Ffigurau diweddaraf trwyddedau gwialen yn dangos cynnydd yng Nghymru

Eisteddodd dau ddyn mewn cwch ar bysgota afon

Erbyn hyn, mae bron 30,000 o bobl yn meddu ar drwydded bysgota yng Nghymru, gyda chynnydd mewn gwerthiannau ar ôl i'r llywodraeth godi cyfyngiadau ar weithgareddau awyr agored, dywed Cyfoeth Naturiol Cymru.

Bu twf sylweddol o 18% mewn trwyddedau iau, ar ben cynnydd o 3% yn nifer y trwyddedau oedolion a werthwyd.

Mae'r cynnydd hwn bron yn sicr oherwydd bod pysgotwyr presennol yn bachu ar y cyfle i ddechrau pysgota eto, ynghyd â'r rhai sy'n ymgymryd â'r gamp am y tro cyntaf neu'n dychwelyd i’r gamp ar ôl cyfnod hir o absenoldeb.

Dywedodd Peter Gough, Prif Gynghorydd Pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae amgylchedd Cymru yn cynnig amrywiaeth wych o bysgota, sy'n ei wneud yn gamp i bawb. Mae cael pobl i gymryd rhan nid yn unig yn cyfrannu at eu lles corfforol a meddyliol ond hefyd yn eu helpu i gysylltu â byd natur.
Mae cannoedd o glybiau pysgota cymunedol ledled Cymru ac mae hyrwyddo cyfleoedd pysgota yn rhan bwysig o gynnal ein pysgodfeydd.
Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Bysgota a Croeso Cymru i greu ffynhonnell o wybodaeth am Bysgota yng Nghymru: www.fishingwales.net

Yn ogystal â bod yn ddifyrrwch sy’n cael ei fwynhau yn rheolaidd gan bobl leol, mae pysgota’n atyniad mawr i dwristiaid ac yn bwysig i economi Cymru.

Mae'r holl arian a gynhyrchir drwy werthu trwyddedau gwialen yng Nghymru yn mynd yn ôl i wella ein pysgodfeydd er mwyn helpu i sicrhau dyfodol y gamp yng Nghymru.

Gyda Gŵyl y Banc o'n blaenau, a chynifer o bysgotwyr newydd ar ddyfroedd llonydd ac afonydd Cymru, mae'n hanfodol bod pawb yn gwybod am drwyddedau a hawlenni pysgota fel ein bod i gyd yn pysgota'n gyfreithlon.

Ychwanegodd Peter Gough:

Mae angen trwydded gwialen ddilys arnoch os ydych yn 13 oed neu’n hŷn ac yn pysgota am eogiaid, brithyllod, pysgod dŵr croyw, brwyniaid neu lysywod yng Nghymru. Mae trwyddedau iau am ddim.
Os ydych chi'n pysgota dŵr croyw, mae yna hefyd is-ddeddfau ychwanegol y mae'n rhaid eu dilyn. Mae'r rhain ar waith er mwyn diogelu stociau pysgod a sicrhau bod pysgodfeydd yn gynaliadwy. Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.