Dyfroedd ymdrochi Cymru’n gyrchfan boblogaidd yr haf hwn

A blue flag beach

Wrth i gyfyngiadau Covid-19 barhau i gael eu llacio yng Nghymru, ac wrth inni droi ein golygon tuag at fwynhau cyrchfannau gwyliau yn nes at gartref yr haf hwn, gall ymwelwyr â thraethau Cymru fod yn sicr eu bod wedi bodloni safonau ansawdd trwyadl yn ôl canfyddiadau adroddiad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Am y drydedd flwyddyn yn olynol, canfu Adroddiad Ansawdd Dŵr Ymdrochi Cymru 2020 na fu unrhyw ddosbarthiadau gwael ymysg dyfroedd ymdrochi dynodedig Cymru, gydag un dosbarthiad rhagorol ychwanegol yn 2020 o gymharu â'r canlyniadau yn 2019.

Mae'r tymor samplu dŵr ymdrochi fel arfer yn ymestyn o 15 Mai i 30 Medi ac mae’n gyfle i brofi ansawdd dŵr pob un o'r 105 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig o amgylch Cymru.

Caiff samplau dŵr eu cymryd i ffwrdd, eu dadansoddi mewn labordy arbenigol a'u hasesu yn erbyn meini prawf penodol.

Ar ddiwedd y tymor bydd y canlyniadau'n cael eu casglu ar gyfer pob dŵr ymdrochi a'u defnyddio i asesu'r dŵr fel 'gwael', 'digonol', 'da' neu 'ardderchog'.

Canfu'r adroddiad fod pob un o'r 105 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig yn bodloni safonau ansawdd dŵr llym y Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013, gydag 84 ohonynt ar safon ragorol. Cyflawnodd 14 safon dda a dosbarthwyd 7 fel y safon ofynnol, ddigonol. Am y trydydd tymor yn olynol, ni chafodd unrhyw ddyfroedd ymdrochi dynodedig eu dosbarthu'n rhai o safon wael.

Meddai Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Dydy mannau glas a bod allan ym myd natur erioed wedi bod mor bwysig i'n hiechyd meddwl a'n lles nag yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yma yng Nghymru rydyn ni’n ffodus dros ben o gael traethau hardd a lleoliadau dŵr ymdrochi mewndirol penigamp, ac mae'r rhai sy'n byw yn y cymunedau cyfagos neu'r rhai sy'n ymweld am y diwrnod yn naturiol am fod yn sicr fod y dŵr o ansawdd dda cyn iddyn nhw fentro i mewn iddo.
"Mae gan CNC rôl bwysig i'w chwarae o ran sicrhau ansawdd ein dyfroedd ymdrochi, gan samplu'r ardaloedd ar gyfer dau fath o facteria sy'n dangos llygredd o garthffosiaeth neu anifeiliaid, y gall y ddau ohonynt gael effaith ar iechyd pobl, fel achosi anhwylderau’r stumog a dolur rhydd os caiff y dŵr ei lyncu.
"Mae canlyniadau 2020 yn galonogol iawn ac yn dangos ein bod ni, ynghyd â Dŵr Cymru, Awdurdodau Lleol, sefydliadau ffermio a thirfeddianwyr yn cyflawni ein nod o ddiogelu a gwella ein hadnoddau naturiol."

Oherwydd effeithiau’r coronafeirws ar arferion gwaith, roedd cwblhau rhaglen 2020 yn peri heriau sylweddol. Gohiriwyd y tymor monitro, sydd fel arfer yn rhedeg o fis Mai i fis Medi, ar ôl canfod y byddai'r pandemig yn effeithio ar y gallu i samplu dŵr yn llawn ac yn ddiogel.

Cwblhawyd gwaith samplu yn y pen draw ddiwedd mis Medi ac mae canfyddiadau'r broses wedi'u cyhoeddi ar wefan CNC.

Ychwanegodd Ceri Davies:

"Mae’r canlyniadau'n dangos pa mor galed y gweithion ni a'n partneriaid yn lleol ac yn genedlaethol y llynedd yn ystod cyfnod heriol iawn, a’r ymroddiad aruthrol sydd gan ein sefydliadau i wasanaeth amgylcheddol pwysig.
"Mae nifer o draethau Cymru, fel Barafundle a Dinbych-y-pysgod, yn cael eu dewis yn rheolaidd fel rhai gorau Prydain, gyda gweithgareddau fel nofio, syrffio, pysgota a chwilio pyllau glan môr yn boblogaidd iawn ar draws yr arfordir. Ein nod nawr yw sicrhau bod y safon uchel hon yn cael ei chynnal, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i gyflawni'r targed hwn."

Mae Adroddiad Ansawdd Dŵr Ymdrochi Cymru 2020 ar gael i'w weld yma, Cyfoeth Naturiol Cymru / Adroddiad ansawdd dŵr ymdrochi Cymru 2020.

Gallwch hefyd edrych i weld beth yw ansawdd dŵr ymdrochi pob ardal ddynodedig yma:  http://environment.data.gov.uk/wales/bathing-waters/profiles/?lang=cy.

Os ydych yn bwriadu ymweld â rhai o arfordiroedd neu afonydd a llynnoedd mewndirol Cymru yr haf hwn, sicrhewch eich bod yn cymryd camau ychwanegol i gadw eich hun a'ch teulu'n ddiogel o amgylch dŵr, drwy asesu'r risgiau cyn i chi fynd i mewn i'r dŵr a rhoi mwy o sylw i'r hyn sy'n digwydd o'ch cwmpas.

Dysgwch fwy am sut i gael amser diogel a dymunol yn yr awyr agored yn Adventure Smart UK, a dilynwch y cyngor yng Nghod y Glannau a'r Cod Nofio yn y Gwyllt – rhan o deulu'r Cod Cefn Gwlad.