Lluniau tanddwr cyntaf o Faelgi prin wedi’u tynnu yng Nghymru

Plymiwr lleol wedi tynnu lluniau a chael y fideos tanddwr cyntaf erioed o Faelgwn ifanc, rhywogaeth sydd mewn Perygl Difrifol - gan gadarnhau bod y rhywogaeth yn bridio yn nyfroedd y DU.

Mae lluniau anhygoel o Faelgi ifanc (Squatina squatina) wedi'u tynnu’r wythnos hon gan ddeifiwr lleol a biolegydd morol, Jake Davies, yng Ngogledd Bae Ceredigion oddi ar arfordir Cymru. Dyma'r tro cyntaf i'r rhywogaeth gael ei ffilmio o dan y dŵr yn y DU, ac mae o bwysigrwydd cadwraethol mawr, gan ei fod yn darparu tystiolaeth ychwanegol bod Maelgwn yn defnyddio dyfroedd Cymru i roi genedigaeth. Gwyliwch y fideo o'r Maelgi.

Dywedodd Jake Davies, Cydlynydd Prosiect Maelgi: Cymru "Rwyf wastad wedi cadw llygaid i weld os welwn i Faelgwn wrth ddeifio, ar ôl gweithio i gael gwell dealltwriaeth o’r rhywogaeth dros y pedair blynedd diwethaf! Doeddwn i ddim yn gallu credu'r peth pan welais y Maelgi, a beth oedd yn hynod gyffrous oedd mai ifanc oedd y siarc, dim ond 30cm o hyd. Roedd yn anhygoel ei wylio a'i ffilmio'n nofio, yn cloddio i'r tywod ac yna'n defnyddio ei guddliw i ymosod ar ei ysglyfaeth. Mae'r clip ffilm yma lawer gwell na’r disgwyliadau oedd gennym ni o recordio’r rhywogaeth yng Nghymru.”

Ar Restr Goch yr IUCN o rywogaethau sydd dan fygythiad, mae'r Maelgi wedi'i restru mewn Perygl Difrifol yn dilyn gostyngiad yn eu niferoedd dros y 50 mlynedd diwethaf. Mae Prosiect Maelgi: Cymru (PM:C) yn brosiect cydweithredol dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chymdeithas Swoleg Llundain (ZSL). Mae'r prosiect yn gweithio gyda chymunedau a physgotwyr lleol i gasglu cofnodion o’r Maelgi, ochr yn ochr â chynnal ymchwil i ddeall ecoleg y rhywogaeth yng Nghymru yn well. Ariennir PM:C ar hyn o bryd gan On the EDGE Conservation a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Joanna Barker, Cyd-sylfaenydd Prosiect Maelgi ac Uwch Reolwr Prosiect yn ZSL: "Mae'r clip ffilm yma’n cefnogi ein rhagdybiaeth bod Maelgwn yn rhoi genedigaeth mewn dyfroedd ledled Cymru. Mae ei faint (30cm) a’r marciau gwynion ar ymylon yr esgyll dorsal yn dangos bod y maelgi wedi'i eni eleni, gan gadarnhau bod gennym boblogaeth fridio weithredol yng Nghymru. Mae hyn yn hynod ddefnyddiol i lywio ein hymdrechion cadwraeth, yn enwedig gan fod Cymru'n gartref i un o boblogaethau fwyaf gogleddol olaf y Maelgi o fewn eu hardaloedd byw.”

Mae Maelgwn yn cael eu gwarchod yng Nghymru, gan eu bod wedi’u cynnwys yn y 'Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad' a 'Deddf yr Amgylchedd (Cymru)', ac mae'n drosedd i dargedu neu i darfu ar y rhywogaeth yma. Bu lansio Cynllun Gweithredu Maelgi Cymru gan PM:C y llynedd, sy’n nodi’r camau blaenoriaeth i ddiogelu'r rhywogaeth yma yng Nghymru.

Ychwanegodd Ben Wray, Ecolegydd Morol a Rheolwr Prosiect yn CNC: "Ychydig a wyddwn am statws, ecoleg neu leoliad cynefinoedd pwysig ar gyfer Maelgwn yng Nghymru. Dim ond 4% o gofnodion am y Maelgi a gasglwyd gan PM:C sydd o rai ifanc hyd yma, felly mae'r clip ffilm hwn yn eithriadol o bwysig. Mae'n ychwanegu at ein dealltwriaeth o ecoleg y Maelgi, gan gynnwys eu bod yn defnyddio cynefinoedd tywod a chymysg a bod yr ifanc yn ysglyfaethu gobïod. Byddwn yn defnyddio'r dystiolaeth yma i helpu i gynllunio ymchwil yn y dyfodol a darganfod mwy am y rhywogaeth brin yma yng Nghymru"

 

Os oes gennych gofnod o’r Maelgi neu os ydych wedi dod ar draws y rhywogaeth yma’n ddamweiniol wrth bysgota, rhowch wybod i www.angelsharkproject.com/map a dilyn y canllawiau arfer gorau.