Gweithrediadau i gwympo a theneuo coed llarwydd heintiedig yn Fforest Fawr

Bydd gweithrediadau i gwympo a theneuo coed llarwydd heintiedig yn Fforest Fawr, Tongwynlais ar gyrion Caerdydd, yn dechrau ar ddydd Llun 27 Medi.
Gorffennwyd y cam cyntaf o weithrediadau yn 2018. Rydym nawr wedi penodi contractwr, Tillhill, i ddechrau cam 2 y gwaith i gael gwared ar y coed llarwydd sy'n weddill. Ein nod yw cwblhau'r gwaith hwn erbyn mis Mawrth 2022.
Bydd y coed llarwydd sy'n cael eu cwympo yn cael eu storio wrth ymyl ffordd y goedwig ac yna'n cael eu symud o'r safle.
Bydd yr ardaloedd gwaith yn cael eu rheoli i sicrhau diogelwch y gweithwyr a'r cyhoedd a bydd angen i ni gau rhan helaeth o'r goedwig gan gynnwys llawer o'r llwybrau cerdded.
Y llwybrau yr effeithir arnynt fydd:
- Llwybrau cerdded ag arwyddbyst Llwybr Burges, Llwybr Syr Henry, Llwybr Ogof y Tair Arth, a'r Llwybr Treftadaeth Ddiwydiannol.
- Llwybr Cerfluniau.
- Llwybrau marchogaeth
- Llwybr beicio Sustrans (Taith Taf) ar hen ffordd y goedwig sy'n rhedeg ar hyd ffin orllewinol y goedwig.
Dilynwch unrhyw arwyddion cau neu wyro. Bydd ardaloedd eraill yn y goedwig yn dal i fod ar agor i bobl eu defnyddio.
Bydd maes parcio Fforest Fawr yn aros ar agor yn ystod y gwaith, fodd bynnag, bydd ffensys yn cael eu gosod i sicrhau nad yw mynediad i’r goedwig yn cael ei rwystro gan gerbydau wedi'u parcio.