Rhybudd yn dilyn achos llys

Ni fydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn goddef unrhyw dresbasu anghyfreithlon nag ymddygiad gwrthgymdeithasol, a hynny er mwyn diogelu’r amgylchedd a chymunedau lleol.

Dyna’r rhybudd yn dilyn achos yn Llys Ynadon Caernarfon ddoe (21/10/20) lle cafodd Michael Pettit a Mike Jones orchymyn i dalu dirwyon a chostau o £4,085.75 yr un am dresbasu anghyfreithlon a difrod, yn cynnwys gwersylla dros nos, yng Nghoedwig Coed y Brenin ger Trawsfynydd.

Meddai Dylan Williams, Pennaeth Gweithrediadau CNC yng Ngogledd Orllewin Cymru: “Rydym yn rheoli coedwigoedd a gwarchodfeydd natur Cymru fel y gall bawb fwynhau’r mannau arbennig hyn mewn modd diogel.
“Yn anffodus, mae lleiafrif bychan sy’n gwrthod cydymffurfio â’r rheolau.
“Byddwn bob amser yn cynnig cyngor ac arweiniad cyn dilyn trywydd cyfreithiol. Ond pan anwybyddir ein rheolau, fe wnawn gymryd camau cyfreithiol er mwyn diogelu’r amgylchedd naturiol a chymunedau lleol.
“Rydym yn ddiolchgar i Heddlu Gogledd Cymru am eu cymorth.”

Dygwyd yr achos yn dilyn archwiliad gan dîm troseddau amgylcheddol CNC. Torrodd y diffynyddion is-ddeddfau’r Ddeddf Coedwigaeth.

Gellir rhoi gwybod am unrhyw achos posibl o dresbasu anghyfreithlon trwy ffonio llinell ddigwyddiadau CNC – 03000 65 3000.

diwedd