Mudiad Meithrin – defnyddio’r awyr agored i feithrin datblygiad yr iaith Gymraeg
Ionawr 2023
Mudiad Meithrin – defnyddio’r awyr agored i feithrin datblygiad yr iaith Gymraeg
Dros y 50 mlynedd diwethaf, mae Mudiad Meithrin wedi sefydlu ei hun fel arbenigwr blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg. Gan gefnogi rhwydwaith genedlaethol o grwpiau Cymraeg i Blant a dosbarthiadau iaith Cymraeg Clwb Cwtsh, ynghyd â’r Cylchoedd Ti a Fi a Chylchoedd Meithrin traddodiadol, mae’r Mudiad Meithrin yn darparu gweithgareddau cyfrwng Cymraeg lleol a hygyrch i deuluoedd ledled Cymru, o enedigaeth hyd at oedran ysgol. Mae rhai Cylchoedd Meithrin yn gweithredu’n gyfan gwbl, neu bron yn gyfan gwbl, fel lleoliadau awyr agored. Dyma Nia Chapman, Swyddog Cefnogi Gogledd Powys, a Mirain Jones, Arweinydd Cylch Meithrin Dyffryn Banw yn rhannu eu barn am fuddion treulio amser yn yr awyr agored a sut mae hyn yn helpu i hyrwyddo datblygiad yr iaith Gymraeg.
“Trwy weithgareddau yn yr awyr agored mae’r plant yn cael cyfle i sylwi ar natur gan ddysgu geirfa fel dail/deilen, mynydd, pont ayyb”, meddai Nia. “Maent yn dechrau defnyddio a chlywed iaith ddisgrifiadol fel crensian y dail, pigog, sgleiniog, llyfn a garw. Mae hyn yn gweithio’n dda pan ar helfa sborion. Trwy dreulio amser yn yr awyr agored maent yn dysgu enwau planhigion, adar a chreaduriaid o bob math ac yn deall sut maent yn byw. Mae’r tywydd a’r tymhorau yn cynnig cyfleoedd arbennig i ddatblygu iaith. Mae’n cynnig cyfle gwych i’r plant ddisgrifio sut maent yn teimlo, e.e. oer, poeth ac yn y blaen. Rydym yn cael trafodaeth am sut mae natur yn edrych a newid, y dail wedi newid lliw, y dail wedi syrthio a’r coed yn noeth, arsylwi ar we pry cop ar fore rhewllyd - hudol iawn i blant bach! Gall y plant ddisgrifio eu teimladau yn ystod y tymhorau, ofnus pan yn stormus, poeth yn yr haf, oer yn y Gaeaf. Maent yn dysgu am ddiogelwch a chadw’n saff, er enghraifft bod yn ofalus rhag llithro yn yr eira a rhew, gwisgo eli haul pan yn boeth. Byddem yn trafod pa ddillad sydd fwyaf addas ar gyfer y tymhorau/tywydd.”
“Wrth goginio allan yn yr awyr agored mae plant yn cael ateb cwestiynau ‘Wyt ti eisiau tost?’ ac yn cael cyfle i fynegi barn ar y bwyd maen nhw’n ei flasu. Mae coginio o amgylch tân yn gyfle gwych i sgwrsio a chymdeithasu a chanu rhigymau. Mae’r rhigymau yma hefyd yn gyfle i ddatblygu iaith (gorau oll os ydyn nhw yn ymwneud â’r ardal tu allan). Wrth chwarae mewn ardal tu allan maent yn datblygu iaith fathemategol fel uchel/isel, trwm/ysgafn, hir/byr yn naturiol wrth ddringo coed, llithro lawr llethrau, cuddio mewn llwyni. Wrth greu llochesi, mae’r plant yn dysgu i gydweithio a sgwrsio gyda’i gilydd a chwilio am bethau addas i’w defnyddio. Mae'r amgylchedd naturiol yn newid yn gyson ac yn cynnig cymaint o gyfleoedd gwych i hyrwyddo iaith a llythrennedd a gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o nodweddion a phrosesau naturiol ar yr un pryd.
Un Cylch Meithrin sydd wedi dechrau treulio mwy yn yr awyr agored a chynnal sesiynau coedwigol wythnosol i hybu iechyd a lles plant yw Cylch Dyffryn Banw. Dyma Mirain Jones, Arweinydd y Cylch yn rhannu eu profiadau. “Rydym yn gweld bod y plant llawer hapusach yn treulio amser yn dysgu tu allan, a hynny ym mhob math o wahanol dywydd. Buom yn cynnal sesiynau coedwig ym Mis Rhagfyr ar thema’r Nadolig. Creodd y plant glychau pren naturiol i’w defnyddio i ganu fel clychau Santa Clôs yn y sesiwn hwn ac roeddent wrth eu boddau. I ddilyn ein polisi Byw’n Iach, rydym wedi bod yn gwneud gweithgareddau corfforol tu allan a bu’r plant yn gwneud Ioga Nadoligaidd gan wneud siapiau fel seren, pelen eira, carw a’r baban Iesu gyda’u cyrff. Yn sicr, mae gweithgareddau awyr agored yn helpu i ddatblygu iaith Gymraeg y plant ac yn darparu amgylchedd hyblyg i’r plant fynegi eu hunain, bod yn greadigol, cymryd risgiau a datrys problemau yn annibynnol.”
Os hoffech ddysgu mwy am waith Mudiad Meithrin, cysylltwch â nhw yn uniongyrchol neu edrychwch ar eu cyfrif Trydar. I ddysgu mwy am weithgareddau Cylch Meithrin Dyffryn Banw, ewch i'w cyfrif Trydar.
Dysgu yn ein hamgylchedd naturiol, dysgu amdano a dysgu ar ei gyfer
Chwilio am ragor o adnoddau dysgu, gwybodaeth, neu ddata? Cysylltwch ag:
addysg@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ewch i https://cyfoethnaturiol.cymru/dysgu
Am fformatau gwahanol; print bras, neu ieithoedd gwahanol, cysylltwch ag:
ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
0300 065 3000