Llythrennedd Morol - ein cysylltiad â'n moroedd

Kath ydw i ac rwy’n uwch gynghorydd ar gyfer y Datganiad Ardal Morol (MAS), sydd wedi’i ategu gan y gwaith y mae pawb yn adrannau morol CNC (ac yn ehangach!) yn ei wneud.

Kath ydw i ac rwy’n uwch gynghorydd ar gyfer y Datganiad Ardal Morol (MAS), sydd wedi’i ategu gan y gwaith y mae pawb yn adrannau morol CNC (ac yn ehangach!) yn ei wneud. Daw Datganiadau Ardal o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae 7 yn cwmpasu Cymru ac mae pob un yn amlinellu'r heriau allweddol sy'n wynebu'r ardal honno, yr hyn y gallwn oll ei wneud i fodloni'r heriau hynny, a sut y gallwn reoli ein hadnoddau naturiol er budd cenedlaethau’r dyfodol. Mae 3 thema blaenoriaeth ar gyfer y MAS sydd wedi’u hymgorffori yn y gwaith y mae CNC yn ei wneud, sef:

Ochr yn ochr â'r rhain mae 4 thema trosfwaol sy'n torri ar draws y themâu blaenoriaeth. Un o'r rhain yw “Ailgysylltu pobl ag arfordiroedd a moroedd Cymru” a dyma le daw rhywbeth o'r enw llythrennedd morol i rym. Gadewch i mi osod y cefndir - mae'r cefnfor yn bwysig - mae'n rheoleiddio llawer o brosesau byd-eang fel yr hinsawdd a'n tywydd, mae'n gwneud y ddaear yn drigiadwy, mae'n sinc carbon enfawr ac mae'n cynnal llawer iawn o fioamrywiaeth, bywyd ac ecosystemau. Mae'r ffordd rydyn ni'n byw ein bywydau yn dylanwadu ar iechyd y môr, o ble mae ein hegni'n dod, i'r bwyd rydyn ni'n ei fwyta. Llythrennedd morol, ar ei ffurf symlaf, yw “deall eich dylanwad unigol a chyfunol ar y môr, a’i ddylanwad arnoch chi”. Mae llythrennedd morol yn esblygu o astudiaeth academaidd i fod yn rhan o gymdeithas sy'n cynnwys pethau fel dysgu yn yr ysgol, gwyddor dinasyddion, hyfforddiant corfforaethol, ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd, y rhyngwyneb polisi gwyddoniaeth.

Mae llawer o wahanol gydrannau i “lythrennedd morol” gan gynnwys ymwybyddiaeth, gwybodaeth, agwedd, gweithrediaeth, ymddygiad, cysylltiad emosiynol, mynediad, profiad ac agosrwydd at y môr. Gallai cael Cymru sy’n fwy llythrennog yn forol gefnogi rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol trwy ddewisiadau ac ymddygiad “gwyrddach” o ran ffordd o fyw. Gallai newidiadau ymddygiad gynnwys pethau fel cefnogi mwy o fusnesau lleol fel cynhyrchwyr bwyd môr, newid i gyflenwyr ynni adnewyddadwy, defnyddio mwy o drafnidiaeth gyhoeddus a defnyddio llai yn gyffredinol. Fel sefydliad, nod CNC yn y pen draw yw rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, felly mae'n bwysig ein bod yn cefnogi llythrennedd morol yng Nghymru.

Er mwyn deall llythrennedd morol yng Nghymru, mae’n hanfodol casglu data sylfaenol. Mewn arolwg cydweithredol, mae CNC gyda Defra, Llywodraeth yr Alban a’r Ocean Conservation Trust wedi cynnal arolwg i asesu lefelau llythrennedd morol yn y DU. Heddiw, mae CNC wedi cyhoeddi prif ganlyniadau Cymru. Mae'r arolwg yn asesu faint mae'r cyhoedd yn ei ddeall ac yn ymwybodol o'r manteision a gânt o'r môr a'r arfordir. Mae hefyd yn nodi ymddygiadau cadarnhaol tuag at yr amgylchedd ymhlith y cyhoedd mewn perthynas â'r amgylchedd morol, megis lleihau'r defnydd o blastig untro. Mae’r arolwg yn mesur agweddau tuag at warchod y môr a’r arfordir, gan gynnwys bwriadau ar gyfer newid yn y dyfodol. Mae hefyd yn gofyn sut a phryd mae pobl yn ymweld â’r môr a’r arfordir, i ble maen nhw’n mynd a beth maen nhw’n ei wneud yno, ac a yw pobl yn deall sut mae’r môr a’r arfordir yn effeithio ar les corfforol a meddyliol.

