CNC yn gwrthod cais am drwydded ar gyfer Cyfleuster Crynhoi Gogledd Powys yn Aber-miwl

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gwrthod cais am drwydded amgylcheddol ar gyfer cyfleuster crynhoi gwastraff yn Aber-miwl ym Mhowys oherwydd pryderon yn ymwneud â Chynllun Atal a Lliniaru Tân y cais.

Rhannwyd y pryderon hyn gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a gynorthwyodd i lywio penderfyniad CNC drwy ymgynghoriad.

Gwnaeth Cyngor Sir Powys gais am drwydded i weithredu cyfleuster newydd ar gyfer crynhoi deunydd amheryglus o gasgliadau ar ymyl y ffordd.

Ar ôl cynnal ymgynghoriad cyhoeddus estynedig i drafod y cais fel yr oedd wedi'i gyflwyno, aeth CNC ati i gynnal asesiad technegol llawn o'r cais, gan roi ystyriaeth i’r adborth o'r ymgynghoriad.

Nodwyd pryderon ynghylch diogelwch tân ar y safle yn dilyn yr asesiad technegol a chafodd y rhain eu rhannu â'r ymgeisydd. Gwnaed ceisiadau am wybodaeth i fynd i'r afael â'r pryderon ac ymatebodd yr ymgeisydd drwy anfon rhagor o wybodaeth yn dilyn pob cais. Fodd bynnag, ystyriwyd bod sylwedd yr ymatebion yn annigonol ar ôl asesiad pellach gan swyddogion trwyddedu CNC, a fu’n ymgynghori â chydweithwyr yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Meddai Ann Weedy, Rheolwr Gweithrediadau CNC ar gyfer Canolbarth Cymru: "Mae ceisiadau am drwyddedau ar gyfer datblygiadau fel y safle crynhoi arfaethedig yn Aber-miwl yn rhai cymhleth ac yn aml ceir amrywiaeth barn. Dyna pam mae ymgymryd â phroses ymgynghori drylwyr yn hanfodol er mwyn sicrhau bod yr holl safbwyntiau ac adborth a rennir yn cael eu hystyried.
"Hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd i'n hymgynghoriad cyhoeddus ac i'n partneriaid proffesiynol a roddodd eu cyngor arbenigol. Hoffwn ddiolch hefyd i swyddogion CNC a fu wrthi’n ddiwyd yn asesu pob agwedd ar y cais a'r adborth cyn dod i benderfyniad arno."

Gwybodaeth Ychwanegol

Yn unol â'r broses ymgeisio, gall yr ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad i wrthod y cais am drwydded o fewn chwe mis ar ôl yr hysbysiad gwrthod. Gall hefyd gyflwyno cais am drwydded newydd.

Cyfeirnod y Cais: PAN-013001

Ymgeisydd: Cyngor Sir Powys

Cyfleuster: Cyfleuster Crynhoi Gogledd Powys, Parc Busnes Aber-miwl, Aber-miwl, Powys, SY15 6NU

Ar 14 Mawrth 2022, fe wrthododd Cyfoeth Naturiol Cymru y cais hwn am drwydded. Darllenwch ein hysbysiad o wrthodiad i'r ymgeisydd.

Yn unol â'r broses ymgeisio, gall yr ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad i wrthod y cais am drwydded o fewn chwe mis ar ôl yr hysbysiad gwrthod. Gall hefyd gyflwyno cais am drwydded newydd.

Mae'r holl wybodaeth sy'n ymwneud â'r cais hwn ar gael ar ein Cofrestr Gyhoeddus.

Gweler y wybodaeth ar y Gofrestr Gyhoeddus.