Datblygu dull lleoliad cyfan o ddysgu yn yr amgylchedd naturiol, dysgu amdano ac ar ei gyfer

Datblygu dull lleoliad cyfan o ddysgu yn yr amgylchedd naturiol, dysgu amdano ac ar ei gyfer

Er mwyn sicrhau bod eich holl ddysgwyr yn elwa o ddysgu yn, am ac ar gyfer yr ystafell ddosbarth fwyaf a gorau sydd gennym yng Nghymru; ein hamgylchedd naturiol, yna mabwysiadwch ymagwedd lleoliad cyfan. Dyma rai awgrymiadau penigamp ar sut i gyflawni hyn.

Pennu nod cyffredin

O uwch arweinwyr i lywodraethwyr, gofalwyr i lanhawyr, dylai pawb sy'n gysylltiedig â'ch lleoliad fod yn ymwybodol o'r hyn rydych chi'n ceisio'i gyflawni, yn ei ddeall ac yn cefnogi'r hyn rydych chi'n ei wneud. Trwy gyfathrebu'n effeithiol eich nod o geisio cysylltu'ch lleoliad cyfan â'r amgylchedd naturiol byddwch chi, yn eich tro, yn helpu i godi ei broffil. Gwnewch yn siŵr bod gyda chi ‘slot’ ar agenda’r cyfarfodydd tîm, trefnwch gyfarfodydd awyr agored anffurfiol i drafod ymhellach neu ysgrifennwch e-bost sy’n addas i’r lleoliad cyfan – lledaenwch y gair. Cyn belled â'u bod wedi cael cyfle i drafod a chyfrannu, gellir cynnwys staff ar bob lefel a byddwch yn gwybod bod pawb yn eich lleoliad yn croesawu'r her fel ffrynt unedig ac yn elwa ar y manteision lluosog.

Parhad

Beth bynnag fyddwch chi’n ei wneud dan do, parhewch â’r dysgu yn yr awyr agored – ni ddylai hyn fod yn rhywbeth ychwanegol wedi’i amserlennu. Ystyriwch fod treulio amser yn yr amgylchedd naturiol fel rhan arferol o’ch addysgu a’ch dysgu a’i fod yn gyfle i atgyfnerthu’r arfer ragorol sydd eisoes ar waith, ac nid fel gweithgaredd ar wahân.

Datblygwch eich safleoedd a gwnewch ddefnydd o fannau lleol

Llai sydd orau – gadewch eich safleoedd mewn cyflwr mor naturiol â phosibl. Os yw tarmac neu goncrit yn cael lle blaenllaw, yna ystyriwch sut gallwch chi wneud eich gofod yn fwy gwyrdd ac annog bywyd gwyllt trwy gyflwyno planhigion a llwyni mewn potiau a chynwysyddion. Allwch chi ddefnyddio'r gofod ym mhob tywydd? A oes gofod cysgodol neu gornel a fyddai'n addas iawn ar gyfer cysgodfan darpolin? Unwaith y byddwch wedi treulio peth amser yn defnyddio eich safleoedd byddwch yn dechrau meddwl yn wahanol am y gofod. Nid dim ond lle i'ch dysgwyr redeg yn wyllt ynddo yn ystod amser chwarae fydd eich safleoedd mwyach, bydd y rhain yn lleoedd pwysig ar gyfer addysgu, dysgu ac ymchwilio gan gyd-fyw â byd natur ar yr un pryd. Os daw’r cyfle, ewch ymhellach i ffwrdd ac archwiliwch barciau lleol a chynefinoedd naturiol er mwyn cyfoethogi, datblygu a chysylltu’r dysgu â chynefin lleol eich dysgwyr. 

Rhowch amser i hyn - cymaint â phosib!

Os nad ydych chi neu eich lleoliad o ddifrif yn rhoi digon o amser i ddysgu a chwarae yn yr awyr agored, gofynnwch pam. Beth yw'r rhwystrau sy'n eich atal a sut gallwch chi symud heibio iddyn nhw? Mynnwch gyngor gan eich ymgynghorwyr AALl / gweithwyr chwarae lleol / cydlynwyr ysgolion iach, ac ymarferwyr eraill i'ch helpu i symud ymlaen. Mae unrhyw beth yn well na dim. Sicrhewch fod pawb yn eich lleoliad yn cael y cyfle i dreulio amser yn dysgu yn yr amgylchedd naturiol. Dechreuwch gyda chamau bach gan gynyddu amlder a hyd wrth i hyder a dealltwriaeth o'r manteision dyfu.

Adnoddau

Unwaith eto, mae llai yn fwy. Nid yw hyn yn ymwneud â mynd â phethau o’r byd y tua allan i mewn dan do. Gadewch bethau rhydd naturiol fel ffyn, cerrig, cregyn, dail, pridd, ac ati er mwyn i’r plant eu defnyddio. Beth am drefnu bod bocs o adnoddau amlbwrpas ar gael i ddysgwyr eu defnyddio gyda thryweli, potiau casglu neu frwsys paent er enghraifft. Gweithiwch gyda chydweithwyr er mwyn neilltuo peth amser i baratoi adnoddau all fod yn barod i chi i'w cario mewn sach deithio bwrpasol fel y gallwch gydio ynddi a mynd allan i’r awyr agored pan fydd y cyfle neu'r awydd yn codi. Gallai hyn gynnwys cardiau fflach, cardiau rhif 1-100, cardiau llythyrau a thaflenni adnabod.

