Cynllun Adnoddau Coedwig ar gyfer Niwbwrch

Ceisir barn aelodau’r cyhoedd am sut caiff Coedwig Niwbwrch ei rheoli yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn adolygu ei Gynllun Adnoddau Coedwig ar gyfer yr ardaloedd o’r goedwig sy’n gyfochrog â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch ar Ynys Môn.

Bydd y cynllun yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno gwaith rheoli coedwig cynaliadwy CNC ac mae’n cyflwyno’r amcanion ar gyfer y deng mlynedd nesaf.

Mae’n ystyried buddion y safle i’r gymuned leol ac i ymwelwyr, y rhai sy’n dibynnu ar yr ardal i wneud bywoliaeth a chenedlaethau’r dyfodol, ar yr un pryd â sicrhau ei fod yn gydnerth yn y tymor hir mewn perthynas â’r argyfyngau natur a hinsawdd.

Meddai Martin Cox, Pennaeth Gweithrediadau CNC ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru:

“Mae Coedwig Niwbwrch a’r ardal gyfagos yn dirwedd ddynamig a chymhleth â nifer o ecosystemau sy’n cydgysylltu. 
“Wrth gynllunio unrhyw waith yn Niwbwrch ein nod yw cydbwyso barn ac uchelgais pobl a bod yn gymydog da, ar yr un pryd â diogelu’r safle mewn amgylchedd sy’n newid o hyd.
“Nid yw peidio â chynllunio ar gyfer y dyfodol yn opsiwn. Mae prosesau naturiol yn newid cyfansoddiad y goedwig a bydd newid hinsawdd a’r codiad yn lefel y môr hefyd yn cael effaith ar ei chyfansoddiad a’i dosbarthiad yn y tymor hir.
“Bydd y cynllun hwn yn caniatáu i’r goedwig fod yn fwy cydnerth yn wyneb y newidiadau hyn. Mae coedwig gydnerth yn dda i natur ac i bobl, a bydd yn helpu i gynnal adnodd hamdden pwysig a lle arbennig i bobl ymweld ag e. Bydd y penderfyniadau rheoli a wnawn yn ystod oes y cynllun yn seiliedig ar dystiolaeth a gwaith monitro rheolaidd.
“Mae’r Cynllun Adnoddau Coedwig yn un o dri chynllun pwysig iawn sy’n ategu ei gilydd ac sy’n ein helpu i ofalu am y tir rydym yn berchen arno neu’n ei reoli yn Niwbwrch. Mae’n eistedd ochr yn ochr â’n cynllun ar gyfer gwaith cadwraeth a’n ‘cynllun pobl’ sydd yn yr arfaeth, sy’n ystyried sut mae pobl yn defnyddio’r safle, llesiant, hamdden, mynediad a’r economi.
“Rydym yn annog pobl i ddweud eu dweud am y cynllun hwn a dod i un o’n sesiynau galw heibio i siarad â staff fel rhan o’n gwaith ymgysylltu ehangach yn Niwbwrch.”

Bydd sesiynau galw heibio yn cael eu cynnal ddydd Mercher 2 Tachwedd rhwng 1pm a 7pm yn Neuadd Prichard Jones, Niwbwrch, LL61 6SY; a dydd Iau 3 Tachwedd rhwng 3pm a 7pm yng Nghlwb Pêl-droed Tref Llangefni, Llangefni, LL77 7RP. Os oes modd, gofynnir i’r rhai sy’n dymuno dod gofrestru eu diddordeb drwy Eventbrite.

I gael rhagor o wybodaeth neu i ddweud eich dweud, ewch i Cynllun Adnoddau Coedwig Niwbwrch