Gwaith ar droed i ganfod tarddiad yr aroglau a’r mwg yn Rhuthun

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych i geisio canfod tarddiad yr aroglau a’r mwg yng nghyffiniau Rhuthun.

Daw hyn yn dilyn nifer o gwynion gan breswylwyr Rhuthun sydd wedi arwain at ymchwiliad ar y cyd i mewn i’r mater, ond mae’n anodd canfod yn union o ble mae’n dod gan fod gwahanol darddleoedd posib mor agos at ei gilydd.

Meddai Julia Frost, Arweinydd Tîm Rheoleiddio Diwydiannol Cyfoeth Naturiol Cymru: 

“Rydym wedi bod yn cael adroddiadau am fwg ac aroglau a phobl yn gweld mwg yn codi yn ardal Rhuthun ers diwedd 2020. 
“CNC sy’n rheoleiddio un o’r tarddleoedd posib, a byddwn yn  dadansoddi gwybodaeth gan y gweithredwr hwnnw yn unol ag amodau’r drwydded amgylcheddol sydd ganddo. 
“Oherwydd y math o waith sy’n digwydd ar y safle, mae’n debygol y bydd pobl yn medru gweld mwg yn codi i’r amgylchedd. Bydd CNC yn sicrhau bod yr holl weithgarwch sy’n gysylltiedig â’r ffatri’n cydymffurfio ag amodau’r Drwydded Amgylcheddol, sydd wedi’u llunio er mwyn diogelu iechyd pobl a’r amgylchedd.”

Wrth archwilio’r safle yn ddiweddar canfuwyd bod y ffatri wedi dechrau defnyddio ail uned losgi tua diwedd 2020. Nid oedd yr uned honno’n rhan o drwydded amgylcheddol, ac yn unol â chyfarwyddyd CNC fe’i diffoddwyd ar 22 Ionawr 2021. 

Yn y cyfamser, mae  gweithredwr wedi cyflwyno cais i amrywio’r drwydded i gynnwys yr ail uned losgi, ac fe gaiff y cais hwnnw ei ystyried yn unol â pholisi a phroses benderfynu CNC. 

Meddai’r Cynghorydd Mark Young, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros Gynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Chymunedau Diogelach:

“Mae’r Cyngor yn gwybod fod yno nifer o safleoedd diwydiannol yn yr ardal a allai fod yn creu’r mwg a’r aroglau sy’n effeithio ar bobl, ac rydym yn dal i ymchwilio i’r tarddleoedd posib.
“Mae’r Cyngor yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â CNC wrth geisio datrys y mater er budd y bobl leol.”

Os oes rhywun yn pryderu am effaith y mwg a’r aroglau yn ardal Rhuthun ar eu hiechyd, dylent gysylltu â’u meddyg teulu neu ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47.  

Os ydych chi’n gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol ac yn dymuno rhoi gwybod amdano, gallwch ffonio llinell frys Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000 unrhyw awr o’r dydd, neu os yw’n fater y mae Cyngor Sir Ddinbych yn ei reoleiddio, ewch i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/iechyd-yr-amgylchedd/llygredd/ansawdd-aer.aspx neu ffonio 01824 706080.