CNC yn lansio ymgynghoriad ar reoli dalfeydd ar Afon Hafren

Bydd ymgynghoriad 12 wythnos ar gynigion ar gyfer is-ddeddfau rheoli dalfeydd pysgota eog ar ochr Cymru o Afon Hafren yn cychwyn heddiw (19 Gorffennaf 2021).

Mae CNC yn annog pysgotwyr a phartïon â buddiant i ddweud eu dweud ar is-ddeddfau newydd arfaethedig sydd â’r nod o amddiffyn y stociau o eogiaid a siwin ar Afon Hafren yng Nghymru.

Y gobaith yw y bydd y mesurau newydd arfaethedig ar waith ar gyfer y 10 mlynedd nesaf ac yn cyfrannu at wrthdroi'r dirywiad presennol yn nifer yr eogiaid aeddfed sy'n dychwelyd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwneud y cynigion mewn ymateb i'r dirywiad dramatig mewn stociau o eogiaid a siwin yn afonydd Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i fynegi barn ar yr is-ddeddfau a awgrymir i wella'r siawns y bydd eogiaid yn goroesi a chynyddu ymhellach y niferoedd a all silio yn llwyddiannus. Bydd hyn yn arwain at adferiad a chynaliadwyedd tymor hir y rhywogaeth eiconig hon yn y dyfodol.

Dywedodd Peter Gough, Prif Swyddog Pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae pryderon parhaus ynghylch nifer yr eogiaid sy’n dychwelyd i’n hafonydd ac mae dyfodol llawer o bysgodfeydd bellach dan fygythiad.
Yn syml, nid oes digon o bysgod aeddfed yn silio i gynnal stociau ar eu lefelau presennol nac i atal dirywiad pellach.
Rydym ni nawr yn ceisio barn ar y cynigion rheoli dalfeydd a fydd yn amddiffyn stociau bregus wrth gynnal y buddion amgylcheddol ac economaidd pwysig sy'n gysylltiedig â physgota.
Mae CNC yn mynd i’r afael â ffactorau eraill sy’n effeithio ar stociau pysgod fel difrod i gynefinoedd, llygredd a chamfanteisio anghyfreithlon, ond mae’n credu y gall y cynigion hyn wneud gwahaniaeth go iawn.
Y cynigion ar gyfer Afon Hafren yw
  • Ei gwneud yn ofynnol dal a rhyddhau'r holl eogiaid a brithyllod y mor sy'n cael eu dal gan wialenni a leiniau
  • Cyfyngu ar ddulliau pysgota er mwyn gwella'r modd y mae eogiaid sy’n cael eu rhyddhau yn cael eu trin ac yn goroesi.
    • Gwahardd pysgota am eogiaid a brithyllod y mor gydag abwyd
    • Bachau heb adfachau
    • Cyfyngiadau ar fath, maint, a nifer y bachau

Mae'r Is-ddeddfau’n efelychu'r lefel bresennol o ddiogelwch ar gyfer eogiaid a siwin a gynigiwyd ar gyfer rhannau Lloegr o Afon Hafren gan Asiantaeth yr Amgylchedd ac yn sicrhau dull dalgylch integredig o reoli stociau pysgod mudol.

Bwriad yr is-ddeddfau yw amddiffyn stociau sydd dan fygythiad, wrth gynnal llawer o'r buddion pwysig sy'n gysylltiedig â'r pysgodfeydd.

Ychwanegodd Peter:

Yn union fel y mae Afon Hafren yn afon eiconig, mae’r eog yn bysgodyn eiconig a rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod stociau’n gwella ac yn ffynnu yn y dyfodol.
“Rydym ni’n cydnabod yr angen am ddull dalgylch cwbl integredig ar gyfer ein hafonydd ar y ffin ac rydym ni’n gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd i sicrhau bod hyn yn digwydd mewn ffordd ymarferol a synhwyrol.

 

Mynegwch eich barn ar y cynigion trwy fynd i:

https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/evidence-policy-and-permitting-tystiolaeth-polisi-a-thrwyddedu/severn-byelaws-2021