Dedfrydu tri am gasglu cocos yn anghyfreithlon ar Aber Dyfrdwy

Mae tri dyn a gafodd eu dal yn casglu cocos yn anghyfreithlon ar Aber Afon Dyfrdwy ac a oedd, o bosibl, yn gwneud arian sylweddol wrth wneud hynny wedi cael eu dedfrydu am eu troseddau.

Dilynodd yr ymchwiliad, a gynhaliwyd gan swyddogion gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Heddlu Gogledd Cymru, drywydd gwybodaeth gan CNC a oedd yn awgrymu bod nifer o helwyr cocos yn gweithredu yn y nos ar Aber Dyfrdwy.

Ym mis Rhagfyr 2020, yn dilyn gwyliadwriaeth fanwl, canfuwyd y ddau a ddrwgdybid yn dadlwytho cocos o gwch i lithrfa. Hefyd canfuwyd trydydd person a oedd yn gysylltiedig â’r gwaith o gadw’r cocos hyn yn anghyfreithlon a chael gwared ohonynt.

Enwau’r tri oedd David Lee Rigby, Leon Brick a Bryn Davies. Arweiniodd yr ymgyrch hon at atafaelu dau lwyth o gocos a oedd yn pwyso tair tunnell a chanddynt werth marchnadol o rhwng £9,000 a £10,500.

Yn dilyn achos llys deuddydd yn Llys Ynadon Wrecsam ym mis Ebrill 2022, cafodd David Lee Rigby ei ddedfrydu yn ei absenoldeb a’i gyfeirio at Lys y Goron i’w ddedfrydu a’i ystyried ar gyfer Deddf Enillion Troseddau 2002. Cafodd Bryn Davies ddirwy o £2,400 a gorchmynnwyd ef i dalu costau o £2,500, a derbyniodd Leon Brick ddirwy o £180 a gorchmyn i dalu costau o £500.

Ar ddydd Gwener, 13 Mai, derbyniodd David Lee Rigby ddirwy o £3,000 a gorchymyn i dalu costau o £1,500. Hefyd cytunwyd ar Orchymyn Deddf Enillion Troseddau ac mae’n rhaid i Mr Rigby dalu £3750 o fewn tri mis. Os na thelir y swm bydd dedfryd o dri mis o garchar am beidio â thalu.

Meddai David Powell, Rheolwr Gweithrediadau Gogledd Ddwyrain Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Gall casglu cocos yn anghyfreithlon ar Aber Afon Dyfrdwy gael effaith andwyol ar ecoleg yr aber a'i chynaliadwyedd ar gyfer y dyfodol.
"Mae'r tri unigolyn hyn a'u gweithgarwch anghyfreithlon yn gweithio’n erbyn y manteision a fyddai fel arall yn deillio o Orchymyn Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy 2008 a'i system drwyddedu gyfredol.
"Roedd yr wybodaeth a oedd gennym yn awgrymu bod gweithgarwch anghyfreithlon yn digwydd yn y nos ar Aber Afon Dyfrdwy, a chafodd hynny ei brofi ar ôl gwaith caled Swyddogion Gorfodi CNC a Heddlu Gogledd Cymru. Mae'n bwysig ein bod yn gweithredu mewn achosion o’r fath sy'n effeithio ar ein hamgylchedd naturiol a hefyd ar fywoliaeth deiliaid trwyddedau cyfreithlon."

Mae Pysgodfa Gocos Aber Afon Dyfrdwy yn bysgodfa sy’n cael ei rheoli gan CNC ac mae’n darparu incwm i 54 o ddeiliaid trwydded ac yn ffynhonnell fwyd werthfawr i adar a bywyd morol arall.