Prosiect Twyni Byw am waredu prysgwydd er mwyn adfywio glaswelltir twyni yn Niwbwrch

Rydym yn rheoli llawer o brosiectau anhygoel ledled Cymru, gan warchod llawer o safleoedd a helpu'r bywyd gwyllt sy'n eu galw’n gartref. Leigh Denyer, Swyddog Prosiect a Monitro Gogledd Twyni Byw, sy’n dweud mwy wrthym am waith sydd ar fin cychwyn yn Niwbwrch...

Bydd ein prosiect Twyni Byw yn dechrau ar waith i gael gwared ar brysgwydd ymledol yn Niwbwrch er mwyn diogelu'r cynefin twyni tywod gwerthfawr hwn.

Fel rhan o’n gwaith byddwn yn cael gwared â phlanhigion goresgynnol estron, fel rhafnwydden y môr, y rhosyn amlflodeuog, llin Seland Newydd a’r boplysen wen yn Niwbwrch er mwyn rhoi hwb i laciau a glaswelltir twyni sy'n llawn blodau gwyllt.

Bydd hyn yn darparu'r amodau sydd mor hanfodol i oroesiad rhai o blanhigion a phryfed mwyaf prin Gymru, fel y petal-lys, sef math o lys yr afu, a gwenynen durio’r gwanwyn.

Bydd rhan yma’r gwaith yn dechrau ar Twyni Penrhos yng nghornel ogledd-orllewinol y system dwyni. Bydd cael gwared â rhywogaethau anfrodorol yn adfer cydbwysedd naturiol y cymunedau ecolegol ac yn caniatáu i blanhigion twyni sy'n tyfu'n isel ffynnu. Bydd y gwaith yn rhoi hwb hollbwysig i'r rhywogaethau sy'n dibynnu ar dwyni iach er mwyn iddynt oroesi.

Ymhlith yr amcanion eraill sydd ar y gweill ar gyfer Niwbwrch dros y misoedd nesaf mae ail-greu cynefin llaith; hyrwyddo pori cynaliadwy gan dda byw a chwningod; rheoli prysgwydd mewn llennyrch a thorri glaswellt ar y twyni i annog blodau gwyllt.

Pam bod angen i’r gwaith yma ddigwydd?

Mae twyni tywod yn un o gynefinoedd mwyaf prin Ewrop ac maent yn cefnogi cymunedau o blanhigion ac anifeiliaid hynod arbenigol a chyfoethog.

Fodd bynnag, dros yr 80 mlynedd diwethaf, mae tywod agored wedi diflannu i raddau helaeth o dwyni Cymru, ac yn ei le ceir glaswellt a phrysgwydd trwchus. Mae ein twyni wedi eu sefydlogi, ac mae bywyd gwyllt prin wedi dirywio. Mae'r newid hwn wedi cael ei achosi gan ffactorau fel cyflwyno planhigion anfrodorol, diffyg pori traddodiadol, dirywiad ym mhoblogaeth cwningod a llygredd aer.

Mae ein prosiect wedi derbyn y dasg o helpu i adfywio twyni tywod ledled Cymru. Bydd ein prosiect yn adfer dros 2,400 hectar o dwyni tywod, ar draws pedair Ardal Cadwraeth Arbennig, ar 10 safle gwahanol yng Nghymru. Mae ein prosiect yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2022.

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith yn Niwbwrch neu ar safleoedd eraill ledled Gymru, cysylltwch â SoLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru