5 ffordd o hybu eich iechyd a’ch lles gyda natur

Mae tystiolaeth i ddangos bod yna 5 cam sy’n gallu helpu i roi hwb i’ch iechyd a’ch lles - rhoi, dysgu, bod yn egnïol, sylwi, a chysylltu.

Mae’r camau canlynol wedi’u haddasu o waith ymchwil a datblygu gan y Sefydliad Economeg Newydd.

1. Rhoi

Cymerwch ran mewn gwarchod a meithrin byd natur yn eich ardal leol.

Fe allech:

  • hel sbwriel o amgylch eich mannau gwyrdd neu las lleol
  • arbed dŵr – dyma’n hadnodd naturiol mwyaf
    gwerthfawr
  • dechrau tyfu – tyfwch rywbeth o had, ceisiwch greu
    blwch plannu, neu plannwch rywfaint o botiau
  • plannwch goeden – mae coed yn tynnu carbon o’r
    atmosffer yn araf bach
  • rhowch groeso i fyd natur – gwnewch fwydwyr adar,
    gwestai trychfilod a chartrefi anifeiliaid

2. Dysgu

Mae dysgu yn yr amgylchedd naturiol, amdano ac ar ei gyfer yn ein helpu i ddeall ein bod yn rhan o natur a bod angen i ni ei gwarchod a gofalu amdani. Mae dysgu yn bwydo ein meddyliau, felly ceisiwch ddysgu rhywbeth newydd a rhyfeddol am fyd natur bob dydd.

Rhieni ac addysgwyr – defnyddiwch ein hadnoddau i helpu plant i ddysgu am yr amgylchedd naturiol

3. Bod yn egnïol

Mae gwaith ymchwil yn dangos bod ymarfer corff yn yr awyr agored yn well i ni nag ymarfer corff mewn llefydd eraill, gan ein gwneud yn hapusach.

Ewch am dro neu ar eich beic o stepen eich drws i’ch llefydd naturiol lleol er mwyn cysylltu mewn ffordd egnïol â byd natur a mwynhau’r manteision aruthrol i’ch lles corfforol a meddyliol, gan gynnwys:

  • gwella’ch iechyd corfforol
  • hybu iechyd meddwl cadarnhaol
  • lleihau symptomau straen
  • cynyddu lefelau fitamin D
  • gwella’ch hwyliau a theimlo’n well

Ewch i’r dudalen “Ar grwydr” i ddod o hyd i goetir neu Gronfa Natur Genedlaethol i ymweld â nhw

4. Sylwi

Mae bod yn fwy ymwybodol o’r byd o’n cwmpas yn ein helpu i werthfawrogi nawr.

Mae sylwi ar fyd natur a’i harddwch yn gwneud i ni deimlo’n bositif. Ceisiwch sylwi ar 3 pheth da ym myd natur bob dydd a phrofi sut gall hyn roi hwb i’ch hapusrwydd.

5. Cysylltu

Mae pobl sy’n cysylltu â byd natur yn dueddol o fyw bywydau hapusach a mwy boddhaus. Gall cysylltu â byd natur eich helpu i sicrhau bod rhywfaint o’ch ymddygiadau o ddydd i ddydd yn rhai amgylchedd gyfeillgar a chadarnhaol o ran eich lles corfforol a meddyliol.

Gallwch weld sut gysylltiad sydd gennych chi â natur gyda’n model dilyniant naturiol

Dangoswch y wybodaeth ar ffurf poster

Agor poster PDF sy’n addas i’w argraffu

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru