Ymgynghoriad ar gais i amrywio trwydded yng Nghyfleuster Trosglwyddo Gwastraff Pwynt Naw Milltir
Cyfeirnod y cais: |
PAN – 016095 |
Rhif y drwydded: |
EPR/AB3695CH |
Cwmni: |
Drumcastle Limited |
Lleoliad: |
Ystad Ddiwydiannol Pwynt Naw Milltir Cwmfelin-fach, Ynysddu, Casnewydd NP11 7HZ |
Rydym wedi derbyn cais (PAN – 016095) gan Drumcastle Limited, i amrywio trwydded amgylcheddol bresennol ar gyfer y cyfleuster trosglwyddo gwastraff yn Ystad Ddiwydiannol Pwynt Naw Milltir, Cwmfelin-fach, Caerffili.
Trosglwyddwyd y drwydded amgylcheddol bresennol o Hazrem Environmental i'r gweithredwyr newydd Drumcastle Limited ym mis Ionawr 2022 yn dilyn y gwiriadau a’r gweithdrefnau angenrheidiol.
Er nad yw'r safle’n weithredol eto, caniateir iddo brosesu hyd at 100,000 tunnell y flwyddyn o wastraff cartrefi, diwydiannol a masnachol nad yw'n beryglus. Bydd y gwastraff yn cael ei drin i gynhyrchu Tanwydd Solid sydd wedi'i Adfer (SRF) neu Danwydd sy'n Deillio o Sbwriel (RDF) i'w gludo oddi ar y safle i gynhyrchu ynni. Bydd y gweithgaredd hwn yr un peth ag ydoedd yn ôl y drwydded wreiddiol (AB3695CH).
Mae'r amrywiad i'r drwydded yn cynnig rhoi’r gorau i losgi nwy naturiol at ddiben sychu gwastraff.
Mae hefyd yn cynnig defnyddio hidlydd carbon actifedig, a fyddai'n helpu i leddfu’r arogleuon posib o'r safle.
Heddiw, 28 Mawrth 2022 rydym wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus gyda busnesau lleol a chymunedau cyfagos er mwyn caniatáu iddynt leisio eu barn am y cynnig.
Bydd yr ymgynghoriad yn para am bedair wythnos tan 25 Ebrill ac mae'n gyfle i bobl leisio unrhyw bryderon mewn perthynas â'r newidiadau arfaethedig.
Dim ond os ydym yn credu fod gan y gweithredwr y gallu i fodloni amodau'r drwydded y byddwn yn caniatáu amrywio trwydded. Bydd unrhyw amrywiad a ganiateir gennym yn cynnwys amodau priodol i ddiogelu iechyd pobl a'r amgylchedd.
Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni ganiatáu amrywiad i drwydded os gall yr ymgeisydd ddangos y bydd y safle'n cael ei weithredu yn unol â safonau priodol ac y bydd yr holl ofynion cyfreithiol yn cael eu bodloni.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Unwaith y bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gais y gweithredwr wedi dod i ben, byddwn yn cwblhau ein hasesiad technegol a'n penderfyniad. Bydd yr asesiad hwn yn ystyried yr holl sylwadau perthnasol a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad. Pan fyddwn wedi cwblhau ein hasesiad, os byddwn yn cynnig caniatáu’r newid i'r drwydded, byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus arall ar ein penderfyniad drafft am o leiaf 20 diwrnod gwaith. Byddwn yn hysbysebu hyn ar ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Beth yw’r Drwydded Amgylcheddol a beth yw Amrywiad?
O dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, rhaid bod gan rai gweithgareddau drwydded er mwyn gweithredu. Mae hyn er mwyn rheoli risg amgylcheddol y gweithgareddau.
Yng Nghymru, Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reoleiddio'r math hwn o ddiwydiant. Rydym yn asesu ceisiadau am drwyddedau ac yn rheoleiddio a monitro deiliaid trwyddedau.
Rhaid i'r gweithredwr wneud cais am amrywiad i'r drwydded cyn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i'r gosodiad.
Ble alla i gael rhagor o wybodaeth ar y cais?
Gallwch weld y cais drafft am ddim, ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein.
Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gallai fod tâl.