Blwyddyn arall o bartneriaeth mewn canolfan beicio mynydd

Mae partneriaeth yn edrych ymlaen at flwyddyn arall o helpu pobl i droi at eu beiciau.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Beics Brenin a Pedal MTB, yn cychwyn ar eu hail flwyddyn o bartneriaeth yng Nghoed y Brenin, ger Dolgellau, gan gynnig beiciau i’w llogi, hyfforddiant a digwyddiadau i ymwelwyr.

Coed y Brenin oedd canolfan beicio mynydd bwrpasol gyntaf Prydain ac mae'n dal i fod yn un o brif gyrchfannau'r gamp.

Mae Beics Brenin, sy'n cynnig gwasanaeth llogi a thrwsio beiciau, yn gweithio gyda chwmni digwyddiadau a hyfforddi Pedal MTB, i annog y 180,000 o ymwelwyr blynyddol y safle i feicio mynydd.

Darparwyd yr hyn sy’n cyfateb i 571 diwrnod o hyfforddiant yng Nghoed y Brenin rhwng Ionawr a Medi'r llynedd, gyda chyrsiau'n cynnwys gwersylloedd i blant, hyfforddiant grŵp i deuluoedd, teithiau tywys, sgiliau craidd a hanfodion yn ogystal â hyfforddiant ac asesiadau Beicio Prydain.

Yn ystod digwyddiadau a drefnwyd ar Ebrill 30 a Mai 1 y llynedd ar gyfer gweithwyr allweddol yn ystod y pandemig, cynhaliwyd 76 o sesiynau hyfforddi am ddim, gyda chwarter o’r mynychwyr yn newydd i feicio mynydd.

Dywedodd Nia Brunning, Arweinydd Tîm Canolfannau Ymwelwyr CNC ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru:

“Bydd 2023 yn flwyddyn gyffrous arall yng Nghoed y Brenin gyda Beics Brenin a Pedal MTB yn sicrhau gwasanaeth o safon i roi cyfleoedd hyfforddi a beiciau i’w llogi i bobl o bob oed.
“Byddwn hefyd yn gweithio gyda Pedal MTB i gynnal nifer o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn i annog mwy o bobl i ddod i brofi popeth sydd gan Coed y Brenin i’w gynnig.
“Mae bod yn yr awyr agored ac ymweld â llefydd fel Coed y Brenin yn helpu i ailgysylltu pobl â byd natur i ddeall yr amgylchedd yn well a’r rôl y mae’n ei chwarae yn eu bywydau, yn ogystal â helpu i gadw’n heini ac yn egnïol.
“Mae ein hymwelwyr yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r economi leol a chynaliadwy ac mae’r gwaith partneriaeth hwn yn helpu i gynnal y safle gwych sydd gennym yma.
“Mae’r safle poblogaidd hwn yn cynnig y cyfle i ni reoli darn mawr o dir mewn ffordd gynaliadwy.”

Dywedodd Toby Bragg, Rheolwr Digwyddiadau a Chyfathrebu, Beics Brenin:

“Mae ein partneriaeth gyda Pedal MTB a Cyfoeth Naturiol Cymru yn caniatáu i feicwyr wynebu heriau newydd yn hyderus ac ennill sgiliau newydd trwy gael hwyl wrth ddysgu a llogi beiciau.
"Mae'r budd yn amlwg: rydyn ni’n ei weld yn natblygiad y beicwyr ac yn yr wynebau sy’n wên o glust i glust ar ddiwedd diwrnod o hyfforddiant neu feicio.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at eleni pan fyddwn ni’n cyflwyno amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi newydd ac yn parhau i ehangu’r cyfleoedd hyfforddi yng Nghoed y Brenin.”

Dywedodd Al Seaton o Pedal MTB:

“Rydyn ni’n hynod falch o barhau â’n partneriaeth fel bod beicwyr yn gallu cael mynediad at y profiad beicio mynydd gorau yng Nghoed y Brenin.
"Mae Pedal MTB, Beics Brenin a CNC yn rhannu’r un nod, sef darparu amrywiaeth dda o opsiynau hyfforddi o ansawdd uchel, gan roi mynediad hawdd at sgiliau a gwybodaeth a fydd yn gwella diogelwch, yn magu hyder ac yn helpu beicwyr i fwynhau eu hamser ar y llwybrau’n well.”