Gwaith yn parhau i fynd i'r afael â physgota anghyfreithlon

Mae patrolau i atal pysgota anghyfreithlon yng Nghymru yn parhau, gyda mesurau ar waith i weithio o fewn canllawiau pellhau cymdeithasol Covid 19 y Llywodraeth.

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) allan yr wythnos hon, gydag adran pysgodfeydd môr Llywodraeth Cymru a thîm troseddau gwledig Heddlu Gogledd Cymru, i atal pysgota anghyfreithlon ar gyfer draenog y môr, môr frithyll ac eog yn y Fenai.

Dywedodd Vanessa Lang, Arweinydd Tîm CNC yng Ngogledd Cymru:

“Rydym yn parhau i fod yn benderfynol o atal ymddygiad anghyfreithlon a di-hid gan leiafrif sy'n niweidio ein stociau pysgod brodorol a'n hamgylchedd naturiol.
“Mae ein staff allan ar batrôl fel bod troseddwyr yn gwybod ein bod yn dal i wylio amdanynt ac yn cymryd tystiolaeth a fydd yn cael ei defnyddio lle rydym yn amau ​​bod troseddau wedi digwydd.”

Mae CNC yn annog pobl i wneud yn siwr fod pysgod y maent yn eu prynu'n lleol - yn enwedig trwy'r cyfryngau cymdeithasol - yn dod o ffynhonnell gyfreithlon.

Os oes unrhyw un yn amau ​​bod rhywun wedi cysylltu â nhw neu wedi gweld rhywun yn gwerthu pysgod a allai fod wedi cael ei ddal yn anghyfreithlon, dylent gysylltu â llinell gymorth ffôn CNC, sydd am ddim ac ar agor 24/7, ar 0300 065 3000.

Mae is-ddeddfau pysgodfeydd môr yn gwahardd defnyddio rhwydi penodol rhwng 1 Ebrill a 30 Tachwedd bob blwyddyn.

Mae'r ardaloedd cyfyngedig yn cynnwys Culfor Menai a'r mwyafrif o aberoedd Cymru i amddiffyn eog mudol a brithyllod môr, yn ogystal â rhywogaethau eraill.