu hadlewyrchu mewn unrhyw gytundeb newydd."

Eglurodd Dominic Driver, Pennaeth Stiwardiaeth Tir:

"Byddwn nawr yn gweithio gyda'r sector chwaraeon moduro a defnyddwyr coedwigoedd eraill i fapio llwybr sy'n diogelu amgylchedd y goedwig ac yn lleihau effaith unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol.
"Gyda'n hymrwymiad i gefnogi adferiad gwyrdd, byddwn yn gweithio gyda Motorsport UK i roi'r amgylchedd wrth wraidd ein trafodaethau i yrru tuag at ddull carbon is, gwyrddach a mwy cynaliadwy o gynnal y digwyddiadau yn y dyfodol.”