Bioamrywiaeth - O Gytundeb i Weithredu

I ddathlu Diwrnod Bioamrywiaeth Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig, mae Sarah Wood, ein Rheolwr Bioamrywiaeth yn edrych ar waith CNC i ddiogelu a gwella amgylchedd naturiol Cymru, ac i fyfyrio ar y thema eleni: "Bioamrywiaeth - O Gytundeb i Weithredu."

“Mae gan Gymru dirweddau prydferth o amgylch pob cornel - o'r arfordiroedd garw a'r bryniau tonnog i'r coetiroedd hynafol a'r gwlyptiroedd bywiog, ac o’r mynyddoedd garw i’r moroedd mawr. Ac mae'r rhain yn cynnig lloches i amrywiaeth o fywyd gwyllt.  Neu felly y byddech chi'n meddwl.

“Nid yw’n bioamrywiaeth yn byrlymu. Mae Cymru mewn argyfwng natur  - mae graddfa a chyfradd colli natur ar draws y genedl yn cyflymu, gan effeithio ar rywogaethau sy'n dibynnu ar ein hadnoddau naturiol a sylfaen ein bodolaeth. Mae ein Hadroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol ein hunain, ynghyd â llu o adroddiadau eraill o bob rhan o'r sector, yn tanlinellu cyflwr peryglus ein bywyd gwyllt ac mai ychydig iawn o wydnwch sydd gennym i newid.

“Mae Cymru wedi dangos ei hymrwymiad i gadwraeth bioamrywiaeth trwy amrywiol gytundebau rhyngwladol a chenedlaethol, ac yma mae gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n gosod dyletswydd gyfreithiol ar sefydliadau cyhoeddus i  weithio i gynnal a gwella bioamrywiaeth.

“Ond nid yw'r cytundebau hyn yn unig yn ddigon. Mae'r dasg o warchod ac adfer bioamrywiaeth yn gofyn am fwy na hyn — mae'n mynnu gweithredu pendant gan bawb.  - yn y ffordd rydyn ni'n gweithio a'r ffordd rydyn ni'n byw.

“Ar gyfer Cymru sy'n llawn natur, mae angen i ni feddwl yn fawr - gan gynyddu ein hymdrechion i gadw carbon dan glo mewn dyddodion mawn, adfer a gwella cynefinoedd ar gyfer ein rhywogaethau brodorol, a gweithio i gynyddu poblogaeth rhai o'n rhywogaethau mwyaf difreintiedig.

“Mae'r daith o gytundeb i weithredu mewn cadwraeth bioamrywiaeth yn un heriol, ond yma yn CNC, rydym wedi ymrwymo i droi geiriau'n ganlyniadau gweladwy:

  • Mae ein timau arbenigol yn gweithio'n galed i adfer a gwella cynefinoedd ar gyfer ein rhywogaethau brodorol ac yn gweithio i gynyddu poblogaeth rhai o'n rhywogaethau mwyaf difreintiedig, gan gynnwys y gylfinirod, yr eog a'r brithyll môr, yr wystrys brodorol, y glöyn byw britheg y gors, cardwenyn feinlais a’r wiwer coch.

  • Mae rhaglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru yn ein galluogi i ddylunio a chyflawni prosiectau sy'n gwella cyflwr a chysylltedd ein safleoedd gwarchodedig gan greu rhwydweithiau ecolegol gwydn a fydd yn caniatáu i'n cynefinoedd a'n rhywogaethau mwyaf bregus ffynnu.

  • Rydym yn cynyddu ymdrechion i gadw carbon wedi'i gloi mewn dyddodion mawn drwy'r Rhaglen Gweithredu Mawndir Genedlaethol, ac mae gennym dargedau uchelgeisiol ar gyfer adfer sinciau carbon mwyaf effeithiol natur.

  • Mae’n pum prosiect LIFE – DeeLife, Sands of Life, 4Rivers4Life, Life Quake a New Life for Welsh Raised Bogs - gyda'i gilydd yn buddsoddi dros £27m ar waith cadwraeth uniongyrchol a chodi ymwybyddiaeth o'r cynefinoedd hanfodol hyn.

  • Rydym yn ehangu canopi gwyrdd Cymru drwy gefnogi prosiectau creu coetiroedd ledled y wlad.

“Mae'r prosiectau hyn yn cael eu darparu mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau a chyrff amgylcheddol yn ogystal â ffermwyr ledled Cymru ac yn dangos sut y gallwn gyda'n gilydd wneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd ein hamgylchedd.

“Er gwaethaf rhywfaint o gynnydd, mae Cymru'n dal i wynebu heriau o ran cadwraeth bioamrywiaeth. Mae newid yn yr hinsawdd, colli cynefinoedd, rhywogaethau goresgynnol, a llygredd yn parhau i effeithio ar ein hecosystemau. Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn, mae'n  rhaid i ni  fabwysiadu dull cyfannol sy'n integreiddio cadwraeth bioamrywiaeth i wahanol sectorau, gan gynnwys amaethyddiaeth, coedwigaeth a chynllunio trefol.

“Heb amgylchedd naturiol iach a gwerthfawr, rydym i gyd yn dioddef.  Pan fyddwn yn bygwth yr amgylchedd, rydym yn bygwth ein cyflenwad bwyd, ein hiechyd, ein swyddi, ein heconomi, a'n hymdeimlad o le. Dyna pam mae adfer natur er lles natur er budd pawb.

“Ond mae'n rhaid i sicrhau bod natur yn ffynnu fod yn ymdrech gyffredin ar draws y llywodraeth, busnes a chymdeithas.   Dim ond gyda'n gilydd y gallwn roi Cymru ar sylfaen gadarn ar y llwybr at adferiad natur.  

“A dim ond trwy droi cytundeb yn gamau y byddwn yn gweld Cymru gyfoethog o natur unwaith eto.”

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru