Cysylltu â natur er lles eich iechyd meddwl

“Os ydych chi wir yn caru natur, fe welwch chi harddwch ym mhobman” Vincent van Gogh

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r pandemig wedi dangos i ni y gall cysylltu â natur roi hwb i ni ar adegau tywyll.

Mae adnoddau naturiol yn chwarae rhan hanfodol yn ein lles corfforol a meddyliol o ddydd i ddydd – gan ddarparu'r mannau i ni fwynhau cysylltiadau iach â natur a phobl eraill. 

Yn ôl y Sefydliad Iechyd Meddwl, mae'n hysbys bod bod ym myd natur yn ffordd effeithiol o fynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl a diogelu ein lles – yn fyr, mae natur yn ganolog i'n hiechyd seicolegol ac emosiynol.

Yn ddiweddar, dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod tua 9 o bob 10 o bobl yn cytuno bod mannau naturiol yn dda ar gyfer iechyd meddwl a lles. Sylwodd mwy na 40% fod natur, bywyd gwyllt, ac ymweld â mannau gwyrdd a naturiol lleol wedi bod hyd yn oed yn bwysicach i'w lles ers dechrau cyfyngiadau’r coronafeirws.

Dangosodd gwaith ymchwil y Sefydliad Iechyd Meddwl ar sut y gwnaeth pobl ymdopi â'r pandemig mai un o brif strategaethau pobl ar gyfer ymdopi â'r cyfnodau clo oedd mynd am dro y tu allan, a dywedodd 45% o bobl fod bod mewn mannau gwyrdd wedi bod yn hanfodol i'w hiechyd meddwl.

Canfu astudiaethau ehangach fod pobl nid yn unig yn treulio mwy o amser ym myd natur yn ystod y cyfyngiadau symud ond eu bod yn sylwi mwy arno hefyd. Roedd hyd yn oed edrych ar natur yn gwneud i bobl deimlo'n well, gydag ymweliadau â gwefannau â gwe-gamerâu bywyd gwyllt yn cynyddu dros 2000%.

Profi, rhannu a siarad am natur

Yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl hon (10 – 16 Mai 2021), beth am geisio mynd ati i gysylltu â natur bob dydd drwy sylwi ar yr hyn sydd o’ch cwmpas gyda'ch holl synhwyrau.

Gallech oedi i wrando ar yr adar, arogli'r glaswellt sydd newydd ei dorri, gofalu am blanhigyn tŷ, sylwi ar unrhyw goed, blodau neu anifeiliaid gerllaw. Cymerwch eiliad i werthfawrogi'r cysylltiadau hyn.

Os na allwch fynd allan, gallwch fwynhau gwylio byd natur gartref gyda'n gwe-gamera yn nyth gweilch y pysgod yng Nghoedwig Hafren.

Ysbrydolwch eraill i gysylltu â natur drwy siarad am eich profiadau. Rhannwch eich delweddau, fideos neu recordiadau sain o fyd natur ar garreg eich drws a sut roedd hyn yn gwneud i chi deimlo, gan ddefnyddio’r hashnodau #CysylltuaNatur ac #WythnosYmwybyddiaethIechydMeddwl ar gyfryngau cymdeithasol.

Ymgyrch #WalkThisMay ar gyfer iechyd meddwl da

Drwy gydol mis Mai, mae'r Sefydliad Iechyd Meddwl yn ein hannog ni i gyd i Fod yn Egnïol a Gweithredu, drwy gwblhau 30 munud o ymarfer corff y dydd.

Os ydych chi'n chwilio am ysbrydoliaeth i fod yn egnïol mewn mannau naturiol, edrychwch ar ein tudalennau Ar Grwydr ar gyfer teithiau cerdded ag arwyddbyst mewn coetiroedd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ledled Cymru, neu am deithiau cerdded hirach edrychwch ar Lwybr Arfordir Cymru a’r Llwybrau Cenedlaethol.

Os ydych chi’n ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol, cadwch olwg am ein hawgrymiadau o deithiau cerdded gyda golygfeydd gwych o flodau’r gwanwyn y mis hwn.

Mae taith gerdded sionc yn ffordd wych o helpu eich iechyd meddwl:

  • mae cerdded yn gwneud ichi deimlo'n egnïol, gan anfon ocsigen i bob cell yn eich corff
  • mae cerdded yn gwneud ichi deimlo'n hapusach drwy ryddhau endorffinau sy'n lleihau straen a phryder
  • mae cerdded yn helpu i ofalu am eich cof ac atal dementia wrth i chi fynd yn hŷn

Gwellwch eich hwyliau'n naturiol

Nid ymarfer corff yw’r unig beth allwch chi ei wneud, serch hynny. Gall mynd allan a bod mewn mannau naturiol gael effaith gadarnhaol ar eich lles.

  • Teimlo’r llonyddwch yn y gwyrddni – dangoswyd bod bod o amgylch planhigion a choed yn tawelu’r rhan o’r system nerfol sy'n gyfrifol am straen a phryder.

  • Mae golau dydd yn helpu i gael noson dda o gwsg – mae cysylltiad â golau dydd yn helpu i reoleiddio lefelau melatonin a serotonin yr ymennydd, sy'n hanfodol ar gyfer cysgu.

  • Crwydro o garreg eich drws - gall newid amgylchedd fod yn ffordd dda iawn o leihau straen ac anghofio am rai o'r pethau a allai fod yn pwyso ar eich meddwl.

  • Rhoi gorffwys i’ch meddwl gartref - os ydych chi'n gweithio gartref, gall neilltuo amser i fynd allan helpu i osod ffin rhwng gwaith a bywyd cartref.

Mae'r pandemig wedi dangos inni fod gennym angen sylfaenol i fod yn agos at natur. Drwy gydol ein hanes fel pobl, rydym wedi bod yn rhan o natur, yn gysylltiedig â hi. Yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl hon, tyfwch eich cysylltiad eich hun â natur drwy gymryd amser i sylwi ar fyd natur o'ch cwmpas a’i fwynhau.