Gwaith adeiladu i gychwyn ar gyfer cynllun llifogydd Llyswyry yng Nghasnewydd

Cyfoeth Naturiol Cymru logo

Disgwylir i waith adeiladu ddechrau ym mis Chwefror eleni ar gynllun newydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i amddiffyn rhag llifogydd ar hyd Afon Wysg yn Llyswyry.

Bydd y cynllun yn lleihau perygl llifogydd i dros 2,000 eiddo yn yr ardal ac mae'n cynnwys cryfhau rhannau o'r arglawdd presennol ar hyd glan ddwyreiniol yr afon, sy’n 1350m o hyd, ac adeiladu muriau llifogydd newydd, codi adran o briffordd a gosod llifddor fawr.

Mae cartrefi a busnesau yn Llyswyry’n agored i lifogydd o afon Wysg drwy rai mannau isel yn yr amddiffynfeydd presennol yn ystod cyfnodau o law trwm a llanw uchel – yn fwyaf diweddar yn ystod storm Dennis ym mis Chwefror 2020.

Mae cyfleusterau a seilwaith hamdden fel yr A48, Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, Stadiwm Casnewydd a Pharc y Ddraig hefyd mewn perygl.

Er mwyn lleihau’r perygl llifogydd, bydd y cynllun newydd yn codi rhannau o'r arglawdd pridd presennol wrth ymyl Stryd Stephenson ac yn adeiladu muriau llifogydd newydd, adran uwch o briffordd a llifddor yn ardaloedd diwydiannol Felnex a Corporation Road.

Disgwylir i'r gwaith o glirio llystyfiant ar hyd ardal y cynllun o Barc Coronation i Liberty Steel ddechrau ym mis Chwefror. Bydd gwaith paratoi ar gyfer yr adran uwch o briffordd yn cychwyn ym mis Mawrth a bwriedir dechrau’r gwaith i dyrchu a gosod wal gynnal ar gyfer y briffordd ym mis Ebrill.

Cyn i’r gwaith ddechrau, mae trigolion a busnesau lleol yn cael eu gwahodd i ymuno â staff o CNC mewn digwyddiad galw heibio 12:00 – 7:00pm ar 19 Ionawr yn Sefydliad Lysaght yng Nghasnewydd, i ddysgu mwy a gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt cyn i’r gwaith ar y cynllun ddechrau ym mis Chwefror.

Dywedodd Tim England, Swyddog Gweithrediadau CNC ar gyfer Rheoli Llifogydd a Dŵr:

Mae ein hasesiad risg, a ategir gan ein modelau llifogydd, yn nodi bod perygl llifogydd uchel yn Llyswyry, ac rydym yn falch o gadarnhau y bydd gwaith adeiladu i leihau’r perygl yn yr ardal hon yn dechrau eleni. 
Bydd adeiladu a chynnal cynlluniau llifogydd bob amser yn rhan allweddol o waith rheoli perygl llifogydd Cymru yn y dyfodol. Ond rydym yn gwybod bod maint a her newid yn yr hinsawdd yn sylweddol a bod peryglon llifogydd yn cynyddu. 
Byddem yn annog pobl i ddod i’n digwyddiad galw heibio ar 19 Ionawr i siarad â’n staff a gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt cyn i’r gwaith ddechrau.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd: 

Wrth i ni barhau i fynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd, rydym yn wynebu risg uwch o lifogydd yn sgil tywydd newidiol ac anrhagweladwy. Roedd Storm Dennis yn enghraifft glir o pam bod angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i liniaru a rheoli'r risg o lifogydd i gymunedau ledled Cymru.
Rwy'n falch o allu cefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru gyda chyllid gwerth £21 miliwn o'n Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol er mwyn adeiladu muriau newydd ar hyd afon Wysg ac er mwyn gwella'r arglawdd presennol.
Bydd y cynllun hwn yn lleihau'r risg o lifogydd i fwy na 2000 o adeiladau ac eiddo, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhoi llawer o sicrwydd i'r cymunedau hynny yng nghyffiniau Llyswyry.
Mae prosiectau fel y rhain yn rhan allweddol o'n strategaeth i reoli’r risg o lifogydd. Edrychwn ymlaen at gwblhad y cynllun hwn yn Llyswyry, a hoffem ddiolch i Cyfoeth Naturiol Cymru a’r contractwyr am eu dull cydweithredol o ran ymgysylltu â'r gymuned cyn i'r gwaith ddechrau.

Amcangyfrifir mai £22m fydd cost y cynllun ac fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru. Llwyddodd CNC i benodi Alun Griffiths fel y prif gontractwr i wneud y gwaith ym mis Rhagfyr 2022.

Yn ogystal â lleihau perygl llifogydd i’r gymuned, bydd y cynllun hefyd yn gwella mannau gwyrdd cymunedol a’r rhan o Lwybr Arfordir Cymru sydd gerllaw.

Mae hyn yn cynnwys llwybr troed newydd ym Mharc Coronation sy’n cysylltu â Llwybr Arfordir Cymru i greu llwybr cerdded cylchol gyda llwyfannau gwylio newydd ar draws Afon Wysg.

Mae tair 'coedwig drefol' newydd sy’n cynnwys 1,600 o goed ifanc newydd hefyd yn yr arfaeth ar gyfer Parc Coronation i gymryd lle tua 650 o goed a llwyni y bydd angen eu tynnu fel rhan o'r gwaith adeiladu.

Mae diweddariadau pellach i'r cynllun hefyd i'w gweld ar dudalen ymgynghori CNC ar-lein.

Gall pobl weld eu perygl llifogydd yn ôl cod post ar wefan CNC.