Canfyddiadau allweddol yr arolwg oedd:

  • Roedd tua 80% o'r ymatebwyr yn teimlo bod ymweld â'r môr a'r arfordir yn cynnig buddion iechyd meddwl a chorfforol
  • Ystyriwyd mai llygredd sbwriel morol / plastig oedd y pwysau oedd yn peri'r bygythiad mwyaf i fôr ac arfordir Cymru
  • Roedd bron hanner yr ymatebwyr yn teimlo nad yw eu ffordd o fyw yn cael unrhyw effaith ar yr amgylcheddau morol ac arfordirol yng Nghymru
  • Roedd y rhan fwyaf (83%) yn teimlo ei bod hi'n bwysig diogelu'r amgylchedd morol
  • Roedd cyfran fawr o'r ymatebwyr o Gymru eisiau gwneud newidiadau i'w ffordd o fyw er mwyn diogelu ein môr a'n harfordir, ymhlith y pethau y mae pobl eisoes yn eu gwneud y mae:
    • ailgylchu mwy,
    • lleihau'r defnydd o blastig untro
    • lleihau galwadau ynni mewn cartrefi
  • Gan amlaf, cafodd pobl eu gwybodaeth am y cefnfor o raglenni dogfen natur a'r newyddion
  • Y cyrchfannau mwyaf poblogaidd i ymwelwyr oedd traethau tywodlyd a threfi arfordirol

Mae canlyniadau'r arolwg yn dangos bod pobl yn credu mai llygredd plastig yw'r bygythiad mwyaf i'n môr a'n harfordir, fodd bynnag, mae’r dystiolaeth orau sydd ar gael gan Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR) yn pwyntio i effeithiau yn sgil newid yn yr hinsawdd megis llifogydd arfordirol a gwasgfa arfordirol fel y rhai sy’n peri'r bygythiad mwyaf. Mae potensial enfawr i bawb yng Nghymru i ddod i gysylltiad gwell â'n hamgylchedd morol gwych drwy ddealltwriaeth, gwybodaeth, mynediad, cysylltiad emosiynol ayyb. Gallai gwella mynediad ac ymgysylltu â'r amgylchedd morol ac arfordirol gefnogi buddion uniongyrchol ac ehangach i unigolion a chymunedau yn gyffredinol. Gall manteision uniongyrchol gynnwys treulio mwy o amser ar yr arfordir yn cerdded, nofio dŵr oer neu wneud gweithgareddau hamdden eraill sy'n cefnogi lles corfforol a meddyliol unigol. Gallai buddion ehangach gynnwys cael eu hail-hyfforddi mewn gwyddorau eigion ar gyfer cyflogaeth yn y sector rheoli amgylcheddol neu adnewyddadwy, gwirfoddoli ar gyfer prosiectau cadwraeth arfordirol, pleidleisio yn seiliedig ar bolisïau o blaid yr amgylchedd neu ddisodli’r car gyda beic a thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy yn rhywbeth y gallwn ni i gyd gymryd rhan ynddo.

Gall canlyniadau'r arolwg hwn helpu i gefnogi pob rhan o waith MAS, yn enwedig y weithred drawsbynciol o 'Ailgysylltu pobl â'r môr'. Mae'r canlyniadau'n darparu'r data sydd ei angen fel sylfaen ar gyfer strategaeth i gefnogi llythrennedd cefnforol yng Nghymru sy'n cael ei weithredu dan "Agenda Adfer Glas" Llywodraethau Cymru.

Dywedodd Julie James AoS, Gweinidog Newid yn yr Hinsawdd, Llywodraeth Cymru:

Yng Nghymru, mae gennym arfordir prydferth ac amrywiol, gyda 60% o boblogaeth Cymru’n byw ar yr arfordir neu'n agos ato. Mae meithrin llythrennedd morol yn allweddol i gefnogi cysylltiad iach rhwng pobl a'r môr. Mae'r arolwg hwn yn darparu data sylfaenol sy'n gallu llywio camau i gryfhau'r buddion o ran iechyd a lles sy’n deillio o amgylcheddau morol ac arfordirol Cymru. Bydd y canlyniadau hyn yn cyfrannu’n uniongyrchol at waith Partneriaeth Arfordiroedd a Moroedd Cymru sy'n amlygu llythrennedd cefnforol fel blaenoriaeth i wella sut rydym yn rheoli a defnyddio ein harfordiroedd a'n moroedd yng Nghymru.

Ar dirwedd wleidyddol, mae sawl mudiad yn dod ynghyd i flaenoriaethu pwysigrwydd llythrennedd morol fel allwedd i reoli ein harfordir a'n môr. Mae'r rhain yn cynnwys Degawd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Gwyddoniaeth Eigion, Datganiadau Ardal a'r Agenda Adfer Glas. Yng Nghymru mae nifer sylweddol o brosiectau eisoes yn mynd rhagddynt i gefnogi llythrennedd y cefnfor, ac rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i gefnogi a rhannu dulliau a dysgu er budd pawb.

Os ydych eisiau cael y wybodaeth ddiweddaraf am y daith llythrennedd cefnforol yng Nghymru, cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr morol CNC.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru