Cyfuno creadigrwydd a gwyddoniaeth ar safle cadwraeth Ynys Môn

Bu plant ysgol o Ynys Môn yn cyfuno gwyddoniaeth, cadwraeth amgylcheddol a chelf yn ystod ymweliad â chynefin mawndir yn gyfoeth o fywyd gwyllt.

Aeth disgyblion Ysgol y Talwrn draw i Warchodfa Natur Genedlaethol Cors Bodeilio i gwrdd â'r artist Manon Awst, i ddysgu am hanes y gors a phwysigrwydd mawndiroedd.

Rhan o waith Manon, ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chanolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor, yw creu cerflun sy’n archwilio gwerth ecolegol mawndiroedd - storfeydd carbon daearol mwyaf effeithiol Cymru.

Cafodd y prosiect ei ariannu gan gyllid Cyngor Celfyddydau Cymru a bydd yn dod i ben pan fydd y cerflun newydd yn cael ei ddadorchuddio yng Nghors Bodeilio yn ddiweddarach eleni. Mae’r prosiect hefyd yn datblygu ochr yn ochr â'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru er mwyn adfer a rheoli mawndiroedd.

Cyn yr ymweliad, bu disgyblion hynaf yr ysgol yn cymryd rhan mewn gweithdy gyda Manon, gan arbrofi gyda deunyddiau lleol a chyfansoddi ‘Cerddi Corsiog’. Tra’r oeddent ar y safle cawsant eu hannog i archwilio, braslunio ac ymateb i'r hyn y gellid ei weld yn tyfu ar y mawndir.

Mae Manon, a gafodd ei magu ar yr ynys ac sy’n astudio ar gyfer doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd, yn creu cerfluniau a gweithiau celf safle-benodol wedi'u gwau â naratifau ecolegol.

Meddai: “Roedd hwn yn gyfle ardderchog i weld Cors Bodeilio o'r newydd drwy lygaid disgyblion Ysgol y Talwrn ac esbonio sut mae gan y dirwedd wastad a thawel hon stori sydd angen ei hadrodd yng nghyd-destun newid hinsawdd a bioamrywiaeth.
“Mae'r safle unigryw hwn ar garreg eu drws, a fy ngobaith i yw y bydd y gweithdai yn tanio eu dychymyg ac yn annog cysylltiad dwfn â'r corsydd - rhywbeth a fydd yn aros gyda nhw am flynyddoedd i ddod. Mae hynny'n hanfodol os ydym yn dymuno gweld mawndiroedd fel hyn yn cael gofal a pharch gan genedlaethau'r dyfodol.”

Dywedodd Dr Peter Jones, Arbenigwr Arweiniol CNC ar fawndiroedd:

“Mae Adfer Mawndir Cymru yn ymwneud ag adfer mawndiroedd i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd er budd cenedlaethau'r dyfodol, felly mae'n ardderchog gweld disgyblion Ysgol y Talwrn yn dysgu ac yn ymddiddori yn un o asedau tir mwyaf gwerthfawr Cymru, a hynny ar eu stepen drws.
“Mae defnyddio gwyddoniaeth a chreadigrwydd i ddysgu am natur, fel sy’n digwydd ym mhrosiect Manon, yn ddull effeithiol o arsylwi a darganfod er mwyn gallu trysori bioamrywiaeth gyfoethog y ffen galchog a rhinweddau eithriadol y mawn o ran storio carbon a rheoleiddio allyriadau nwyon tŷ gwydr niweidiol.”

Gallwch wrando ar Manon yn siarad mwy am y prosiect ar bodlediad amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gael drwy Spotify, Deezer, Amazon Music.