Gwiriwch, Glanhewch a Sychwch i ddiogelu ein dyfroedd rhag plâu a chlefydau

Wrth i'r tymor pysgota newydd ddechrau, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog defnyddwyr hamdden afonydd a dyfrffyrdd y wlad i chwarae eu rhan i helpu i fynd i'r afael â lledaeniad plâu a chlefydau a gludir gan ddŵr.

Nod yr ymgyrch "Gwirio, Glanhau, Sychu" yw addysgu defnyddwyr dŵr rheolaidd am y ffordd y gallant gludo planhigion ac anifeiliaid dyfrol yn ddiarwybod iddynt, ar gyfarpar megis caiacau ac offer pysgota, gan fygwth amgylchedd dŵr bregus Cymru.

Wrth i Gymru baratoi i symud o'r cyfyngiadau coronafeirws aros gartref i rai aros yn lleol, mae CNC yn annog pobl sy'n bwriadu ymweld ag afonydd y wlad dros yr wythnosau nesaf i helpu i ddiogelu'r lleoedd arbennig hyn drwy ddilyn rhai camau syml.

Eglurodd Pete Gough, Prif Gynghorydd Pysgodfeydd CNC:

"Mae planhigion ac anifeiliaid goresgynnol o bob cwr o'r byd wedi cael eu cyflwyno'n ddamweiniol i ddyfroedd Cymru dros y blynyddoedd, gan achosi problemau amgylcheddol difrifol yn ogystal ag atal pobl rhag cyflawni eu gweithgareddau sy'n gysylltiedig â dŵr.
"Rydym yn annog pysgotwyr, cychod a chanŵwyr i arfer technegau 'Gwirio, Glanhau a Sychu' i helpu i atal lledaeniad rhywogaethau estron goresgynnol (INNS) yn ein dyfroedd drwy sicrhau bod eu cyfarpar, eu dillad a'u cychod yn rhydd o anifeiliaid dyfrol a malurion planhigion ar ôl eu defnyddio."

 Mae Canllawiau 'Gwirio, Glanhau a Sychu' yn nodi:

  • GWIRIO: Gwiriwch eich offer, eich cwch a’ch dillad ar ôl gadael y dŵr am fwd, anifeiliaid dyfrol neu ddeunydd planhigion. Tynnwch bopeth rydych chi'n dod o hyd iddo a'i adael ar y safle.
  • GLANHAU: Glanhewch bopeth yn drylwyr cyn gynted ag y gallwch, gan roi sylw i ardaloedd sy'n llaith neu'n anodd cyrraedd atynt. Defnyddiwch ddŵr poeth os oes modd.
  • SYCHU: Sychwch bopeth cyhyd ag y gallwch cyn ei ddefnyddio yn rhywle arall gan y gall rhai anifeiliaid a phlanhigion goresgynnol oroesi am fwy na phythefnos mewn amodau llaith.

Ychwanegodd Pete:

"Drwy ddilyn y canllawiau 'Gwirio, Glanhau a Sychu’ gallwn helpu i leihau'n sylweddol y risg o ledaenu rhywogaethau a chlefydau niweidiol ar draws dyfrffyrdd Cymru.
"Gall y weithred syml o gludo un darn o blanhigyn neu anifail i ardal arall gael effaith ddinistriol ar ein planhigion a'n hanifeiliaid brodorol. Gall hyn yn ei dro gael effaith andwyol ar dwristiaeth, hamdden a busnesau sy'n dibynnu ar y dyfroedd yr effeithir arnynt.
"Unwaith y bydd rhywogaeth anfrodorol yn cyrraedd lleoliad newydd gall fod yn anodd ac weithiau'n amhosibl cael gwared arni. Atal yw'r ffordd orau o ddiogelu ein hamgylchedd naturiol am genedlaethau i ddod."

I gael gwybod mwy am yr ymgyrch 'Gwirio, Glanhau a Sychu' ewch i wefan yr Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron yn Check, Clean, Dry - GB non-native species secretariat ac i gael rhagor o wybodaeth am atal clefydau rhag lledaenu ymysg pysgod ewch i wefan CNC https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/business-sectors/fisheries/disinfecting-tackle-to-control-fish-disease/?lang=cy