Gwaith yn dechrau i adfer afon yn Eryri

Nant Gwryd cyn i'r gwaith ddechrau

Mae gwaith i adfer afon yn Eryri, fel ei bod yn llifo'n naturiol ac yn gynefin i fwy o fywyd gwyllt, yn cychwyn yr wythnos hon (dydd Llun 14 Medi 2020).

Bydd darn, cilomedr o hyd, o Nant Gwryd sy'n llifo i Lynnau Mymbyr ger Canolfan Awyr Agored Plas y Brenin, yn cael ei ailgysylltu â'i orlifdir naturiol gydag ardaloedd silio pysgod yn cael eu gwella.

Dyma’r cam diweddaraf gan Gyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i wella amgylchedd dalgylch Uwch Conwy - ardal sy'n ymestyn dros 3362 km.

Esbonia Bethan Beech, Swyddog Prosiect Dalgylch Uwch Conwy ar ran y ddau sefydliad: “Mae nifer o fanteision o adfer Nant Gwryd.
“Bydd yn rhoi hwb i bysgodfeydd, pryfetach ac adar, gan greu lle gwych i fyd natur. Bydd y gwaith yn arafu llif yr afon hefyd yn cyfrannu at leihau risg llifogydd mewn ardaloedd nes i lawr y dyffryn.
“Mae gan y rhan hon o Nant Gwryd, a addaswyd yn y gorffennol, lannau serth sy'n atal dŵr rhag cyrraedd y gorlifdir naturiol. Trwy ostwng rhan o'r lan a symud cerrig mawrion, bydd yr afon yn ymdroelli unwaith eto ac yn ailgysylltu â'r gorlifdir ar adegau o lif uchel.
“Bydd creu mwy o amrywiaeth strwythurol yn yr afon, gan gynnwys ardaloedd lle gall y dŵr gronni, yn wych ar gyfer brithyll. Bydd dyfrgwn yn elwa hefyd. ”

Mae hyn oll yn bosib drwy weithio’n agos gyda’r ffarmwr lleol fel bod budd i ffermio cynaliadwy yn ganolog i’r prosiect. Er enghraifft, bydd rhywfaint o waith ffensio yn cael ei wneud i atal gwartheg a defaid rhag mynd i mewn i'r afon, a rhoi hwb i ansawdd dwr yr afon.

A bydd gwrychoedd a choed yn cael eu plannu i arafu llif dros y tir, helpu i hidlo dŵr a sefydlogi’r glannau, ynghyd â chreu coridorau bywyd gwyllt pwysig i gysylltu cynefinoedd.

Ychwanegodd Bethan: “Dim ond un rhan o’n gwaith yw hwn i ofalu am amgylchedd dalgylch Uwch Conwy trwy ddod o hyd i atebion cynaliadwy sy’n dod â nifer o fuddion. Mae cefnogaeth y gymuned leol yn rhan allweddol ac amhrisiadwy o’r cynllun.”

Gallwch ddarganfod mwy am Brosiect Dalgylch Uchaf Conwy a chynllun ehangach Tir Afon yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yma: https://www.nationaltrust.org.uk/projects/upper-conwy-catchment-project