Swyddogion CNC yn rhwydo potswyr

salmon

Mae swyddogion troseddau amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dal dau ddyn yn pysgota'n anghyfreithlon ar afon yng nghanolbarth Cymru.

Gan weithredu ar wybodaeth gan aelod o'r cyhoedd, darganfu swyddogion CNC rwyd anghyfreithlon yn Afon Ystwyth, ychydig islaw pentref Llanilar.

Sefydlodd y swyddogion wyliadwriaeth a gwelwyd dau ddyn yn adfer y rhwyd. Fe’i holwyd wedyn gan y swyddogion.

Ni ddaliwyd unrhyw bysgod yn yr achos hwn.

Mae’r dynion bellach wedi ei riportio am droseddau pysgodfeydd a cadwodd swyddogion CNC y rhwyd.

Dywedodd Rhodri Thomas, swyddog troseddau amgylcheddol CNC:

“Rydym yn cymryd unrhyw weithgaredd sy'n bygwth poblogaeth yr eog yn ddifrifol iawn ac mae hyn yn arbennig o wir am bysgota anghyfreithlon.
“Gall rhwydi ddal nifer fawr o bysgod ac o ystyried yr heriau presennol sy'n wynebu niferoedd eogiaid mae pob eog a gymerir yn cynrychioli ergyd arall i'n hymdrechion i ddiogelu'r pysgod eiconig hyn.
“Rydym yn hynod ddiolchgar am y cymorth a gawsom gan bobl yn y mater hwn sydd yn enghraifft wych o'r canlyniadau y gall cydweithio eu cyflawni.
“Os ydych chi'n gweld unrhyw weithgaredd amheus neu anghyfreithlon, yna rhowch wybod i linell frys digwyddiad CNC ar 0300 065 3000.”