Cyfathrebu â rhieni, gwarcheidwaid, a'r gymuned leol

Gall cyfathrebu fod yn allweddol i gynaliadwyedd hirdymor. Eglurwch ddull gweithredu eich lleoliad cyfan, beth rydych yn ei wneud a'r manteision i'r plant. Byddwch yn agored ynglŷn â’r ffaith y bydd y dysgwyr yn debygol o fynd yn fudr ac y byddan nhw allan ym mhob tywydd. Os yw rhieni a gwarcheidwaid yn deall pam eich bod yn ymgymryd â rhai gweithgareddau penodol a pha fanteision y bydd y dysgwyr yn eu cael o gymryd rhan, maen nhw’n llai tebygol o gwyno am ryw ychydig o olchi. Os yw’n briodol, rhannwch eich ymarfer ar gyfryngau cymdeithasol, ar fwrdd arddangos neu ar eich tudalen we fel bod pawb yn y gymuned yn gallu gweld beth sy’n digwydd a sut mae’n berthnasol i ethos eich lleoliad. Bydd eich dysgwyr yn awyddus i rannu'r hyn y maen nhw wedi bod yn ei wneud gyda theulu a ffrindiau a bydd yn helpu i feithrin gwerthfawrogiad ehangach o'ch nod.

Gofynnwch ac efallai y cewch!

Peidiwch â bod ofn gwneud cais os oes angen planhigion, hadau, darnau o bren ac ati arnoch. Bydd rhieni, neiniau a theidiau, a'r gymuned ehangach yn aml yn falch o helpu, ac efallai y cewch lawer o roddion fydd yn arbed arian gwerthfawr ar gyfer dibenion eraill.

Rhwydweithio a bod yn fusneslyd

Gofynnwch am gael mynd i ymweld â grŵp neu leoliad sy'n enwog am eu hymagwedd lleoliad cyfan at ddysgu yn yr awyr agored er mwyn cael eich ysbrydoli. Dysgwch am eu taith ddysgu yn yr awyr agored a sut maen nhw'n gwneud y defnydd gorau o'u safleoedd. Rhwydweithiwch a chyfarfod gydag eraill i drafod syniadau a chynnydd – rhannwch eich uchafbwyntiau a’ch siomedigaethau, beth allwch chi ei ddysgu ohonyn nhw? Bydd ymagwedd gyfranogol, gefnogol yn helpu i ennyn brwdfrydedd, cefnogi a chyffroi.

DPP – Parhau i ddysgu

Ni ddylai’r cyfrifoldeb o wreiddio dysgu yn yr awyr agored ar draws eich lleoliad ddisgyn ar ysgwyddau un aelod staff yn unig. Bydd gweithio ar eich pen eich hun yn ei gwneud hi'n anodd cyrraedd y nod, bydd yn brin o bwysau’n fewnol ac os bydd yr aelod hwnnw o staff yn gadael mae perygl gwirioneddol y bydd pethau'n colli momentwm ac yn darfod. Er mwyn sicrhau bod dysgu yn yr awyr agored yn cael ei werthfawrogi a’i integreiddio ar draws eich lleoliad, mae cefnogaeth a buddsoddiad gan arweinyddiaeth eich lleoliad yn gwbl hanfodol. Gall buddsoddi amser ac arian mewn DPP anffurfiol ac achrededig helpu i ddatblygu arfer a dealltwriaeth ac mae amrywiaeth o sefydliadau cenedlaethol a lleol wrth law i gynnig cefnogaeth. Bydd caniatáu i staff weithio gyda'i gilydd neu ochr yn ochr â'i gilydd i ddatblygu eu harfer yn helpu meithrin hyder ac arfer gorau ar draws eich lleoliad.

Mentrwch!

Cymerwch gamau babi a rhowch gynnig arni! Ewch ati i weld beth sy'n gweithio'n dda i chi, eich lleoliad a'ch dysgwyr. Weithiau, y cyfan sydd ei angen yw ychydig bach o ysbrydoliaeth a pharodrwydd i roi cynnig ar rywbeth newydd er mwyn darganfod y cyfoeth o fanteision y gall dysgu yn yr amgylchedd naturiol, a dysgu amdano, a dysgu ar ei gyfer eu cynnig.

Adolygu ac ailymweld

Beth sy'n gweithio'n dda? Beth ellid ei wella? Bydd gwerthuso eich ymdrechion yn rheolaidd yn helpu penderfynu pa effaith rydych yn ei chael a bydd yn cefnogi eich lleoliad i nodi cyflawniadau a llwyddiannau.

Ymgorfforwch eich ymagwedd ysgol gyfan

Er mwyn sicrhau bod pwysigrwydd eich dull ysgol gyfan yn cael ei gydnabod a’i integreiddio ar draws eich lleoliad, gwnewch yn siŵr fod hyn yn cael ei nodi yn nogfennaeth eich lleoliad. Beth yw'r goblygiadau ariannol? Beth yw anghenion datblygu staff? Sut mae’n cynnwys ethos eich lleoliad? Bydd gwreiddio eich gweledigaeth mewn polisïau a gweithdrefnau yn helpu i amlygu’r pwysigrwydd y mae eich lleoliad yn ei roi ar sicrhau agwedd ysgol gyfan at ddysgu yn yr awyr agored a chyfrannu at ddull cyfannol ar draws y lleoliad.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru