Dirwy i bum dyn am bysgota heb drwyddedau yng Nghronfa Ddŵr Clywedog

Cafwyd pump o ddynion yn euog o bysgota heb drwydded yng Nghronfa Ddŵr Llyn Clywedog yn Llys Ynadon Caerdydd (28 Hydref).

Cafodd y pump eu canfod a'u herlyn gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am droseddau a ddigwyddodd ger y gronfa ddŵr ger Llanidloes ym Mhowys ar 21 Mai 2022.

Cafodd David Manns, Gareth Parks, Stuart Reed, Macauley Simpson a Richard Ward orchymyn i dalu dirwyon o £220, £192, £164, £133 a £192 yn y drefn honno.

Yn ogystal, cafodd y pump eu gorchymyn i dalu costau CNC o £98 yr un a gordal dioddefwr o £34 yr un.

Dywedodd Jeremy Goddard, Arweinydd Tîm Gwastraff a Gorfodi Canolbarth Cymru ar gyfer CNC:
"Mae'n rhaid i chi gael trwydded pysgota gwialen ar gyfer Cymru a Lloegr os ydych chi'n pysgota am eog, brithyll, pysgod dŵr croyw, brwyniaid neu lysywod gyda gwialen a llinell. Gallech gael dirwy o hyd at £2,500 a gallai'ch offer pysgota gael ei atafaelu os ydych chi'n pysgota ac ni allwch ddangos trwydded bysgota gwialen ddilys.
"Nid oes angen trwydded ar blant dan 13 oed ac mae trwyddedau i blant rhwng 13 ac 16 oed am ddim. Fodd bynnag, mae dal angen i chi gael trwydded iau."

Gellir prynu trwyddedau gwialen ar-lein yn:

https://naturalresources.wales/permits-and-permissions/buy-a-fishing-rod-licence/?lang=cy