Rhaglen Rhwydweithiau Natur Forol Newydd: Galwad am geisiadau

Rydym wrthi’n chwilio am arbenigwyr morol uchelgeisiol a brwdfrydig i gyflawni amrywiaeth o brosiectau i wella cyflwr Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru.

Ydych chi’n hyderus, brwdfrydig a threfnus, ac yn chwaraewr tîm da sydd â sgiliau pobl rhagorol?

Ydych chi’n frwdfrydig am yr amgylchedd?

Oes gennych chi arbenigedd yn yr amgylchedd morol a sut mae’n cael ei ddefnyddio a’i reoli?

Hoffech chi weithio fel rhan o raglen gyffrous i wella’r amgylchedd morol o gwmpas Cymru?

Os felly, anfonwch gais nawr….

Beth sy’n digwydd?

Rydym yn sefydlu rhaglen newydd gyffrous a fydd yn para tair blynedd i gynnal gwaith morol gyda chymorth Rhaglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru. Rydym yn chwilio am arbenigwyr morol brwdfrydig i ddarparu cyfres o brosiectau sy'n canolbwyntio ar Rwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru:

  • Prosiect Cyngor Gwella Cadwraeth Forol

  • Deall graddfa dirywiad nodweddion Ardal Forol Warchodedig (MPA) oherwydd gwasgfa arfordirol

  • Prosiect Adfer Morfa Heli Glanfa Fawr Tredelerch

  • Ymchwiliadau i ddirywiad rhywogaethau a chynefinoedd dyfnforol yn y Rhwydwaith MPA

  • Prosiect Rheoli Rhywogaethau Goresgynnol Morol (INNS) a Chynllunio Bioddiogelwch Rhwydwaith Eang Arolwg Mamaliaid Morol Acwstig Cymreig (WAMMS)

  • Prosiect Sbwriel Morol

  • Prosiect casglu abwyd

 

Pa swyddi sydd ar gael?

Isod ceir rhestr lawn o'r swyddi morol newydd. Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer nifer o swyddi - un ffurflen gais fesul swydd o'r un radd - yn ogystal â cheisiadau am secondiadau.  Os oes gennych ddiddordeb mewn secondiad, trafodwch gyda'ch cyflogwr a chysylltwch â CNC cyn gynted â phosibl.

Arweinydd Tîm: Prosiectau Morol (203179) – Fel arweinydd y tîm newydd hwn yn CNC byddwch yn gyfrifol am arwain a goruchwylio tîm o arbenigwyr technegol i gyflawni amrediad o brosiectau ymarferol i wella ansawdd dŵr, darparu atebion seiliedig ar natur a gwella cyflwr nodweddion Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru. 

Swyddog Asesu Amgylcheddol Morol (203183) Yn y rôl hon byddwch yn gweithio o fewn y Tîm Prosiectau Morol newydd. Byddwch yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r prosiect Gwella Cyngor ar Gadwraeth, gan gynhyrchu asesiadau cyflwr a chyngor cadwraeth newydd ar gyfer holl AGAau ac ACAau morol Cymru. 

Swyddog Arbenigol, Rheoli Rhynglanwol (203181) Yn y rôl hon, byddwch yn gweithio o fewn y tîm Prosiectau Morol newydd. Byddwch yn rheoli’r gwaith a fydd yn ymchwilio, datblygu a chyflawni camau rheoli sy’n ymwneud â gweithgarwch casglu abwyd ledled Cymru. 

Uwch Swyddog Asesu Amgylcheddol Morol (203180) Yn y rôl hon byddwch yn gweithio o fewn y Tîm Prosiectau Morol newydd. Byddwch yn arwain y gwaith o gyflawni prosiectau sy’n ymchwilio i’r rhesymau dros ddirywiad amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau yn y rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig. 

Swyddog Asesu Amgylcheddol Morol (203184) Yn y rôl hon byddwch yn gweithio o fewn y Tîm Prosiectau Morol newydd. Byddwch yn cefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau sy’n ymchwilio i’r rhesymau dros y dirywiad mewn amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau yn y rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig. 

Swyddog, Prosiectau Morol (203182) Yn y rôl hon byddwch yn gweithio o fewn y tîm Prosiectau Morol newydd. Byddwch yn cefnogi cynllun gweithredu i fynd i’r afael â sbwriel morol. 

Cynghorydd, Rhwydweithiau Natur Morol (203189) Yn y rôl hon byddwch yn gweithio o fewn y tîm Cynllunio a Pholisi Morol ac Arfordirol. Byddwch yn cefnogi gwaith a fydd yn gwella ein dealltwriaeth o golli cynefinoedd morol ac arfordirol o ganlyniad i wasgfa arfordirol. 

Cynghorydd, Ecoleg Forol, Rhwydweithiau Natur (203190)  Yn y rôl hon, byddwch yn gweithio o fewn y Tîm Ecosystemau Morol ac Arfordirol.  Byddwch yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu’r sail tystiolaeth mewn perthynas â chasglu abwyd ac yn helpu i sefydlu Arolwg Acwstig Mamaliaid Morol Cymru. 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru